Skip to content

Cacennau cri Tŷ Tredegar

A close up of a plate of sugar dusted Welsh cakes in the restaurant at Dinefwr Park, Llandeilo, Wales
Cacennau cri, trit amser te Cymreig traddodiadol | © National Trust Images/Paul Harris

A elwir hefyd yn picau ar y maen, picau bach, ‘griddle cakes’, ‘Welsh tea cakes’ a ‘Welsh miner cakes’. Yn draddodiadol cânt eu coginio ar lechfaen, ac yn aml byddai eu henw’n newid yn ôl y gair rhanbarthol am y llechfaen ei hun.

Y pethau sylfaenol

  • Yn gwneud: tua 12
  • Amser paratoi: 10 minutes
  • Amser coginio: 4-5 minutes

Cynhwysion

  • 385g Blawd hunan-godi
  • 143g Siwgr caster
  • 193g Margarîn, wedi’i dorri’n giwbiau
  • 3g Sbeis cymysg wedi’i falu
  • 102g Cyrens
  • 1 Ŵy, wedi'i guro
  • 34ml Llaeth ceirch
  • Olew coginio i iro’r radell neu badell

Dull

  1. Cymysgwch y blawd, siwgr a’r margarîn mewn bowlen nes bod y gymysgedd yn debyg i friwsion bara mân. Ychwanegwch y cyrens a chymysgu.
  2. Ychwanegwch yr ŵy wedi'i guro. Ychwanegwch y llaeth yn raddol nes bod toes meddal yn ffurfio.
  3. Rholiwch y toes allan ar arwyneb gydag ychydig o flawd arno nes ei fod yn 3cm o drwch ac yna torrwch yn gylchoedd â thorrwr 7cm.
  4. Rhowch ychydig o olew mewn padell grillio neu radell flat a’i chynhesu dros wres canolig. Rhowch y cacennau cri yn y badell a’u pobi am tua 2½ funud ar y ddwy ochr neu nes eu bod yn frown euraid.
  5. Tra’n gynnes, taenwch siwgr caster drostynt.

Dyma rysáit teulol Jo Lane, cogydd Tŷ Tredegar, Casnewydd.

Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Tŷ Tredegar 

Mae Tŷ Tredegar a’i erddi a’i barcdir amgylchynol, lleoliad sydd wedi’i siapio gan y gymuned leol, yn sefyll yn falch wrth galon treftadaeth Casnewydd.

Newport

Yn hollol agored heddiw
Tŷ Tredegar

Cestyll a chaerau yng Nghymru 

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

Golygfa o wyneb gogleddol Castell y Waun ar ddiwrnod rhewllyd yng Nghymru.

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Golygfa o'r awyr yn y gaeaf o Lanerchaeron, Ceredigion

Llefydd i fwyta a siopa yng Nghymru 

Awydd cinio ysgafn neu ddiod boeth? Chwilio am yr anrheg berffaith? Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein caffis, ystafelloedd te a siopau yng Nghymru.

Rhywun yn sleisio mewn i gacen Victoria sponge