Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru, o gartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis i gaer ganoloesol y Waun a chyfoeth siwgr a llechi Castell Penrhyn.
O ddwnsiynau tywyll i fawredd Fictoraidd, darganfyddwch gestyll sy’n rhan annatod o hanes Cymru, o Wrecsam i Wynedd.
Castell ffantasi â sylfeini diwydiannol a threfedigaethol, dysgwch fwy am hanes hir o gyfoeth siwgr a llechi a chythrwfl cymdeithasol yn y castell neo-Normanaidd enfawr hwn o’r 19eg ganrif.
Gyda phopeth o ddwnsiynau i olygfeydd godidog, mae digon i’w ddarganfod ar ymweliad â’r gaer drawiadol hon, a adeiladwyd gan Edward I i ddofi tywysogion olaf Cymru.
Dilynwch yn ôl troed tywysogion Powys a darganfod rhai o ystafelloedd castell gorau’r wlad.
Darganfyddwch gasgliad eang o luniau, cerfluniau a dodrefn yng Nghastell Powis, caer ganoloesol sy’n sefyll dros derasau gardd byd-enwog.
Darganfyddwch adfeilion cestyll sy’n gyfoeth o chwedlau a hanes, o Sir Gâr i Sir Fynwy.
Darganfyddwch adfeilion caer o’r 13eg ganrif a adeiladwyd gan y Normaniaid i hawlio un o’r prif lwybrau o Loegr.
Datgelwch bron i 800 mlynedd o hanes yng nghastell ysblennydd Cilgerran. Yn edrych dros yr anhygoel Geunant Teifi, mae’r gaer drawiadol o’r 13eg ganrif o dan warchodaeth Cadw.
Mae Castell Dinefwr yn edrych dros Warchodfa Natur Genedlaethol, yr hanesyddol Dŷ Newton a pharc tirlun o’r 18fed ganrif. Mae’r castell yn cael ei reoli gan Cadw.
Darganfyddwch gasgliadau cyfoethog ac amrywiol ym mhob cwr o Gymru, o gerfluniau, tapestrïau a phaentiadau i drysorau teuluol a beibl o’r 16eg ganrif a achubodd yr iaith Gymraeg.
Dysgwch am y chwedlau sydd wedi siapio tirweddau hynafol Cymru. O darddle ein draig goch enwog yn Eryri i lyn hudol Cwm Llwch.
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.
Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.
Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.