Skip to content
Rhywun yn sleisio mewn i gacen Victoria sponge
Sleisio cacen Victoria sponge | © National Trust Images/Steven Barber

Llefydd i fwyta a siopa yng Nghymru

Awydd cinio ysgafn neu ddiod boeth gyda sleisen o Fara Brith traddodiadol? Chwilio am yr anrheg berffaith? Ein caffis, ystafelloedd te a siopau yw’r llefydd delfrydol i sbwylio’ch hun a’ch anwyliaid. Mae popeth rydych yn ei brynu yn ein helpu i ofalu am leoliadau arbennig yng Nghymru, i bawb, am byth.

Caffis, ystafelloedd te a siopau yng Ngogledd Cymru

Two adults and two children sitting down at a table in a cafe eating and drinking
Erthygl
Erthygl

Gardd Bodnant 

Dewiswch o ddetholiad o fwyd a diod blasus yn un o’r ystafelloedd te neu, ar y penwythnosau, galwch yng nghaban y Glyn. I brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad â’r ardd fyd-enwog hon, ewch i Ganolfan Gardd Bodnant.

A selection of Easter decorations including felted animals and floral mugs
Erthygl
Erthygl

Castell y Waun 

Mwynhewch dameidiau ysgafn a danteithion melys yng Nghaffi’r Buarth, sy’n cael eu gwneud gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres, neu ymwelwch â fferm y plas lle gwelwch y caban cludfwyd tymhorol, siop lyfrau ail-law a siop roddion.

Scarves and a handbag hung on coat pegs
Erthygl
Erthygl

Erddig 

Yn Erddig fe welwch Fwyty Taflod a’r Ystafell De, ill dau’n gweini bwyd a diod blasus. Casglwch rodd o’r siop neu dewiswch lyfr gwych o’r siop lyfrau ail-law.

A close up of a scone covered in cream and jam
Erthygl
Erthygl

Castell a Gardd Penrhyn 

Ymwelwch â Chaffi’r Castell am ginio blasus a chacennau sy’n ddigon i dynnu dŵr o’r dannedd, ac mae’r siop yn gwerthu amrywiaeth o roddion lleol. Ym Mloc y Stablau fe welwch siop lyfrau ail-law.

Agoslun o ferch yn gafael brechdan yn agos at ei cheg
Erthygl
Erthygl

Tŷ a Gardd Plas Newydd 

Mae Caffi’r Hen Laethdy yn cynnig cinio ysgafn a chacennau ffres, tra bod y siop dan ei sang â rhoddion. Gyda golygfeydd o Afon Menai, mae Caban yr Heuldy hefyd yn cynnig dewis gwych o hufen iâ, diodydd poeth a snacs.

Caffis, ystafelloedd te a siopau yng Nghanolbarth Cymru

Catering assistant with a tray of coffee and hot chocolate in the cafe at Llanerchaeron, Wales.
Erthygl
Erthygl

Llanerchaeron 

Ar lannau afon Aeron, Conti’s Café yw’r lle perffaith i fwynhau diod, snac neu sgŵp o’u hufen iâ enwog. Gallwch hefyd brynu cynnyrch a dyfwyd yn yr ardd yn Llanerchaeron a phori’r siop lyfrau ail-law.

Platiaid o gacennau cri ar gownter, gydag arwydd yn dweud ‘Welsh cakes/Cacen gri’, a phentwr o sgons yn y caffi yng Nghastell Powis, Cymru
Erthygl
Erthygl

Castell a Gardd Powis 

Mwynhewch drît blasus yng Nghaffi’r Buarth neu Siop Goffi’r Ardd, sydd wedi’i lleoli yn y gerddi ffurfiol prydferth. I’ch helpu i gofio diwrnod allan gwych, mae ‘na amrywiaeth eang o roddion yn Siop y Buarth neu Siop yr Ardd.

Caffis, ystafelloedd te a siopau yn Ne Cymru

Aelod o staff yn defnyddio’r peiriant coffi yng Nghaffi’r Ystafell Filiards yn Ninefwr, Sir Gâr, Cymru
Erthygl
Erthygl

Dinefwr 

Mae tîm y caffi’n gweini lluniaeth yn yr Ystafell Filiards hanesyddol neu gallwch ymlacio ar y buarth yn yr awyr iach, lle gallwch weld ceirw a’r Gwartheg Parc Gwyn enwog.

Agoslun o gawl a bara yn cael ei gweini gan gymhorthydd arlwyo.
Erthygl
Erthygl

Gerddi Dyffryn 

Ewch i gaffi agored braf yr Oriel lle gallwch fwynhau diodydd poeth ac oer, cacennau a snacs tra’n edmygu’r gerddi. Dewch o hyd i’r anrheg berffaith yn y siop, y sêls planhigion neu’r siop lyfrau ail-law.

Ystafell de’r Tŷ Cychod yn edrych dros Gei Stagbwll, Sir Benfro.
Erthygl
Erthygl

Stagbwll 

Mwynhewch ffefrynnau ffein yn Nhŷ Te’r Tŷ Cychod a mwynhau golygfeydd godidog o Gei Stagbwll. Cyn ei throi hi am y traeth, casglwch lyfr o’r trelar llyfrau ail-law.

Coffee and cake at the Orangery restaurant Cliveden National Trust
Erthygl
Erthygl

Tŷ Tredegar 

Wrth galon Fferm y Plas yn Nhŷ Tredegar mae Caffi’r Bragdy – galwch draw am diodydd a bwyd poeth. Yr ochr arall i’r buarth, ymwelwch â’r siop lyfrau ail-law lle mae popeth sy’n cael ei brynu yn ein helpu i ofalu am y lle arbennig hwn.

Llefydd i fwynhau picnic yng Nghymru

Teulu yn eistedd ar flanced ac yn cael picnic yn y Cymin, Sir Fynwy. Mae plentyn yn ymestyn ei law i dderbyn fwyd oddi wrth aelod arall o’r teulu.
Erthygl
Erthygl

Llecynnau picnic perffaith yng Nghymru 

Trefnwch y picnic perffaith yng Nghymru a bwyta yn yr awyr iach mewn ystâd fawreddog, ar draeth tlws neu mewn hafan goediog i fywyd gwyllt, gyda golygfeydd godidog o awyr agored Cymru.

Pob lle bwyta yng Nghymru

    Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

    Dewch i ddarganfod Cymru

    Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.