Skip to content
Prosiect

Ymgynghoriad Gwersyll Fferm Gupton

The camping fields at Gupton Farm Campsite, Pembrokeshire
Safle Gwersylla Fferm Gupton | © National Trust / Paul Harris

Lleolir Safle Gwersylla Fferm Gupton ger traeth syrffio Freshwater West yn Sir Benfro. Yn ystod Chwefror 2026 cafwyd ymgynghoriad am ein cylluniau arfaethedig ar gyfer y safle gwersylla.

Fferm Gupton

Bu hon yn fferm draddodiadol ar un adeg ac mae’r hen adeiladau nawr yn ganolbwynt i safle gwersylla croesawgar.

Mae Gupton yn ddrws i ymwelwyr sy’n aros yma sydd eisiau crwydro arfordir Sir Benfro, ac mae’n cynnig dihangfa i eneidiau anturus a’r rhai sy’n caru byd natur.

Nawr, fel rhan o gynlluniau i gael dyfodol mwy sicr i’r safle, rydym yn ceisio caniatâd cynllunio i wneud y safle gwersylla yn un parhaol gyda mwy o hyblygrwydd ynghyd â gwelliannau i gynefinoedd ar gyfer byd natur.

Y ddarpariaeth gwersylla bresennol yn Fferm Gupton

Ers 2015, rydym wedi bod yn cynnal Safle Gwersylla Fferm Gupton ar sail safle eithriedig. Mae hyn yn rhoi caniatâd dros dro i agor o fis Mawrth i fis Tachwedd.

Mae byncws (Surf Lodge) yn y gwersyll, ardal dan do (Hwb), bloc cawodydd a thoiledau a siop, ac rydym yn croesawu tua 3,000 o westeion bob blwyddyn. Mae tri chae sy’n lletya hyd at 50 o bebyll a phum llain ar gyfer faniau gwersylla. Mae’r caeau gwersylla’n cael eu cylchdroi fel caeau cyfan, er mwyn i’r tir gael gorffwys.

Cynlluniau ar gyfer y safle gwersylla yn y dyfodol

Rydym yn ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer safle gwersylla parhaol yn Gupton, fydd yn agor am yr un nifer o ddyddiau o fis Mawrth i fis Tachwedd ac yn cadw’r un capasiti cyfan (wedi’i gapio ar 100 o bobl ar y safle fesul noson a hyd at 50 o leiniau ar werth fesul noson).

Y newid allweddol rydym yn ceisio ei gyflwyno ydy cynyddu hyblygrwydd o ran mathau o leiniau. Rydym yn cynnig cynyddu nifer y lleiniau i faniau gwersylla o 5 i 20, gan ganiatáu rhagor o hyblygrwydd a chylchdroi ochr yn ochr â lleiniau pebyll.

Byddai’r dull hyblyg hwn o weithredu yn galluogi’r safle gwersylla i addasu i’r galw tymhorol gan gadw o fewn y terfynau capasiti presennol.

Byddai ein dull o gylchdroi’r tir ar gyfer lleiniau gwersylla yn newid hefyd, ac yn hytrach na chylchdroi caeau cyfan, byddem yn cylchdroi lleiniau unigol er lles y tir a’r gwesteion.

Rydym hefyd yn bwriadu gwneud cais am bum Pod Tir fyddai’n cael eu lleoli’n dymhorol. Byddai’r rhain yn creu darpariaeth ar gyfer pobl nad oes ganddynt fynediad at eu pabell neu eu fan eu hunain ond sydd eisiau mwynhau profiad tebyg sy’n seiliedig ar natur.

Byddai’r newidiadau hyn ein galluogi i ateb y galw presennol yn well yn ystod y tymor prysuraf ac yn darparu opsiwn dichonadwy ar gyfer llety yn ystod y tymhorau ysgwydd pan mae amodau’r tywydd yn golygu bod gwersylla traddodiadol yn llai apelgar.

Byddai cael gwesteion yn aros ar draws y tymor o fudd i staff y gwersyll drwy ddarparu oriau a chyflogaeth cyson.

Mae cynigion i wneud nifer o welliannau i gynefinoedd wedi’u cynnwys yn y cais hefyd, gan gynnwys plannu gwrychoedd, gwelliannau i weirgloddiau blodau gwylltion a chyflwyno blychau ystlumod ac adar.

Ymgynghori ar ein cynlluniau

Ym mis Chwefror cynhaliwyd ymgynghoriad er mwyn casglu adborth ynglŷn â’n cynlluniau arfaethedig ar gyfer Safle Gwersylla Fferm Gupton.

Cafwyd cyfle i drafod a rhoi adborth mewn sesiynau yn y gwersyll a'r cyfle i anfon adborth yn ddigidol. Mae modd gweld y prif ddogfennau isod. Diolch i bawb rodd eu hamser i ddarparu adborth ar y cynlluniau.

Prif ddogfennau'r Ymgynghoriad Statudol:

Gwersyll Fferm Gupton - Atodlen Cais Cynllunio

Gwersyll Fferm Gupton - Datganiad Cynllunio a Dylunio a Mynediad

Beth sydd nesaf?

Yn dilyn cyfnod o ymgynghori statudol yn ystod mis Chwefror 2026, rydym yn bwriadu cyflwyno’r cais cynllunio llawn yn ddiweddarach yn y gwanwyn. Os bydd y cais cynllunio yn llwyddiannus, y bwriad ydy dechrau gweithredu gyda chaniatâd cynllunio parhaol a’r cyfuniad newydd o leiniau yng ngwanwyn 2027.

Ateb eich cwestiynau

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymweld â Freshwater West a Fferm Gupton 

Fferm Gupton yw canolfan ymwelwyr traeth Freshwater West, gyda maes gwersylla, llety hunan-arlwyo a chyfleusterau cymunedol. Mae’r ymchwydd cyson a’r tonnau cryf yn gwneud hwn yn un o’r llefydd gorau yng Nghymru i syrffio. Mae’n hafan i fywyd gwyllt hefyd – mae’r blodau gwyllt yn ddirifedi a’r adar yn ffynnu.

Yr olygfa dros Freshwater West a Fferm Gupton, Sir Benfro

Ymgynghoriad Cronfa Adfywio Cymunedol y DU Freshwater West 

Darganfod sut rydym yn dod o hyd i ffordd o gydbwyso natur a thwristiaeth yn Freshwater West, gan ddefnyddio atebion a gyflwynwyd gan Ymgynghoriad y Gronfa Adnewyddu Cymunedol.