Skip to content

Ymweld â Freshwater West a Fferm Gupton

Yr olygfa dros Freshwater West a Fferm Gupton, Sir Benfro
Fferm Gupton yn Freshwater West | © National Trust Images/Owen Howells

Mae ymchwydd cyson a thonnau mawr Freshwater West yn gwneud hwn yn un o’r llefydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru i syrffwyr profiadol. Gyda cherrynt cryf yr ardal, mae’n lle delfrydol i bobl sydd â phrofiad helaeth o gampau dŵr. Cerddwch tua’r tir mawr i weld y guddfan adar bren newydd lle gallech weld amrywiaeth o adar arfordirol.

Ymwelwch â thraeth gwyllt a gwyntog 

Mae Freshwater West yn draeth llydan, tywodlyd, trawiadol sydd â thwyni mawr naturiol, ac mae’n lle poblogaidd i syrffwyr profiadol. Mae digon o dywod i adeiladu cestyll campus, hedfan barcud neu fynd am dro ar hyd yr arfordir gwyllt. Mae llawer o byllau glan môr ar y traeth sy’n berffaith ar gyfer anturiaethwyr bach sydd am ddod o hyd i greaduriaid morol.  

Syrffio heriol

Mae’r traeth, sy’n wynebu’r de-orllewin, yn lle poblogaidd iawn i syrffwyr ac yn un o leoliadau syrffio gorau Cymru. Argymhellir Freshwater West ar gyfer syrffwyr mwy profiadol yn unig oherwydd y cerrynt cryf a nerth y tonnau.

Freshwater West yw lleoliad blynyddol Pencampwriaethau Syrffio Cenedlaethol Cymru oherwydd y tonnau cryfion cyson. 

Mae Prif Oruchwylydd Achubwyr Bywyd De Cymru RNLI, Chris Rigby, yn siarad am beryglon posibl y dŵr yn Freshwater West: 'Gall mynd i mewn i’r dŵr yn Freshwater West fod yn beryglus iawn. Mae’n gartref i donnau mawr, cerrynt cryf, creigiau tanddwr a banciau tywod.’ 

Ewch i wefan yr RNLI am ragor o wybodaeth. 

Golygfa arfordirol o Fferm Gupton, Freshwater West, gyda chaeau gwyrddion yn ymestyn tua’r môr a bryniau yn y cefndir.
Golygfa arfordirol yn Fferm Gupton, Freshwater West | © National Trust Images/Chris Lacey

Lle i aros yn Fferm Gupton  

Mae Fferm Gupton yn cynnig man gwersylla a chabanau syrffio hunan-arlwyo i’r sawl sydd am aros ychydig yn hirach yn Freshwater West. Mae’n gyfle gwych i weld y lle arbennig hwn mewn golau newydd, mewn lleoliad naturiol. 

Porth i’r traeth

Mae Fferm Gupton yn ganolbwynt gwych i ymwelwyr â thraeth Freshwater West. 

Mae’r fferm draddodiadol hon yn Sir Benfro wedi’i harallgyfeirio, a dyma bellach eich porth i’r traeth. Mae’r fferm yn cynnwys popeth sydd ei angen i wersylla a llety hunan-arlwyo i grwpiau o hyd at ddeg o bobl yn y caban syrffio. 

Mae’r traeth yn wyllt a thywodlyd, ac yn agos at galonnau’r sawl sy’n hoff o natur ac antur. Gwnewch y gorau o’ch ymweliad â’r darn hyfryd hwn o arfordir, neu trowch hi tua’r tir mawr i wylio ein bywyd gwyllt. 

Cyfleusterau i ymwelwyr a’r gymuned 

Rydym wedi creu canolfan ddehongli i ymwelwyr a’r gymuned leol, sy’n rhannu gwybodaeth am hanes Fferm Gupton a Freshwater West. Mae yma ganolfan gweithgareddau awyr agored hefyd, sydd nawr yn cael ei rhedeg gan Outer Reef Surf School. Gallwch drefnu amrywiaeth o gampau dŵr ar hyd ein harfordir arbennig. 

Archebwch sesiwn campau dŵr https://www.outerreefsurfschool.com/ 

Ffermio er budd natur 

Mae gan Fferm Gupton ymagwedd gynaliadwy at ffermio, a ffocws ar gadwraeth. 

Mae hyn wedi cynnwys adfer ac ymestyn y cynefinoedd hanesyddol a gweithio gyda natur i addasu i newid arfordirol.  

Y cefn gwlad yn Fferm Gupton, Sir Benfro, gyda chlystyrau o laswelltau gwahanol yn y blaendir.
Golygfa cefn gwlad yn Fferm Gupton, Sir Benfro | © National Trust Images/John Miller

Gwylio bywyd gwyllt yn Freshwater West

Mae system o dwyni tywod naturiol a gwlyptir eang, Cors Castellmartin, yn gefnlen hyfryd i Freshwater West. Mae’r ardal yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd ac mae’n denu nifer o adar sy’n nythu ar y ddaear.  

I’ch helpu i ddod yn nes at natur, rydym wedi agor rhwydwaith o lwybrau sy’n arwain at guddfan adar bren.  Cofiwch ddod â'ch binocwlars. 

5 aderyn i’w gweld yn ystod eich ymweliad 

  1. Boda’r Gwerni: Cadwch olwg am yr aderyn hwn yn hedfan dros y gwelyau cyrs. Yn wir, roedd un yma pan roedd ein cuddfan yn cael ei hadeiladu. 
  2. Telor Cetti: Mae’r aderyn hwn yn nythu ar hyd yr ymylon prysgog yn yr haf a’r gaeaf. Mae’n swil iawn, a phrin y caiff ei weld. Clustfeiniwch am ei gân groch – tsinc-tsinca-tsincatsinc main.
  3. Rhegen Ddŵr: Mae’n hawdd clywed yr adar hyn, ond maent yn feistri ar guddio yn y gwelyau cyrs. Clustfeiniwch am eu cri unigryw – mae’n swnio fel moch bach yn gwichian.
  4. Crëyr Glas: Gyda’i goesau hirion a’i big, mae’r crëyr glas yn ymwelydd cyffredin â’r gwlyptir. Mae’n bwydo ar famaliaid bach, amffibiaid a physgod. O bryd i’w gilydd mae i’w weld yn ymestyn ei adenydd llydan ac yn hedfan mewn cylchoedd fry uwchben. 
  5. Llinos: Mae haid fechan i’w gweld yma yn aml, fel arfer yn bwyta hadau o gwmpas Fferm Gupton. Mae eu cân yn soniarus a’u cri hedfan yn drydarol. 

Ariannwyd y guddfan adar gan yr ymgyrch arfordirol Neptune, menter a yrrwyd gan unigolion a sefydlwyd dros 50 mlynedd yn ôl i helpu i warchod ein mannau glan môr arbennig. Mae eich cyfraniadau caredig wedi ein galluogi i greu canolfan wych i wylio bywyd gwyllt. Diolch. 

Ymwelwyr yn cerdded ar y traeth yn Freshwater West

Darganfyddwch fwy yn Freshwater West a Fferm Gupton

Dysgwch sut i gyrraedd Freshwater West a Fferm Gupton, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Rhes odynau calch cerrig wrth ochr Arfordir Solva, Penfro, Cymru
Erthygl
Erthygl

Hanes Arfordir Solfach 

Mae arfordir Solfach yn gyfoeth o hanes cudd, sy’n aros i chi ei ddarganfod. Darganfyddwch gaerau Oes Haearn, odynau calch a hen felinau ar eich ymweliad.

Ancient oak woodland at Lawrenny on the Cleddau Woodlands, Pembrokeshire
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â Choedwigoedd Cleddau  

Mae Coedwigoedd Cleddau’n gartref i amrywiaeth eang o fflora a ffawna - gyda thirweddau amrywiol, o forfeydd heli a thraethellau lleidiog ar yr aber i goetiroedd derw, mae digon i’w weld yma.