Skip to content
Prosiect

Ymgynghoriad Cronfa Adfywio Cymunedol y DU Freshwater West

Lloches drionglog yn edrych dros y môr yn Freshwater West, Sir Benfro
Yr arfordir gwyllt yn Freshwater West | © National Trust Images/Trevor Ray Hart

Mae Freshwater West yn draeth gwyllt, hardd a phoblogaidd iawn, sydd wedi dod yn fwyfwy poblogaidd dros amser. Mae mynediad i natur a’r awyr agored i bawb yn hollbwysig, ond mae’r cynnydd mewn ymwelwyr wedi rhoi pwysau cynyddol ar gyfleusterau a pharcio ac wedi effeithio ar nodweddion naturiol a gwarchodedig y lle arbennig iawn hwn. Dysgu sut mae'r Ymgynghoriad gan y Gronfa Adnewyddu Cymunedol yn dod o hyd i atebion i gydbwyso twristiaeth a natur yn y lle arbennig iawn hwn.

Ymgynghoriad gan y Gronfa Adnewyddu Cymunedol

Er mwyn helpu deall y materion hyn, ac ystyried opsiynau ar gyfer y dyfodol, cynhaliwyd proses ymgynghori wyth mis o hyd gan Planning Solutions Consulting Limited. Rydym nawr yn rhannu'r canfyddiadau, cynigion a chynllun gweithredu Ymgynghoriad gan Gronfa Adfywio Cymunedol Freshwater West UK gyda phawb.
Nod cyffredinol yr ymgynghoriad oedd dod o hyd i atebion i gydbwyso anghenion yr amgylchedd naturiol yn Freshwater West, gyda mwynhad pawb o’r traeth a’r arfordir. Cyfrannodd bron i 5,000 o bobl at ddau arolwg ar-lein, gyda mwy yn mynd i ddigwyddiadau galw heibio, gweithdai a thrafodaethau a ffurfiodd raglen ymchwil fanwl yr ymgynghoriad.

Yr olygfa dros Freshwater West a Fferm Gupton, Sir Benfro
Fferm Gupton yn Freshwater West | © National Trust Images/Owen Howells

Trwy ymgysylltu â phawb sy’n ymweld â’r traeth ar ystod eang o gynigion gan gynnwys meysydd parcio, traffig, toiledau ac arwyddion, mae blaenoriaethau allweddol wedi’u nodi ar gyfer Freshwater West.

Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gyfrannu.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.

Darllenwch yr Adroddiad Freshwater West Cynaliadwy Terfynol (Saesneg yn unig).

I ofyn am gopi pdf o Grynodeb Gweithredol Freshwater West Cynaliadwy - neu’r Adroddiad Freshwater West Cynaliadwy Terfynol e-bostiwch stackpole@nationaltrust.org.uk

Llinell amser prosiect Freshwater West cynaliadwy

Gorffenaf 2023

Diolch i bawb a fynychodd y digwyddiad darlunio yn y tywod

Cynhaliwyd digwyddiad celf tywod yn Freshwater West ar 8 Gorffennaf, gyda’r artist lleol Charlotte Cortazzi. Bydd y traeth yn croesawu nifer fawr o ymwelwyr dros yr haf eleni, a nod y digwyddiad oedd annog ymwelwyr i beidio gadael eu hôl, ac i gadw’r traeth yn lân ac yn glir rhag sbwriel. Mae hyn yn neilltuol o bwysig gyda’r twyni tywod, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Hoffwn ymestyn ein diolch calonnog i’r oll a fu’n cymryd rhan.

Golygfa o’r awyr o ddigwyddiad celf tywod, Freshwater West, Sir Benfro.
Golygfa o’r awyr o ddigwyddiad celf tywod, Freshwater West, Sir Benfro. | © Dave Welton
Ymwelwyr yn cerdded ar y traeth yn Freshwater West

Darganfyddwch fwy yn Freshwater West a Fferm Gupton

Dysgwch sut i gyrraedd Freshwater West a Fferm Gupton, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Ein partneriaid

Planning Solutions Consulting

Ymgynghorwyr twristiaeth, yn arbenigo mewn profiadau ymwelwyr ers 1995.

Ymweld â'r wefan 

PLANED

Mae PLANED yn darparu canlyniadau cynaliadwy i gymenedau drwy ddull cydweithredol wedi ei arwain gan y bobl.

Ymweld â'r wefan 

Hiraeth

Hiraeth Architecture: Croesawu’r gorffennol, creu’r dyfodol.

Ymweld â'r wefan 

UK Government

Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa arfordirol yn Freshwater West, Sir Benfro, yn edrych dros draeth graeanog tua’r môr garw, â’r tonnau ewynnog yn torri ar y lan.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Freshwater West a Fferm Gupton 

Fferm Gupton yw canolfan ymwelwyr traeth Freshwater West, gyda maes gwersylla, llety hunan-arlwyo a chyfleusterau cymunedol. Mae’r ymchwydd cyson a’r tonnau cryf yn gwneud hwn yn un o’r llefydd gorau yng Nghymru i syrffio. Mae’n hafan i fywyd gwyllt hefyd – mae’r blodau gwyllt yn ddirifedi a’r adar yn ffynnu.

Yr olygfa dros Freshwater West a Fferm Gupton, Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Arfordiroedd a thraethau Sir Benfro 

Dysgwch fwy am bethau i’w gweld a’u gwneud ar ymweliad â Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru, o ddiwrnod ar y traeth yn Ne Aber Llydan i heicio o gwmpas Arfordir Solfach, neu fynd ar gwch i Ynys Sgomer.