Skip to content

Ystâd Colby Taith Gerdded Mount and Barns Field (Llwybr Porffor)

Cymru

Ystâd Colby Taith Gerdded Mount and Barns Field
Ystâd Colby - Taith Gerdded Mount and Barns Field | © James Dobson

Mae'r llwybr hunan-dywys hwn wedi'i farcio gan lwybr 2km o borfa wedi’i thorri sy’n mynd trwy gaeau a gwrychoedd i greu llwybr cylchol clocwedd. Mae gan y safle doreth o'r hen a'r newydd, gyda ffiniau caeau hanesyddol a llwybrau cloddio, yn ogystal â choetir llydanddail brodorol sydd wedi’i blannu’n ddiweddar (2024) gyda phyllau bywyd gwyllt drwyddi draw. Mwynhewch daith hamddenol gyda golygfeydd eang. Cadwch olwg dros amser wrth i’r safle newydd hwn ddod yn noddfa i lygod yr ŷd, gloÿnnod byw a gweision y neidr.

Man cychwyn

Rosemary Lane, cilfan, cyfeirnod grid: SN 15326 09934

Pa Mor Heriol*

Hygyrchedd**

Llwybr llawn

PellterMilltiroedd: 1.2 (km: 1.92)
Hyd 50 munud
Addas i gŵn***
  1. *Mae esgidiau cerdded sy’n dal dŵr yn cael eu hargymell ar gyfer y daith gerdded hon. Gall y llwybr fod yn fwdlyd, yn enwedig yn y gaeaf. Amrywio rhywfaint o dir gwastad. Mae pyllau'n beryglus i blant felly dylid eu goruchwylio.

  2. **Ddim yn addas ar gyfer pramiau, cadeiriau olwyn na phobl gyda symudedd gwael.

  3. ***Rhaid cadw rheolaeth dynn ar gŵn bob amser a’u rhoi ar dennyn byr o gwmpas da byw ar Ystâd Colby. Cŵn ar dennyn drwy Ardd Goetir Colby. Caniateir cŵn yn yr Ystafell De. Cŵn cymorth yn unig a ganiateir yn yr Ardd Furiog. Ewch â baw eich ci gartref gyda chi.

  • Cyfanswm y rhannau: 6

    Cyfanswm y rhannau: 6

    Man cychwyn

    Rosemary Lane, cilfan, cyfeirnod grid: SN 15326 09934

    Rhan 1

    O’r gilfan, ewch drwy’r giât fetel, ar draws yr iard a heibio adeiladau'r fferm.

    Rhan 2

    Ewch drwy’r giât fetel, yna parhewch ar hyd y llwybr cylchol clocwedd troellog drwy ddilyn y llwybr o borfa wedi’i thorri. Ewch drwy sawl cae a giât (yn ddibynnol ar weithgarwch pori).

    Rhan 3

    Ewch drwy’r giât fetel, trowch i’r chwith drwy’r giât fetel gyfagos. Ewch ymlaen tua’r dwyrain drwy’r caeau gan ddilyn y tro yn y llwybr am y de.

    Rhan 4

    Ewch drwy’r giât fetel, trowch i’r chwith ac ewch drwy’r giât fetel nesaf. Parhewch i ddilyn y llwybr ar draws y caeau.

    Rhan 5

    Pan fyddwch yn cyrraedd y giât fetel ar Rosemary Lane, croeswch y ffordd yn ofalus a dilynwch y llwybr drwy’r giât fetel sydd gyferbyn. Parhewch ar hyd y llwybr cylchol clocwedd troellog drwy ddilyn y llwybr o borfa wedi’i thorri.

    Rhan 6

    Mentrwch ar draws y cae olaf tuag at goeden dderw hynafol, fawr. Byddwch yn ofalus wrth fynd drwy’r giât ac ar y ffordd ar gyfer y 90m olaf yn ôl tuag at y gilfan.

    Man gorffen

    Rosemary Lane, cilfan, cyfeirnod grid: SN 15326 09934

    Map llwybr

    Colby Estate Mount and Barns Field walk (Purple Trail) map
    Colby Estate Mount and Barns Field walk (Purple Trail) map | © National Trust Images

    Dyna ni, da iawn chi

    Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Ymwelwch â Gardd Goedwig Colby 

Mae rhywbeth i bawb yma, o hanes diymhongar yr ardd gegin wreiddiol i dreftadaeth gyfoethog yr ardd goedwig a’r lle chwarae naturiol.

Awyrlun o Gardd Goetir Colby gyda’r arfordir yn y pellter

Bywyd gwyllt yng Ngardd Goedwig Colby 

Mae dyffryn coediog Colby dan ei sang â chreaduriaid o bob lliw a llun. Cadwch olwg am adar, pryfed, ystlumod prin ac ambell ddyfrgi hyd yn oed.

Golwg graff ar ddwylo plentyn yn dal broga brown bach yn yr ardd yn yr Argory, Swydd Armagh.

Bwyta a Siopa yng Ngardd Goetir Colby 

Mae Ystafell De’r Caban, sy’n ffefryn gyda phobl leol ac ymwelwyr fei ei gilydd, yn gweini cinio blasus a chacennau sy’n tynnu dŵr o’r dannedd ac mae Galeri’r Groglofft yn gwerthu cynnyrch lleol wedi’u crefftio â llaw. Mae yna siop lyfrau ail-law a chofroddion ar gyfer yr ardd yn ein Canolfan Ymwelwyr.

Golygfa allanol o adeilad y caffi ac adeilad yr oriel gyda byrddau a chadeiriau yng nghwrt Gardd Goedwig Colby, Sir Benfro

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â Cotswold Outdoor. Dewch i ganfod sut maent yn ein helpu ni i ofalu am leoedd gwerthfawr a'r gostyngiadau arbennig sydd ar gael i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

A couple are walking outdoors

Cysylltwch

Gardd Goedwig Colby, ger Llanrath, Sir Benfro, SA67 8PP