
Darganfyddwch fwy yng Ngardd Goedwig Colby
Dysgwch pryd mae Gardd Goedwig Colby ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Wedi’i lleoli mewn dyffryn heddychlon cudd, mae’r ardd goedwig hon, sydd â hanes diwydiannol cyfoethog, yn llawn rhyfeddodau. Mwynhewch lwybrau coediog cysgodol, dôl o flodau gwyllt a gardd furiog liwgar. Crwydrwch y ddôl, lle mae nant brydferth, cerrig camu a phont bren, adeiladwch guddfan yn y goedwig neu dilynwch un o’n llwybrau tymhorol. Mae digon i’w ddarganfod ar ymweliad â Colby.
Mae tiroedd coediog Colby yn hafan i natur – y lle perffaith i fynd am dro tra’n mwynhau golygfeydd a synau swynol yr hydref. Ceisiwch ddod o hyd i ffwng ar lawr y goedwig, gwiwerod yn chwilota am gnau ac adar yn paratoi ar gyfer y gaeaf. Rhyfeddwch at liwiau hydrefol tanbaid y masarn, y cwyrwiail a’r gludwydd ar eich taith. Mae ‘na berllan fechan y gallwch ymweld â hi ar yr ystâd ehangach, yn ogystal â choed ffrwythau yn yr ardd furiog.

Wedi dechreuad digon difflach fel gardd gegin, roedd yr ardd furiog wedi mynd â’i phen iddi erbyn y 1970au. Cafodd ei thrawsnewid yn lleoliad ffurfiol gan Mr a Mrs Scourfield-Lewis, a gymerodd reolaeth o Dŷ Colby a’r ardd furiog yn y 1980au. Dychwelodd yr ardd furiog i’n gofal ni yn 2010.

Chwaraeodd y safle rôl amlwg yn niwydiant glo Sir Benfro yn ystod y 1790au, pan gafodd ei brynu gan John Colby.
Ni ffynnodd yr ardd mewn gwirionedd tan y 1870au pan brynwyd y tir a Thŷ Colby gan fferyllydd o’r enw Samuel Kay. Dechreuodd blannu’n ddiwyd, a pharhaodd ei ddisgynyddion â’i waith yn y 1920au gan ychwanegu pyllau dŵr a nodweddion garddwriaethol eraill.
Rhododendronau – Arbenigedd Colby, sy’n ffynnu ym mhridd asidig yr ardd. Cadwch olwg am y rhododendronau llydanddail ger pwll y madfall dŵr a chornel yr hen dderwen.
Mae’n hawdd gwneud y gorau o’r awyr agored yng Ngardd Goedwig Colby – mae’n un ardal chwarae enfawr. Brasgamwch ar hyd y cerrig camu yn y nentydd a phlymiwch i’r dyfroedd gan chwilota yn y pyllau, adeiladu argae neu wylio bywyd gwyllt.
Mae Colby’n fôr o liw drwy gydol y flwyddyn, gyda phob tymor yn dod â’i wisg liwgar ei hun.
Daw’r gwanwyn â môr o glychau’r gog, crocysau a chennin Pedr, gyda chamelias, asalêu a rhododendronau (arbenigedd yr ardd) yn dynn ar eu sodlau.
Yn yr haf mae blodau’r enfys a blodau gwyllt yn turio drwy’r pridd, ac mae’r ardd furiog ffurfiol yn wledd i’r llygaid.
Mae’r hydref a’r gaeaf yr un mor drawiadol, gydag arlliw arbennig y masarn, y cwyros a’r gludwydd yn addurno’r ardd.

Dysgwch pryd mae Gardd Goedwig Colby ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae Ystafell De’r Caban, sy’n ffefryn gyda phobl leol ac ymwelwyr fei ei gilydd, yn gweini cinio blasus a chacennau sy’n tynnu dŵr o’r dannedd ac mae Galeri’r Groglofft yn gwerthu cynnyrch lleol wedi’u crefftio â llaw. Mae yna siop lyfrau ail-law a chofroddion ar gyfer yr ardd yn ein Canolfan Ymwelwyr.

Ymhell cyn i’r ardd ymwreiddio, chwaraeodd ystâd Colby ran bwysig yn niwydiant glo Sir Benfro. Dysgwch fwy am yr ardd a bywydau ei thrigolion.

Mae dyffryn coediog Colby dan ei sang â chreaduriaid o bob lliw a llun. Cadwch olwg am adar, pryfed, ystlumod prin ac ambell ddyfrgi hyd yn oed.
