Gardd Goedwig Colby
CymruMae dyffryn coediog cudd Colby yn llawn rhyfeddodau annisgwyl. Gyda’i orffennol diwydiannol a’i ardd gudd, mae’n lle perffaith i ddysgu am dreftadaeth a chwarae ym myd natur.
Gardd Goedwig Colby, ger Llanrath, Sir Benfro, SA67 8PP

Ll Ma Me Ia Gw Sa Su Agored
Ar gau
Oriau agor ar gyfer 22 Chwefror 2026
Asset Opening time Coedwig 10:00 - 17:00 Maes parcio 10:00 - 17:00 Gardd Furiog Ar gau Yr Oriel Ar gau Ystafell De 10:00 - 15:00 Canolfan Croesawu Ymwelwyr a Siop Lyfrau Ail-law Ar gau Nodwch: Am oriau agor Gaeaf Ystafell De’r Bothy, gweler ei thudalen Facebook neu cysylltwch dros y ffôn 01834 526202.
Ceir
Ticket type Gyda Chymorth Rhodd Heb Gymorth Rhodd Hyd at 3 awr: £4.00 Trwy'r dydd: £8.00 Cartrefi modur/Bysiau mini
Ticket type Gyda Chymorth Rhodd Heb Gymorth Rhodd Hyd at 3 awr: £5.00 Trwy'r dydd: £10.00 Bysiau
Ticket type Gyda Chymorth Rhodd Heb Gymorth Rhodd Trwy'r dydd: £25.00 Dewch yn aelod a darganfyddwch fwy na 500 o lefydd
- Croeso i gŵn
Croeso i gŵn yn y brif ardd, ond rhaid eu cadw ar dennyn bob amser. Ni chaniateir cŵn yn yr ardd furiog.
- Maes parcio
Mae gennym beiriant talu ac arddangos ar waith yn ein maes parcio, lle mae costau maes parcio yn berthnasol i bobl nad ydynt yn aelodau. Sganiwch eich cerdyn aelodaeth wrth gyrraedd. Croeso i fysiau sydd wedi archebu lle yn unig: 01646 623 110 Parcio car – bob dydd £7.00; hyd at 3 awr £3.50
- Siop lyfrau
Siop llyfrau ail law
- Toiled
- Ystafell de
Er mwyn cyfieithu’r dudalen we AccessAble i’r Gymraeg, cliciwch y botwm ar y dde uchaf gyda’r label “Accessibility”. Dewiswch “newid iaith” ac o’r rhestr o ddewisiadau dewiswch “Welsh/Cymraeg”. Ar ôl i chi osod eich dewisiadau Recite Me bydd y safle AccessAble yn cofio eich gosodiadau pan fyddwch arno yn y dyfodol.
- Braille (canllaw neu fwydlen)
- Cadeiriau olwyn ar gael
Cadair olwyn ar gael ar gais
- Dolen sain
- Grisiau/tirwedd anwastad
- Lleoedd Newid
Bwrdd newid babanod sy’n plygu
- Llwybr hygyrch a/neu fap
- Man gollwng
- Mynediad gwastad i siop fwyd
- Mynediad ramp/llethrau
- Mynediad/tirwedd wastad
Mynediad lefelau cymysg ar hyd a lled yr ardd
- Parcio dynodedig
- Print mawr (canllaw neu fwydlen)
- Seddi ar gael
- Taith rithwir
- Toiled hygyrch
- Ar y ffordd
- Dilynwch yr arwyddion brown o ffordd yr A477 o Ddinbych-y-pysgod i Gaerfyrddin neu ffordd oddi ar yr arfordir ym maes carafanau Amroth CastleParcio: Maes parcio isaf 50 llath, maes parcio uchaf 250 llathen. Codir tâl am barcio (DARNAU ARIAN yn unig). Parcio am ddim i Aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Deiliaid Bathodynnau Glas. Y tâl am gar yw £3.50 hyd at 3 awr neu £7 y dydd.
- Ar droed
- Taith gerdded 3/4 milltir o Amroth ar hyd llwybr cyhoeddus ger yr Amroth Arms
- Ar y trên
- Cilgeti 2½ milltir
- Ar fws
- Mae’r safle bws agosaf yn Amroth - a wasanaethir gan y llwybr 351 o Ddinbych-y-pysgod i Bentywyn, gan gynnwys arosfannau yn Saundersfoot a Cilgeti.
- Beicio
Cynllunio eich ymweliad
Ymweld â Gardd Goetir Colby gyda'ch ci
Mae Gardd Goetir Colby wedi'i graddio ag un bawen. Dysgwch fwy am ddod â'ch ci i'r dyffryn coediog a phryd a lle allwch chi fynd.

Dyddiau i’r Teulu yng Ngardd Goetir Colby
Dewch i fwynhau diwrnod yn archwilio Gardd Goetir Colby a’r ystâd ehangach gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Archwiliwch yr ardd goediog, gudd, sydd mewn dyffryn, dewch i ddysgu am ei hanes a rhyfeddu at y coed a’r awyr yn y llannerch.

Map Gardd Goedwig Colby
Cymerwch olwg ar y map o Ardd Goedwig Colby i'ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)
Beth sy'n digwydd yn Gardd Goedwig Colby
Dysgwch ragor am yr holl ddigwyddiadau cyffrous sydd gennym wedi'u paratoi ar gyfer y tymor hwn

Ymwelwch â Gardd Goedwig Colby
Mae rhywbeth i bawb yma, o hanes diymhongar yr ardd gegin wreiddiol i dreftadaeth gyfoethog yr ardd goedwig a’r lle chwarae naturiol.

Bywyd gwyllt yng Ngardd Goedwig Colby
Mae dyffryn coediog Colby dan ei sang â chreaduriaid o bob lliw a llun. Cadwch olwg am adar, pryfed, ystlumod prin ac ambell ddyfrgi hyd yn oed.

Uchafbwyntiau
Gardd Goedwig
Maes glo o’r 18fed ganrif sydd wedi’i drawsnewid yn ardd goedwig gudd sy’n wyth erw o faint.
Dolydd
Rhwng dau goetir, 4 erw o ddôl llifogydd sy’n fôr o flodau gwyllt brodorol.
Gardd furiog
Gardd furiog gydag arddangosfa flodau ffurfiol ffantastig, yn ogystal â cherfluniau, nodwedd ddŵr a gasebo Gothig Fictoraidd.
Ystafell de
Mae Ystafell De’r Bwthyn yn gweini cinio ysgafn a chacennau cartref gan Francesca a’i merch..
Canolfan groeso i ymwelwyr a siop lyfrau ail law
Canolfan groeso i ymwelwyr a siop lyfrau ail law wrth y maes parcio wrth i chi ddod i mewn tuag at yr ardd, yr ystafell de a’r galeri.
Arfordir
Llwybr cerdded o’r ardd i lawr i’r pentref i draeth euraidd Amroth.
Ystâd
Ystâd 900 erw o goetir a thir amaeth, gyda llwybrau amrywiol.
Oriel Grefftau
Mae Oriel y Lofft yn arddangos celf a chrefft lleol gan grefftwyr Sir Benfro yn bennaf
Pethau i'w gweld a'u gwneud
Dyddiau i’r Teulu yng Ngardd Goetir Colby
Dewch i fwynhau diwrnod yn archwilio Gardd Goetir Colby a’r ystâd ehangach gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Archwiliwch yr ardd goediog, gudd, sydd mewn dyffryn, dewch i ddysgu am ei hanes a rhyfeddu at y coed a’r awyr yn y llannerch.

Ymwelwch â Gardd Goedwig Colby
Mae rhywbeth i bawb yma, o hanes diymhongar yr ardd gegin wreiddiol i dreftadaeth gyfoethog yr ardd goedwig a’r lle chwarae naturiol.

Bywyd gwyllt yng Ngardd Goedwig Colby
Mae dyffryn coediog Colby dan ei sang â chreaduriaid o bob lliw a llun. Cadwch olwg am adar, pryfed, ystlumod prin ac ambell ddyfrgi hyd yn oed.

Hanes Gardd Goedwig Colby
Ymhell cyn i’r ardd ymwreiddio, chwaraeodd ystâd Colby ran bwysig yn niwydiant glo Sir Benfro. Dysgwch fwy am yr ardd a bywydau ei thrigolion.

Gwirfoddoli yng Ngardd Goedwig Colby
Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu gyda’r gwahanol ardaloedd o’r ardd rydym yn gofalu amdanynt, sy’n golygu bod digon o rolau diddorol i’w hystyried.

Digwyddiadau sy’n denu sylw
Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi gyda ni yng Ngardd Goedwig Colby
Bydd addurniadau Cymreig, cerddoriaeth fyw, adrodd straeon, crefftau a bwyd. Mae popeth sydd angen i chi ei wybod yma.

Sylwi ar Natur, Anturiaethau'r Pasg yng Ngardd Goedwig Colby
Ymunwch â ni ar benwythnos y Pasg am lwybr Pasg arbennig wedi'i ysbrydoli gan natur. Dewch o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynllunio'ch diwrnod Pasg gorau yma.

Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru
Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi gyda diwylliant bywiog o Gymru, cerddoriaeth fyw, digwyddiadau cyffrous a gweithgareddau sy’n addas i’r teulu yn rhai o’r llefydd mwyaf eiconig ar hyd a lled Cymru. Er mwyn galluogi mwy o bobl i gael mynediad i’n lleoedd a mwynhau’r diwrnod arbennig hwn, bydd ein holl safleoedd talu-am-fynediad am ddim i ymweld â hwy ar 1 Mawrth. Ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Prif lwybrau
Taith Gerdded Gardd Goedwig Colby
Cewch ddilyn llwybrau coetir, darganfod nodweddion hanesyddol a mwynhau’r bywyd gwyllt ar hyd y llwybr hwn i’r teulu cyfan. Gallwch hefyd fynd am dro hirach i draeth Llanrhath.

Llwybr clogwyni ac ogofâu Lydstep
Mae’r llwybr hawdd hwn o gwmpas tiroedd Plas Newydd yn hwyl a sbri i’r teulu i gyd, gan gynnwys tŷ coeden a maes chwarae antur, gyda mynyddoedd Eryri ac Afon Menai yn gefndir godidog.

Llwybr bywyd gwyllt Stad Stagbwll
Cadwch olwg am adar môr a dyfrgwn wrth i chi ddarganfod rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Sir Benfro ar lwybr bywyd gwyllt ar hyd yr arfordir yn Stagbwll.

Bwyta a Siopa
Bwyta a Siopa yng Ngardd Goetir Colby
Mae Ystafell De’r Caban, sy’n ffefryn gyda phobl leol ac ymwelwyr fei ei gilydd, yn gweini cinio blasus a chacennau sy’n tynnu dŵr o’r dannedd ac mae Galeri’r Groglofft yn gwerthu cynnyrch lleol wedi’u crefftio â llaw. Mae yna siop lyfrau ail-law a chofroddion ar gyfer yr ardd yn ein Canolfan Ymwelwyr.

Lleoedd i aros

Colby Rose Cottage
On a quiet country lane, with a stream in the garden, close to Colby Woodland Gardens and the beach.

The Cwms
A gorgeous Victorian cottage surrounded by Colby Woodland Gardens just a short stroll from Amroth beach.

Little Craig Y Borion
A picture-perfect 200-year old whitewashed stone farmhouse, deep in the Pembrokeshire countryside surrounded by woodland and meadows with the beautiful Welsh coast on the doorstep.
Digwyddiadau i ddod
Dydd Gŵyl Dewi yng Ngardd Goedwig Colby | St David’s Day at Colby Woodland Garden
Ymunwch â ni i ddathlu Cymru, diwylliant Cymru, a chrwydro o amgylch yr Ardd yng Ngardd Goedwig Colby. | Join us for a celebration of Wales, Welsh culture, and wanderings around the Garden at Colby Woodland Garden.
Anturiaethau'r Pasg yng Ngardd Goedwig Colby | Easter Adventures at Colby Woodland Garden
Ymunwch â ni ar benwythnos y Pasg am lwybr Pasg arbennig wedi'i ysbrydoli gan natur. | Join us on Easter weekend for a special nature-inspired Easter trail.
Ynghylch Gardd Goedwig Colby
Wedi’i lleoli mewn dyffryn cyfrin tawel mae’r ardd goedwig gudd hon gyda’i gorffennol diwydiannol cyfoethog yn llawn rhyfeddodau. Gyda'r gwanwyn y daw carpedi o flodau'r gog, crocysau, a chennin Pedr, ac yna taenfa o gamelias, rhododendron ac asaleas, cyn dyfodiad blodau'r enfys a blodau gwyllt yr haf. Dewch i grwydro'r coetir cysgodol, y dolydd blodau gwyllt a'r ardd furiog liwgar yn yr haf, a lliwiau rhyfeddol y coed erw, gwyros a choed gymwydd pêr yr hydref. Beth am archwilio'r ddôl gyda’i ffrwd hyfryd, cerrig camu, pont bren a bwrlwm o was y neidr a gloÿnnod byw. Gallwch adeiladu den yn y coed, coginio eich bwyd eich hun ar un o’n tanau gwersyll neu chwarae ar y siglenni rhaff, neu beth am ddod â phicnic, gadael i’r plant chwarae yn y ffrwd ac ymlacio am ychydig? Camwch yn ôl i'r gorffennol cyfrinachol, y bywyd gwyllt cudd a hanes cyfoethog yn y Bothy, gwyliwch fideo o Golby drwy'r tymhorau neu ewch ar antur rithiol yn Sir Benfro.
Hanes
Hanes Gardd Goedwig Colby
Ymhell cyn i’r ardd ymwreiddio, chwaraeodd ystâd Colby ran bwysig yn niwydiant glo Sir Benfro. Dysgwch fwy am yr ardd a bywydau ei thrigolion.

Ein gwaith
Prosiect Gwella Coetiroedd Ystad Colby
Dysgwch sut y cawn gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i adfer y coetiroedd gwyllt hyn.
Cefnogwch Ni
Gwirfoddoli yng Ngardd Goedwig Colby
Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu gyda’r gwahanol ardaloedd o’r ardd rydym yn gofalu amdanynt, sy’n golygu bod digon o rolau diddorol i’w hystyried.
