Skip to content

Bwyta a Siopa yng Ngardd Goetir Colby

Golygfa allanol o adeilad y caffi ac adeilad yr oriel gyda byrddau a chadeiriau yng nghwrt Gardd Goedwig Colby, Sir Benfro
Ystafell te Y Bothy ac Oriel Gardd Goedwig Colby, Sir Benfro | © National Trust Images/Sue Jones

Mae’r ystafell de a’r galeri wedi eu lleoli mewn grŵp o ysguboriau gwyngalchog lle’r oedd gweithwyr ystad Colby’n byw, coginio a chysgu ar un adeg. Galwch heibio am rywbeth i’w fwyta, neu brynu anrheg wedi’i gwneud â llaw cyn neu ar ôl eich ymweliad â’r ardd.

Bwyta a Siopa yn Colby

Gyda chymaint i’w archwilio yng Ngardd Goetir Colby, byddwch yn siŵr o fod eisiau bwyd. Mwynhewch brydau blasus yn Ystafell De’r Caban, cyn siopa am gofroddion ac anrhegion yn Galeri’r Crefftwyr neu’r siop lyfrau ail-law a chofroddion Colby yn y Ganolfan Croesawu Ymwelwyr.

Ystafell De’r Caban

Gyda’i chasgliad o gacennau a chinio, nid yw’n anodd gweld pam fod Ystafell De’r Caban yn ffefryn gyda phobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Fe ddaeth i’r brig yn sgorio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 2019 am fwyd o ansawdd yng Nghymru.

Mae’r tîm o deulu lleol sydd wedi rhedeg y caffi dros y 10 mlynedd ddiwethaf, Penny, Sam, a Charley wedi creu bwydlen sy’n llawn o fwydydd bendigedig a blasau dychmygus.

Beth sydd ar y fwydlen

Danteithion melys

Mae yna ystod o brydau fegan, llysieuol a heb glwten ar gael ar y fwydlen, felly mae rhywbeth at ddant pawb. Mae cacennau Penny’n cael eu pobi bob dydd, gyda danteithion blasus megis pecan a sinsir, courgette a leim, a siocled tywyll ac oren. Mae yna amrywiaeth o 20 gwahanol bob dydd, felly mae yna ddigon o ddewis. Am ddanteithion melysach eraill, blaswch sgon gyda hufen tolch neu mwynhewch hufen iâ o hufenfa leol.

Casgliad o ddiodydd

I yfed, mwynhewch ddiodydd poeth ac oer yn cynnwys coffi rhost lleol, te llysieuol, smŵddis sydd wedi eu cyfuno fesul archeb, a sudd afal lleol. Fel arall, pam na ddewiswch chi o’u bwydlen siocled poeth cyflawn.

Gwybodaeth alergenau

Mae yna ystod eang o fwydydd ar y fwydlen. Pan fyddwch yn ymweld, holwch un o’r tîm am y wybodaeth alergenau ddiweddaraf ar gyfer eich hoff bryd.

Two children with mugs of hot chocolate at the cafe at Osterley Park
Ymwelwyr yn mwynhau lluniaeth. | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Siopa yn Colby

Yn y Ganolfan Croesawu Ymwelwyr fe welwch ystod o gofroddion Colby, ynghyd â’n siop lyfrau ail law sy’n cadw ystod eang o lyfrau wedi eu defnyddio ac yn helpu i godi arian i ofalu am yr ardd. Dewch i siopa, i roi llyfrau ail-law neu ddod yn wirfoddolwr.

Galwad am lyfrau ail-law.

Rydym bob amser yn chwilio am lyfrau nad yw pobl eu hangen bellach. Os ydych yn teimlo y gallwch roi rhai, ffoniwch 01834 811885 (est. 2) neu e-bostio colby@nationaltrust.org.uk Oherwydd eich gwario a’ch cymorth chi rydym yn gallu parhau i ofalu am natur, prydferthwch a hanes i bawb, am byth. Diolch.

“Mae pob llyfr sy’n cael ei roi neu ei brynu yn ein siop lyfrau ail-law yn dod â llawenydd i wirfoddolwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd, wrth ein helpu ni i ofalu am y lle arbennig iawn hwn.”

Dyfyniad gan Ellen DaviesYmddiriedolaeth Genedlaethol Rheolwr Croeso, Gardd Goetir Colby

Galeri’r Groglofft

Mynediad mewnol Galeri’r Croglofft Gardd Goetir Colby, Sir Benfro.
Galeri’r Croglofft Gardd Goetir Colby, Sir Benfro. | © National Trust Images/Sue Jones

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yng Ngaleri’r Groglofft, sy’n cael ei redeg gan grefftwyr Sir Benfro, cymuned o artistiaid a chrefftwyr annibynnol sydd wedi bod yn mynd ers bron i 40 mlynedd.

Dewiswch o gasgliad eclectig o grefftau cyfoes a thraddodiadol wedi eu gwneud â llaw. Cewch hyd i grochenwaith, gemwaith, dillad wedi eu gwau, gwaith lledr wedi eu gwneud â llaw a lluniau a ffotograffau gwreiddiol yn cael eu harddangos. Cewch gwrdd â rhai o’r crefftwyr a sgwrsio am eu crefft.

Mae’r Galeri wedi ei lleoli yn ardal yr iard gerllaw Ystafell De’r Caban ac mae modd cael mynediad drwy fynd i fyny’r grisiau allanol ym mhen pellaf yr ysguboriau gwyngalchog.

Am ragor o wybodaeth ynghylch crefftwyr Sir Benfro ewch i’w gwefan fan hyn, neu ymunwch ag un o’u nifer o weithdai sy’n cael eu cynnal yn ystod y tymor gwyliau.

Golygfa o’r Ardd Furiog yng Ngardd Goedwig Colby, Sir Benfro. Mae llwybr yn arwain drwyddi, a nesaf ato mae borderi trwchus a choeden aeddfed fawr â dail coch tywyll.

Discover more at Colby Woodland Garden

Find out when Colby Woodland Garden is open, how to get here, the things to see and do and more.

Plant wrth y ffynnon yn yr ardd furiog yng Ngardd Goetir Colby
Erthygl
Erthygl

Dyddiau i’r Teulu yng Ngardd Goetir Colby 

Dewch i fwynhau diwrnod yn archwilio Gardd Goetir Colby a’r ystâd ehangach gyda’ch ffrindiau a’ch teulu. Archwiliwch yr ardd goediog, gudd, sydd mewn dyffryn, dewch i ddysgu am ei hanes a rhyfeddu at y coed a’r awyr yn y llannerch.

Cwpwl yn mynd â’r ci am dro dros bont yng Ngardd Goetir Colby, Sir Benfro
Gweithgaredd
Gweithgaredd

Ymweld â Gardd Goetir Colby gyda'ch ci 

Mae Gardd Goetir Colby wedi'i graddio ag un bawen. Dysgwch fwy am ddod â'ch ci i'r dyffryn coediog a phryd a lle allwch chi fynd.

Olwyn fawr yn gorwedd ar lawr y coetir yng Ngardd Goedwig Colby, Sir Benfro. Mae planhigion wedi tyfu ym mhob rhan o’r olwyn.
Erthygl
Erthygl

Hanes Gardd Goedwig Colby 

Ymhell cyn i’r ardd ymwreiddio, chwaraeodd ystâd Colby ran bwysig yn niwydiant glo Sir Benfro. Dysgwch fwy am yr ardd a bywydau ei thrigolion.