
Dewch o hyd i daith gerdded
Darganfyddwch rai o'r llefydd gorau i fynd am dro, gan gynnwys coedwigoedd hynafol, arfordir arbennig a pharciau gwyrdd.
Bu Cotswold Outdoor yn bartner cerdded dethol i ni ers 10 mlynedd. Mae eu cefnogaeth hael yn ein helpu ni i ofalu am fannau awyr agored fel bod modd i bawb ddod yn nes at natur. Dysgwch ragor am y ffordd rydym yn cydweithio a'r gostyngiadau sydd ar gael i gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Bu Cotswold Outdoor yn helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i'w helfen yn yr awyr agored ers dros 50 mlynedd. Maent yn cynnig cyngor arbenigol a dewis helaeth o ddillad, cyfarpar ac ategolion o ansawdd sydd wedi'u creu i oroesi pob math o anturiaethau egnïol. Mae cariad at fyd natur, brwdfrydedd dros yr awyr agored ac ymrwymiad i arferion cynaliadwy yn nodweddion cyffredin rhyngom.
Ers i’n partneriaeth ddechrau yn 2015, mae Cotswold Outdoor wedi ein helpu i ofalu am dirweddau a llwybrau cerdded gwerthfawr ac ysbrydoli mwy o bobl i fynd allan a mwynhau bod yng nghanol natur.
Mae Cotswold Outdoor hefyd yn cefnogi ein rhaglenni cerdded ac yn ein helpu ni i hyfforddi a chyfarparu arweinwyr cerdded mewn 200 o'n lleoedd i drefnu teithiau cerdded rheolaidd i ymwelwyr. Gyda'n gilydd, aethom ati i greu Cronfa Awyr Agored Cotswold ar gyfer Gwella Mynediad i'r Awyr Agored er mwyn chwalu rhwystrau cymdeithasol fel bod modd i bawb deimlo'n ddiogel a chartrefol. Yn 2023, derbyniodd grwpiau cymunedol The Mason Mile a Muslim Hikers gyllid ar gyfer eu gwaith, ac rydym yn bwriadu cefnogi mwy o grwpiau cerdded bob blwyddyn.
Trwy ein partneriaeth barhaus, rydym yn parhau ein hymdrechion i ysbrydoli’r genedl i archwilio a darganfod mwy o arfordir a chefn gwlad y Deyrnas Unedig, yn ddiogel a chyfrifol.
Mae Cotswold Outdoor yn rhoi mwy o gyllid i ni helpu i ofalu am lwybrau cerdded fel bod mwy o bobl yn gallu mynd i gefn gwlad. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd ar ein Rhaglen Llwybrau a Theithiau newydd, sydd â’r nod o fapio, trwsio a dathlu 15,000km o lwybrau a theithiau cerdded erbyn 2030.
Trwy roi teithiau clir a chadarn i gerddwyr eu defnyddio, gall pawb deimlo effeithiau buddiol natur gan hefyd ddiogelu cynefinoedd bywyd gwyllt. Ar ben hynny, pan fyddwch yn defnyddio cod disgownt cefnogwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Cotswold Outdoor, bydd hyd at 7 y cant o’r pris pryniant yn mynd yn ôl i’n helpu i ofalu am y mannau yr ydych yn mwynhau mynd i’w gweld.
Mae cefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cael disgownt o 15% yn Cotswold Outdoor. Gellir cael y gostyngiad ar-lein pan fyddwch yn ymuno â chynllun buddion ‘Explore More’ Cotswold Outdoor, neu yn unrhyw siop Cotswold Outdoor trwy ddangos eich cerdyn aelodaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Llawlyfr neu hyd yn oed dderbynneb o gaffi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae’r cynnig hwn yn dod i ben ar 30 Medi 2026, ond gall gael ei ymestyn. Rhoddir rhagor o fanylion am sut i hawlio’r cynnig isod.
Mae Cotswold Outdoor yn noddi ein cyfres newydd o bodlediadau i'r rhai sy'n mwynhau byd natur. Yn llawn straeon am wylanod eofn, gerddi gwenwynig a gwarcheidwaid anturus, bydd y penodau hyn yn eich tywys chi o gwmpas ein byd hynod, rhyfeddol a chwbl wyllt.
Rydym yn falch o fod yn bartneriaid hirsefydlog yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan gefnogi ei Rhaglen Llwybrau a Theithiau ledled Cymru a Lloegr. Credwn fod pobl wirioneddol yn eu helfen yn yr awyr agored, felly rydym yn hynod falch o gael gweithio mewn partneriaeth â sefydliad sy'n rhannu'r un gwerthoedd â ni ac sy'n ehangu mynediad i'r mannau anhygoel hyn. Gyda'n gilydd, rydym yn eiriolwyr brwd dros yr awyr agored, dros ein planed a thros ei mwynhau hi mewn modd cyfrifol.
Darganfyddwch rai o'r llefydd gorau i fynd am dro, gan gynnwys coedwigoedd hynafol, arfordir arbennig a pharciau gwyrdd.
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Mae rhai llwybrau hygyrch gwych yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt sy’n berffaith ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau. (Saesneg yn unig)
Darganfyddwch y chwedlau sy'n dod â'n tirweddau'n fyw ar y teithiau cerdded hyn, sydd wedi'u dewis yn arbennig am eu cysylltiadau â chwedloniaeth leol. (Saesneg yn unig)
Mwynhewch ddiwrnod allan gyda’r teulu gyda thaith gerdded yn yr awyr iach, gyda llawer o bethau diddorol i bawb o bob oedran ar hyd y daith. (Saesneg yn unig)
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)