Skip to content

Gwarchod natur a threftadaeth: Ein Cynllun Pontio Gweithredu ar yr Hinsawdd

Tîm yn gweithio i osod argaeau metel mewn gweundir glaswelltog
Parcmyn yn gosod argaeau yn Kinder Scout, Swydd Derby | © National Trust Images/Paul Harris

Ers 130 o flynyddoedd, rydyn ni wedi gofalu am rai o dirweddau a safleoedd hanesyddol mwyaf gwerthfawr y DU – ond mae newid yn yr hinsawdd yn eu rhoi mewn perygl. Yn unol â’n strategaeth newydd, ‘Pobl a natur yn ffynnu’, mae ein Cynllun Pontio Gweithredu ar yr Hinsawdd yn nodi ein huchelgeisiau a sut byddwn yn eu cyflawni.

Mae ein gwaith cynnar yn awgrymu bod 100% o’r lleoedd rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw yn wynebu un neu fwy o beryglon hinsawdd, o effeithiau cronig fel hindreulio ac erydiad stormydd, i ddigwyddiadau eithafol amlach fel llifogydd, sychder a thanau gwyllt. Ar yr un pryd, mae newid yn yr hinsawdd hefyd yn ail-lunio sut rydym yn gweithio, gan gynyddu costau ynni a’r gadwyn gyflenwi a dylanwadu ar sut rydym yn croesawu ymwelwyr. 

Fel elusen gadwraeth fwyaf Ewrop, rydym yn ei hystyried yn ddyletswydd arnom i gymryd camau i ddiogelu’r safleoedd yn ein gofal ac i leihau ein hallyriadau ein hunain.

Beth yw Cynllun Pontio Gweithredu ar yr Hinsawdd? 

Mae cynllun pontio yn nodi sut bydd busnes yn addasu ei weithrediadau, ei asedau a’i strategaeth gyffredinol i gyflawni nodau hinsawdd sy’n seiliedig ar wyddoniaeth.  

Fel elusen, does dim rhaid i ni lunio cynllun pontio – ond rydyn ni’n dewis gwneud hynny. Drwy ddilyn gwyddoniaeth hinsawdd, rydym am ddangos arweinyddiaeth, atebolrwydd a’n hymrwymiad i warchod pobl a lleoedd.

Ein Cynllun Pontio Gweithredu ar yr Hinsawdd 

Drwy gymryd y camau cywir nawr, gallwn chwarae ein rhan ym mhroses bontio'r DU mewn perthynas â’r hinsawdd a diogelu’r lleoedd rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw.

Ein hymrwymiadau i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd:

  • Lleihau’r holl allyriadau rydyn ni’n eu cynhyrchu, boed hynny’n uniongyrchol o’r ynni rydyn ni’n ei ddefnyddio, neu’n anuniongyrchol drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill. Erbyn 2030, byddwn ond yn rhyddhau’r un faint o garbon ag y byddwn yn ei waredu bob blwyddyn.
  • I wneud hyn, byddwn hefyd yn defnyddio ein tir i ddal a storio mwy o garbon, yn bennaf drwy sefydlu coed a choedwigoedd newydd, ac adfer mawndir sydd wedi diraddio.
  • Bod yn wydn ac yn barod i addasu i
    newid yn yr hinsawdd ym mhob dewis a wnawn
  • Ymgysylltu ag eraill – gan adrodd ein stori’n eang i
    ysbrydoli gweithredu gan gefnogwyr a llunwyr polisïau
Aelod o staff yn gwyro dros y strwythur sy’n edrych fel tŷ gwydr mawr i wirio’r amodau. Mae y tu allan mewn cae gyda phlanhigion melyn
Rheolwr cyfleusterau yn gwirio'r paneli ffotofoltaig yn Ystâd Wimpole yn Swydd Gaergrawnt | © National Trust Images/James Dobson

Sut ydym yn gwneud i hyn ddigwydd

Rydyn ni’n trawsnewid y ffordd rydyn ni’n gweithio ar draws pum maes allweddol:

Defnydd tir a ffermio

Drwy blannu 20 miliwn o goed, adfer mawndiroedd ac ehangu atebion sy’n seiliedig ar natur, rydyn ni’n dal carbon ar yr un pryd â helpu bywyd gwyllt i ffynnu. Rydyn ni hefyd yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid a’n ffermwyr sy'n denantiaid i bontio i amaethyddiaeth gynaliadwy, lleihau allyriadau a gwella bioamrywiaeth. 

Adeiladau a seilwaith 

Rydyn ni’n lleihau allyriadau o dros 500 o adeiladau hanesyddol drwy wella effeithlonrwydd ynni, gosod mwy o gynlluniau ynni adnewyddadwy a lleihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil ar gyfer gwresogi a gweithrediadau.

Buddsoddiadau 

Rydyn ni’n cysoni ein penderfyniadau ariannol â nodau hinsawdd, gan sicrhau bod ein portffolio buddsoddi yn cefnogi cynaliadwyedd yn weithredol ac nad yw’n cyfrannu at ddiwydiannau carbon uchel.

Busnes ymwelwyr a’n gweithrediadau

Rydyn ni’n lleihau allyriadau ar draws ein busnesau adwerthu, bwyd a gwyliau ar yr un pryd â chynnal profiadau rhagorol i ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys newid i ddefnyddio peiriannau awyr agored trydanol, defnyddio cynnyrch mwy cynaliadwy a lleihau gwastraff.

Teithio a thrafnidiaeth 

Rydyn ni’n trydaneiddio ein fflyd cerbydau, yn gwella opsiynau teithio cyhoeddus a llesol i ymwelwyr a staff ac yn gweithio i leihau allyriadau o gymudo a theithio busnes.

Bydd cyflawni sero net erbyn 2030 a helpu byd natur i adfer yn gofyn am ymdrech ar y cyd. Mae gweithredu ystyrlon yn dibynnu ar gydweithio gyda phartneriaid sy’n rhannu ein huchelgeisiau. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn helpu pobl a natur i ffynnu am genedlaethau i ddod.

‘Pan fyddwn ni’n dweud “i bawb, am byth” – rydyn ni wir yn teimlo hynny. Mae newid yn yr hinsawdd yn hanfodol berthnasol i’n cenhadaeth, a bydd yn her ddiffiniol yn y degawdau a’r canrifoedd sydd i ddod.’

Dyfyniad gan Hilary McGradyNational Trust Director-General

Beth ydyn ni wedi’i wneud hyd yma?

Rydyn ni’n mynd i’r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd drwy leihau allyriadau, dal a storio carbon ar y tir rydyn ni’n gofalu amdano ac eiriol ar y Llywodraeth i fabwysiadu polisïau a fydd yn ein helpu ni i gyd i ofalu am y llefydd rydych chi wrth eich bodd yn ymweld â nhw.

Mae rhai o’n cyflawniadau allweddol diweddar yn cynnwys:

  • Cyrraedd ein targed i gynhyrchu 50 y cant o’n hynni ein hunain o ffynonellau adnewyddadwy, o’i gymharu â llinell sylfaen 2008. Bydd ail gam y rhaglen yn lleihau tanwydd ffosil ymhellach mewn 100 o’r adeiladau rydym yn gofalu amdanynt sydd â'r allyriadau uchaf.
  • Mae gweithio i greu ac adfer 25,000 hectar o gynefinoedd blaenoriaeth wedi cynyddu faint o garbon rydyn ni’n ei dynnu a’i storio o’r atmosffer, gan wella ein sefyllfa carbon net.
  • Mae dros hanner ein lleoedd wedi dechrau mapio eu llwybr ymaddasu i’r hinsawdd, gan nodi eu risgiau a’u camau gweithredu penodol y gallant eu cymryd yn y tymor byr, canolig a hir.
  • Cyflwyno Cynllun Datblygu Sefydliadol Gweithredu ar yr Hinsawdd mewnol, gyda dros 1000 o staff yn cwblhau ein e-ddysgu ar yr hinsawdd.
  • Lleihau ein hallyriadau net cyffredinol 31 y cant yn erbyn ein llinell sylfaen 2019/20.

Sut mae gweithredu ar yr hinsawdd yn edrych

Ar draws yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rydyn ni eisoes yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Dyma rai enghreifftiau o sut rydyn ni’n rhoi ein huchelgeisiau ar waith.

Llun o Fferm Lords Park ac arfordir Cymru
Fferm Lords Park yn Sir Gaerfyrddin, Cymru | © National Trust/C J Taylor

Cyflawni ar gyfer carbon, natur a phobl ar Fferm Lords Park

Yn Fferm Lords Park, hen fferm laeth yng Nghymru, rydyn ni wedi ffurfio partneriaeth â thenantiaid newydd sy’n rhannu ein gweledigaeth ar gyfer adfer natur a gweithredu ar yr hinsawdd. Mae eu dulliau ffermio adfywiol, fel cynhyrchu llysiau heb fawn, wedi lleihau allyriadau 89 y cant, ac mae coetiroedd newydd yn helpu i dynnu hyd at 100 tCO₂e (amcangyfrif o dunelli o Garbon Deuocsid) y flwyddyn.

1 of 5

Edrych i’r dyfodol 

Mae ein taith tuag at sero net yn mynd rhagddi ers tro, yn seiliedig ar ddegawdau o weithredu amgylcheddol a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Ond rydyn ni’n gwybod y bydd y llwybr o’n blaenau yn anodd, a bydd angen i ni ddysgu, addasu ac arwain yn feiddgar. Bydd gwyddoniaeth hinsawdd, polisi a thechnoleg yn parhau i esblygu, a ninnau hefyd. Byddwn yn adolygu ac yn mireinio ein Cynllun Pontio yn rheolaidd, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn uchelgeisiol, yn cael ei arwain gan wyddoniaeth ac yn effeithiol. 

Yn bwysicaf oll, byddwn yn parhau i weithredu – gan weithio gyda’n staff a’n gwirfoddolwyr, ein partneriaid a’n cymunedau i sbarduno newid sydd wir yn golygu rhywbeth. Gyda’n gilydd, gallwn warchod y tirweddau, y lleoedd hanesyddol a’r bywyd gwyllt rydyn ni i gyd yn eu trysori. Drwy weithredu nawr, gallwn helpu i lunio dyfodol lle mae natur a phobl yn ffynnu am genedlaethau i ddod.

 

Puffins land on a cliff at Lundy Island, Devon

Gofalu am natur

Dysgwch am ein gwaith ar natur, hinsawdd a chynaliadwyedd, a darganfyddwch beth allwch chi ei wneud er mwyn gwneud gwahaniaeth.

You might also be interested in

Dwy ferch yn edrych ar redyn tra’n sefyll ynghanol planhigion tal
Erthygl
Erthygl

Pobl a byd natur yn ffynnu: Ein strategaeth hyd at 2035 

Darllenwch am ein strategaeth, sy’n canolbwyntio ar adfer byd natur, rhoi diwedd ar fynediad anghyfartal ac ysbrydoli mwy o bobl.

Volunteer rangers planting trees at Oxburgh Hall, Norfolk
Erthygl
Erthygl

How you can help tackle climate change 

The climate crisis can be overwhelming, but small actions can help make big changes. Find out how you can play your part with ideas from planting trees to going peat-free.

Aerial view of a mix of deciduous and evergreen trees being planted as part of a Trees for Climate programme in partnership with England's Community Forests at Lunt, Liverpool
Erthygl
Erthygl

How we're adapting to climate change 

Our report, A Climate for Change: Adaptation and the National Trust, reveals how we’re tackling causes and effects of climate change and identifying future hazards. From protecting and planting trees to working with coastal communities, helping people, heritage and nature adapt to a changing climate is at the heart of everything we do.