Skip to content

Darganfod Coed Môr

Golygfa o bont Britannia o Goed Môr
Golygfa o bont Britannia o Goed Môr | © National Trust Images /John Miller Photography

Darganfyddwch goetir heddychlon Coed Môr ar lan y Fenai. Cerddwch o dan Bont Britannia ar lwybrau sy’n gwau i mewn ac allan o’r canopi ac ymwelwch â’r guddfan adar i weld mulfrain ac adar hirgoes.

O dan brysurdeb pont Britannia mae coetir hyfryd ar lannau'r Fenai. Deffrowch eich synhwyrau wrth i chi grwydro ar hyd llwybrau o amgylch Coed Môr.

Gwiwerod Coch

Mae Coed Môr yn gartref i'r wiwer goch prin. Ar adegau prin, cant eu gweld yn y gwyllt. Os ydych chi'n amyneddgar, efallai y gwelwch un naill ai yn y bore neu'n gynnar yn y prynhawn pan fyddan nhw'n fwyaf egnïol. Mae gwiwerod coch yn swil ac yn treulio llawer o amser yn y canopïau. Gwyliwch am farciau crafu ar risglau'r coed a moch coed wedi'u brathu sy'n edrych yn debyg iawn i graidd afal. Yn y gwanwyn cynnar, cadwch lygaid am eu defodau carwriaethol i fyny yn y coed.

Mae gwiwerod coch yn aml yn rhoi genedigaeth rhwng mis Chwefror a mis Ebrill, ac maent yn geni torllwyth arall rhwng mis Mai a mis Mehefin. Yn anffodus, dim ond 20 i 50 y cant o wiwerod coch ifanc sy’n tyfu i fod yn oedolion.

Coedlan Coed Môr
Coedlan Coed Môr | © National Trust Images/ John Miller Photography

Y Fenai

Mae Glannau Porthaethwy yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Dynodedig. Mae Coed Môr yn rhan o'r ardal hon.

Rhwng Ynys Enlli a Phen y Gogarth, dyma'r glannau creigiog cysgodol mwyaf helaeth. Mae glannau gogleddol y Fenai yn cynnwys rhai o rannau mwyaf diddorol yr ardal cadwraeth forol hynod hon, gyda cherhyntau llanw cyflym ac ychydig iawn o donnau. O ganlyniad, mae’r riffiau sy’n cael eu hysgubo gan y llanw yn gartref i ffawna amrywiol, gan gynnwys sbyngau, anemonïau, chwistrellau môr ac anifeiliaid morol eraill.

Mae'r ardal rhwng pont Britannia a phont Menai yn cael ei adnabod fel Pwll Ceris, a dyma'r rhan fwyaf peryglus yn yr afon. Mae’n nodedig am ei anhawster i fordwyo’n ddiogel oherwydd y trobyllau a’r cerhyntau chwyrlïol sy’n ganlyniad i’r llanw yn golchi o amgylch yr ynysoedd ar hyd y Fenai.

Roedd yr Arglwydd Nelson yn cyfeirio'r Fenai fel un o'r darnau mwyaf peryglus o fôr yn y byd. Yn ôl adroddiadau, dywedodd unwaith- "Derbynnir unrhyw lywiwr a all fordwyo'r Fenai yn fy llynges." Mae cerflun o'r Arglwydd i'w weld ar lannau gogleddol y Fenai.

Sgrech y coed
Sgrech y coed | © National Trust Images / Annapurna Mellor

Gwylio adar

Mae nifer o adar yn galw Coed Môr ac Afon Menai yn gartref gan fod y canopïau yn lleoliadau nythu ardderchog ac mae'r glannau'n darparu toreth o fwyd.

Er eu bod yn anodd eu gweld gan eu bod yn aderyn cymharol swil, gallwch glywed sgrech y coed wrth i chi gerdded o dan y coed. Ym misoedd yr Hydref efallai y gwelwch un yn hedfan i chwilio am fes i fwydo arno.

Mae adar hirgoes fel y crëyr glas, pioden y môr a phibydd coesgoch i'w gweld yn aml yn yr ardal yn chwilota am fwyd.

Yn 2021, roedd angen oedi gwaith ar bont Britannia oherwydd bod hebog tramor yn nythu yn un o’r tyrau!

Two visitors exploring the garden in spring at Quarry Bank, Cheshire

Ymuno

Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.

Gaeaf ym Mhorth Dafarth
Erthygl
Erthygl

Exploring Porth Dafarch 

This stretch of the Wales Coast Path is popular for its rich history, sandy bay, caves and ancient rock formations. The cliffs are home to the many chough which can be seen and heard in the area.

Coetir Glan Faenol
Erthygl
Erthygl

Exploring Glan Faenol 

Enjoy views of Plas Newydd across the rushing tide of the Menai Strait.