Cyfri costau difrod Storm Darragh yn Eryri

Cafodd Eryri ei daro'n ddrwg gan Storm Darragh ym mis Rhagfyr 2024, gan effeithio ar y tirweddau a’r lleoedd yr ydym yn gofalu amdanynt.
Er ei bod yn anodd dweud yn union faint o goed sydd wedi'u colli neu'u difrodi ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn yr ardal, mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai fod tua mil. Mae coetiroedd cyfagos wedi dioddef difrod helaeth hefyd, gan effeithio ar iechyd a chysylltedd ein coedwigoedd o fewn y dirwedd ehangach.

Dywedodd Simon Rogers, Rheolwr Cefn Gwlad Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru - Eryri a’r Gogarth:
“Mae maint y difrod yn dorcalonnus, yn enwedig yn ardal Beddgelert, ac mae’n dangos sut mae'r cynnydd mewn stormydd difrifol ac aml fel Darragh yn effeithio ar y tirweddau a’r lleoedd rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw.
“Digwyddodd peth o’r difrod gwaethaf i goed mewn ardaloedd sydd eisoes wedi’u heffeithio gan Phytophthora a chlwyf gwywiad yr onnen, sy’n dangos sut y gall sawl ffactor gyfuno i fygwth ein coetiroedd.”

Bu Ceidwaid yn gweithio’n ddiflino yn ystod yr wythnos ar ôl y storm i wneud y rhan fwyaf o’n tir yn ddiogel – er bu’n rhaid i ddau lwybr troed aros ar gau dros y Nadolig er mwyn diogelu'r cyhoedd.
Yn ogystal â’r effaith amgylcheddol, mae yna un ariannol hefyd i ni fel elusen. Er enghraifft, roedd 10 ceidwad yn gweithio dros gyfnod o 7 diwrnod i ddelio gyda difrod y storm yn gost gychwynnol o £14,000.
Wrth gwrs, bydd yr effaith ariannol barhaus yn llawer mwy, gyda difrod sylweddol i waliau, ffensys, llwybrau a phontydd hefyd.

Ychwanegodd Simon:
“Rydym yn rhagweld difrod pellach y gaeaf hwn, gan fod llawer o goed sy’n dal i sefyll wedi’u gwanhau’n strwythurol gan Storm Darragh, a bydd bylchau newydd mewn coetiroedd yn eu gwneud yn fwy bregus i stormydd yn y dyfodol.”
Ystyriwch 'Noddi Llecyn' yn Eryri. Mae Noddi Llecyn yn ffordd fach y gallwch chi gymryd cam mawr tuag at adfer natur. Tuag at adfywio'r dirwedd naturiol rydym ni i gyd yn ei drysori.
Cliciwch ar y ddolen am fwy o wybodaeth: Adopt a Plot | Nature restoration | National Trust