Skip to content

Gatiau haearn deniadol newydd i ddathlu natur ym Meddgelert

Tesni Calennig gyda un o'r gatiau newydd ym Meddgelert
Tesni Calennig yn rhoi ardduniad ar y giât newydd yn nôl Bryn Eglwys, Beddgelert | © National Trust Images

Mae dwy giât haearn deniadol wedi'u gosod ym Meddgelert diolch i gyd-weithio rhwng y gof Tesni Calennig, disgyblion Ysgol Beddgelert ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Mae'r gwaith yn rhan o brosiect dôl Bryn Eglwys, dan arweiniad ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy'n anelu at adfer dôl wair traddodiadol ger Llwybr y Pysgotwyr ar gyrion y pentref. Mae'r prosiect yn annog pobl i gysylltu gyda natur wrth hybu bioamrywiaeth.

Mae un o'r gatiau, sy'n arwain yn uniongyrchol i'r ddôl, yn cynnwys dyluniadau cymhleth wedi'u hysbrydoli gan flodau gwyllt. Gwahoddwyd disgyblion Ysgol Beddgelert i dynnu patrymau blodau heb godi eu pensiliau o'r papur. Daeth y dyluniaudau dychmygus yma’n fyw wedyn drwy waith campus Tesni Calenning, sy’n rhedeg gweithdy efail yng Nghaernarfon.

Mae ail giât debyg wedi'i osod hefyd ar hyd y llwybr ychydig cyn y ddôl. Mae'r giât yma’n cynnwys delwedd o bysgodyn a llinellau igam-ogam, sy’n talu teyrnged i Afon Glaslyn gerllaw a Llwybr y Pysgotwyr.

Dywedodd David Smith, Prif Geidwad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn ardal Beddgelert:

“Roedd yn bleser croesawu disgyblion o Ysgol Beddgelert i’r ddôl yn ddiweddar. Nid yn unig y gwelsant eu dyluniadau wedi’u trawsnewid i waith haearn, ond hefyd fe ddaru nhw helpu i wasgaru hadau blodau gwyllt fel cribell felen, erwain a’r bengaled, gan ddysgu am y rôl hanfodol y mae dolydd yn ei chwarae i gynnal ystod eang o fywyd gwyllt.

“Rydym wedi derbyn adborth gwych gan y gymuned leol am y gatiau, a hoffwn ddiolch i Tesni a’r disgyblion am eu creadigrwydd a’u brwdfrydedd.”

Dywedodd Esyllt Williams, Pennaeth Ysgol Beddgelert:

“Roedd yn brofiad difyr a chyfoethog iawn i’r disgyblion gael cyd-weithio gyda Tesni, a hefyd yn fraint cael bod yn rhan o gynllunio'r giatiau newydd. Diolch yn fawr i’r Ymddiriedaeth Genedlaethol am y cyfle.”

Fel rhan o'r gwaith adfer natur barhaus, bydd gwartheg yn pori'r ddôl yn ystod yr hydref a'r gaeaf i annog arddangosfa gyfoethocach o flodau gwyllt yn y gwanwyn a'r haf. Bydd llwybr yn cael ei greu trwy'r ddôl yn ystod misoedd yr haf, gan ganiatáu i bobl leol ac ymwelwyr fwynhau harddwch naturiol yr ardal a chysylltu gyda natur.

Mae'r gwaith yma gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn rhan o raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Hoffai Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ddiolch i Barc Cenedlaethol Eryri, Partneriaeth Natur Eryri, CGGC a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth.