Skip to content

Darganfod y Mwnt

Dynes yn gwenu ac yn dal llaw plentyn wrth iddynt sefyll yn y môr yn gwisgo siwtiau dŵr ym Mwnt, Ceredigion, Cymru.
Ymwelwyr yn y môr ym Mwnt | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Mae Mwnt yn hafan i fywyd gwyllt ac yn un o’r lleoedd gorau yng Ngheredigion i weld dolffiniaid. Ar ddiwrnodau heulog braf mae teuluoedd yn heidio i’r Mwnt i fwynhau tywod euraidd a thonnau’r bae bychan cudd.

Pethau i'w gweld a'u gwneud ym Mwnt

Ar eich ymweliad, cofiwch gerdded i gopa Foel y Mwnt a mwynhau’r golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion - ar ddiwrnodau clir, mae copaon Eryri i’w gweld ar y gorwel.

Dewch o hyd i’r dolffiniaid

Mae dolffiniaid i’w gweld yn aml yn chwarae yn nyfroedd y bae, ac mae Mwnt yn adnabyddus yn lleol fel un o’r llefydd gorau i’w gweld.

Bob haf mae tîm o geidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnal digwyddiadau Gwylio Dolffiniaid i gasglu data i helpu i fonitro’r boblogaeth.

Chwarae yn y môr ym Mwnt, Ceredigion, Cymru
Chwarae yn y môr ym Mwnt, Ceredigion, Cymru | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Golygfeydd ysblennydd

Gyrrwch ar hyd lonydd gwledig troellog arfordir Ceredigion, dafliad carreg i’r gogledd o ganol tref Aberteifi, a chewch wledd i’r llygaid.

Mae’r golygfeydd dros Fae Ceredigion yn ysblennydd. I gyrraedd y traeth mae yna gyfres o risiau’n arwain i lawr at fae tywodlyd cysgodol. Gallwch hefyd gyrraedd y traeth drwy gerdded ar hyd y rhannau lleol o Lwybr Arfordir Cymru.

Pethau na ddylech eu colli

  • Y dolffiniaid yn chwarae ym Mae Ceredigion
  • Gwylio’r machlud o gopa Foel y Mwnt
  • Y golygfeydd arfordirol dramatig wrth gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru
Dynes yn sefyll yn dal corff-fwrdd ac yn gwenu yn y dŵr bas, tra bod tonnau’n torri y tu ôl iddi ym Mwnt, Ceredigion, Cymru.

Discover more at Mwnt

Find out how to get to Mwnt, where to park, the things to see and do and more.