Skip to content

Cylchdaith Pistyll

Cymru

Golygfeydd o Bistyll
Golygfeydd o Bistyll | © Lily Usher

Archwiliwch dirwedd hanesyddol sy'n gyforiog o archeoleg a bywyd gwyllt.

Eiddo ger

Pistyll 

Man cychwyn

Parcio ger arwyddion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Pistyll. Ar gyfer satnav defnyddiwch LL53 6LR.

Pa Mor Heriol

Llwybr llawn

PellterMilltiroedd: 6 (km: 9.6)
Hyd4 awr 30 munud
Addas i gŵn*
  1. *Gall gwartheg fod yn pori yma, peidiwch â mynd atyn nhw, a chadwch eich cŵn ar dennyn bob amser.

  • Cyfanswm y rhannau: 8

    Cyfanswm y rhannau: 8

    Man cychwyn

    Parcio ger arwyddion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Pistyll. Ar gyfer satnav defnyddiwch LL53 6LR.

    Rhan 1

    O’r lle parcio, ewch drwy’r giât mochyn ger arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan ddilyn y wal gerrig i fyny’r bryn ar y dde.

    Man cychwyn taith gerdded Pistyll
    Man cychwyn taith gerdded Pistyll | © Alex Jones

    Rhan 2

    Ar ôl pasio drwy cwpwl o giatau eraill rydych nawr mewn cae agored. Ewch lawr y bryn gan anelu at ganol y cae lle gwelwch giât fochyn arall. Ewch drwy’r giât a dilyn y ffens ar y chwith am y ffermdy.

    Giât mochyn yng ngwaelod cae
    Giât mochyn yng ngwaelod cae | © National Trust

    Rhan 3

    Ewch drwy’r giât mochyn ar y dde gan gadw i’r chwith a pasio drwy giât arall. Croeswch y trac ac ewch drwy giât pren gan anelu at ongl dde uchaf y cae.

    Giât mochyn ger ffermdy
    Giât mochyn ger ffermdy | © National Trust

    Rhan 4

    Dilynwch y trac i’r chwith gan groesi’r gamfa ar y dde. Parhewch i fyny a phasio drwy ddwy giât mochyn arall.

    Camfa yn arwain at Lwybr Arfordir Cymru
    Camfa yn arwain at Lwybr Arfordir Cymru | © National Trust

    Rhan 5

    Pasiwch drwy giât haearn gan anelu i gyfeiriad y bwthyn. Cadwch i’r chwith ger y wal gerrig a phasiwch drwy giât arall wedyn dilyn y ffens ar y chwith. Ar ôl cyrraedd y maes parcio ar gyrion Yr Eifl, dilynwch y lôn tarmac i lawr am Nant Gwrtheyrn.

    Maes parcio uchaf Nant Gwrtheyrn
    Maes parcio uchaf Nant Gwrtheyrn | © Natinal Trust

    Rhan 6

    Rydych nawr wedi cyrraedd Canolfan Treftadaeth Nant Gwrtheyrn. Parhewch i ddilyn y lôn lawr am y traeth gan ddilyn arwyddbyst Llwybr Arfordir Cymru i’r chwith. Mae’r llwybr yn mynd a chi uwchben Porth y Nant, drwy goetir ac mi fydd angen croesi afon fechan.

    Rhan 7

    Unwaith eich bod wedi cyrraedd trac, dilynwch y ffordd i lawr gan barhau i ddilyn arwyddbyst llwybr yr arfordir.

    Mulfran yn agos
    Mulfran yn agos | © Mick Jones

    Rhan 8

    Parhewch i ddilyn yr arwyddbyst nes cyrraedd eglwys Beuno Sant ym Mhistyll. Cerddwch i fyny’r ffordd tarmac.

    Eglwys Beuno Sant
    Eglwys Beuno Sant | © National Trust

    Man gorffen

    Parking near National Trust signage, just off the main road.

    Map llwybr

    Map o daith cerdded Pistyll
    Map o daith cerdded Pistyll | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

    Dyna ni, da iawn chi

    Rhannwch eich profiad

Cysylltwch

Pistyll, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6LR

Pistyll 

Tirwedd hanesyddol sy’n gyforiog o archeoleg a bywyd gwyllt ar arfordir gogleddol Llŷn.

Pwllheli, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Golygfeydd gaeafol dros Borth Pistyll

Ymweld â Pen Llŷn gyda'ch ci 

Yma yn Llŷn mae gennym ni amrywiaeth o deithiau cerdded i’ch plesio chi a’ch ffrind pedair coes, o draeth perffaith Porthdinllaen i arfordir prydferth Porthor.

Dau o bobl yn cerdded dau gi bach ar hyd traeth Llanbedrog, darn eang o dywod gyda chytiau traeth lliwgar a choed tal gwyrdd tywyll yn unon tu ôl iddynt.