Ymweld â Phorth Meudwy
Mae pererinion ac ymwelwyr wedi cael eu cludo draw i Ynys Enlli ers canrifoedd o Borth Meudwy. Mwynhewch natur a hanes y cildraeth bach delfrydol hwn.
Y '5 mawr'
O Aberdaron i Uwchmynydd, mae’r rhan yma o Lŷn yn gyforiog o fywyd gwyllt. Wrth gerdded Llwybr Arfordir Cymru gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad am y ‘5 Mawr’.
Mae’r cyfuniad o welltir a rhostir arfordirol ar gyfer bwydo, a chlogwyni creigiog ar gyfer nythu yn golygu bod y rhan yma o Lŷn yn un o’r llefydd orau i weld y fran goesgoch. Gellwch eu gweld yn troelli uwchben y clogwynni neu’n chwilio am bryfetach i’w fwyta yn y llystyfaint byr.
Gellwch weld morloi llwyd o amgylch arfordir Aberdaron. Eu hoff lefydd i dynnu eu hunain allan o’r môr yw brigiad neu draeth creigiog ac ogofau arfordirol- y mwyaf diarffordd y gorau.Mae’r moroedd cyfoethog o amgylch Llŷn yn cynnig digon o bysgod i’r morloi fwyta.
Mae’r hebogiaid tramor trawiadol, gyda brest smotiog a mwstas du amlwg wedi gwneud y clogwyni rhwng Aberdaron ac Mynydd Mawr yn gartref. Maent yn un o’r anifeiliaid cyflymaf yn y byd, a gallant gyrraedd cyflymder o 120 millitr yr awr!
Mae llamhidyddion yn greaduriaid swil, ni fyddwch yn eu gweld yn dilyn cychod neu’n neidio allan o’r dŵr fel dolffiniaid, ond edrychwch allan i’r môr ac efaillai welch chi eu hesgyll. Maent yn llai na dolffiniaid gydag wyneb mwy fflat ac asgell gydag ochr syth.
Mae chwedlau Cymraeg yn llawn o gyfeiriadau at ysgyfarnogod, ond mae amaethyddiaeth ddwys wedi cael effaith niweidiol arnynt dros y ganrif ddiwethaf. Serch hynny mae tir fferm yma yn Llŷn yn cynnig cymysgedd o gynefinoedd a gallech fod yn lwcus a gweld clustiau hir, blaen du yr ysgyfarnog. Maent yn fwy na chwningod gyda coesau hirach sy’n gymorth iddynt rede gar gyflymderau dros 45 milltir yr awr i osgoi ysglyfaethwyr!
Hanes Lleol
Yma yn Llŷn, mae’r môr cyn bwysiced â’r tir bron; mae wedi bod yn rhan annatod o fywyd yr ardal ers canrifoedd i’r ffermwr, pysgotwr a’r pererin.
Mae Ynys Enlli wedi bod yn safle pererindod ers yr Oesoedd Canol. Ers i Sant Cadfan adeiladu mynachlog ar yr ynys yn 516, mae wedi bod yn lle o bwys mewn Cristnogaeth. Dywedir fod tair pererindod i Enlli yn cael eu hystyried mor fuddiol ac ysbrydol ag un daith i Rufain. Byddai’r Pererinion yn gorffwys ac yn bwyta yn Y Gegin Fawr, Aberdaron cyn mynd am Borth Meudwy i groesi draw i Enlli.
Gellir ymwelwyr fynd ar bererindodau presennol i Enlli o Borth Meudwy, ar gwch cyflym, modern ac ymgolli eu hunain yn y golygfeydd godidog ar hyd y ffordd a mwynhau natur a hanes yr ynys.
Yn y cildraeth delfrydol hwn fe sylwch ar gychod hwylio bach pren. Mae'r math yma o gychod yn ddyluniad unigryw, wedi'u teilwra flynyddoedd yn ôl ar gyfer dal hwyliau fel y gallai pysgotwyr lleol gadw eu nerth wrth ddychwelyd i'r lan ar ôl diwrnod hir, llafurus o bysgota. Heddiw, mae bron pob cwch a gynhyrchir yn Llŷn yn dal i fod â rhinweddau a nodweddion arbennig cwch traddodiadol Aberdaron.
Mae pysgotwyr lleol yn dal i ddefnyddio Porth Meudwy fel porthladd i lansio eu cychod i chwilio am gimychiaid a chrancod brown ar gyfer eu bywoliaeth.