Skip to content

Y Pwyllgor - bwrdd cynghori Cymru

Five Y Pwyllgor members gather at Dinefwr
Aelodau'r Pwyllgor yn cyfarfod yn Dinefwr | © National Trust Cymru

Mae'n bleser gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol benodi aelodau newydd i ymuno â'r Pwyllgor, ei bwrdd cynghori ar gyfer Cymru. Dewch i ddysgu mwy am rôl Y Pwyllgor a'i aelodau.

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1895 gan bobl a gredai fod angen sylfaenol arnom oll am fynediad i natur, gofod a harddwch, a bod angen gwarchod lleoedd arbennig.

Mae'r grŵp cynghori, Y Pwyllgor, yn hanfodol i'n gwaith i gyflawni hyn yng Nghymru heddiw.

Beth mae bwrdd cynghori Cymru, Y Pwyllgor yn ei wneud?

Mae'r Pwyllgor yn un o ddau grŵp cynghori gwlad a phedwar rhanbarth ar draws yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Mae gan y Pwyllgor hyd at naw aelod sy'n cynghori, yn cefnogi ac yn herio Cyfarwyddwr Cymru a’i thîm i ddatblygu eu meddwl ar flaenoriaethau, themâu neu brosiectau strategol.

Mae aelodau’r grŵp yn dod â’u gwybodaeth am Gymru, yn ogystal â mewnwelediadau, rhwydweithiau ac arloesedd gan sefydliadau a sectorau allanol i helpu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i edrych ar ol llefydd arbennig, i bawb, am byth.  

Angerdd ein pobl a’n cefnogwyr sy’n gwneud yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn lle arbennig i weithio a gwirfoddoli. Pobl yw'r allwedd i'n llwyddiant.

Dewch i gwrdd ag aelodau'r Pwyllgor

Aelod

Sian Lloyd

Mae Sian Lloyd yn newyddiadurwr ac yn ddarlledwr profiadol, sy’n wyneb cyfarwydd ar ôl cyflwyno rhaglenni cenedlaethol, yn cynnwys BBC Breakfast, BBC Crimewatch Roadshow a Panorama. Mae hi hefyd wedi gohebu ar rai o’r adegau allweddol mewn hanes diweddar, fel uwch ohebydd newyddion ar gyfer y BBC, gan ymddangos yn rheolaidd ar Newyddion 6 o’r gloch a 10 o'r gloch y BBC, yn ogystal â rhaglenni newyddion Radio 4. 

Dechreuodd Sian ei gyrfa Teledu a Radio yng Nghymru fel gohebydd. Yna bu’n gyflwynydd y rhaglen flaenllaw a phoblogaidd y BBC, ‘Wales Today’ a’r rhaglen radio amser gyrru ‘Good Evening Wales.’ Cyn dod yn newyddiadurwr, hyfforddodd Sian fel cyfreithiwr yn Llundain a Hong Kong, ond dilynodd ei breuddwyd o ddod yn newyddiadurwr yn fuan ar ôl cymhwyso.   

Wrth ddod yn llawrydd y llynedd roedd Sian yn awyddus i  feithrin y cysylltiad hwn a sefydlu perthynas gryfach gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. Trwy helpu ar Bwyllgor Ymgynghorol Cymru mae hi’n cynnig sgiliau a rhwydweithiau a ddatblygwyd dros yrfa 25 mlynedd o hyd ym maes cyfathrebu a'r sector creadigol, ynghyd ag ymdeimlad cryf o gymuned a gwybodaeth am dirwedd wleidyddol a diwylliannol Cymru.

An image of Y Pwyllgor member Sian Lloyd
Sian Lloyd - Aelod o'r Pwyllgor | © National Trust Cymru
Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.