Skip to content

Ffermio a natur yn Ysbyty Ifan

Defaid yn pori yn Gwm Penmachno ar ddiwrnod heulog, Ystâd Ysbyty Ifan, Cymru
Defaid yn pori yn Gwm Penmachno | © National Trust Images/Paul Harris

Wedi’i lleoli ar y llethrau anghysbell i’r de o Ysbyty Ifan, mae Blaen Eidda Isaf yn fferm ucheldirol 54-hectar ar Ystâd Ysbyty Ifan, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol – tirwedd o laswelltir wedi’i wella, glaswelltir brwynog a chorsiog sy’n fôr o flodau, coridor afon, coetir a ffridd.

Sut mae natur yn cefnogi busnes y fferm?

Mae Blaen Eidda Isaf yn 54 hectar o faint ac yn meddu ar hawliau pori ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig Migneint-Arenig-Dduallt.

Mae’r fferm yn gartref i lawer o rywogaethau â blaenoriaeth, gan gynnwys y boda tinwyn, y gylfinir a llygod dŵr. Y nod busnes allweddol yw cyflawni hyfywedd economaidd a ffordd o fyw gynaliadwy, gyda chynhyrchiant da byw yn cyd-fynd â nodweddion naturiol a chapasiti’r tir.

‘Ffermwyr, gwartheg a defaid yw’r asedau gorau ar gyfer creu a rheoli ein tirweddau, cynefinoedd ac ecosystemau.’

– Adam Russell, tenant Blaen Eidda Isaf

Er mwyn mynd i’r afael â busnes defaid colledus ac arallgyfeirio at wartheg at ddibenion rheoli cynefin, mae nifer y defaid wedi’i leihau gan 70%. Er bod llai o ŵyn yn cael eu cynhyrchu, mae pwysau gwell yn cael ei gyflawni mewn cyfnod byrrach, ac mae costau porthiant ac all-aeafu wedi’u hosgoi. Mae’r busnes defaid nawr yn hyfyw, mae’r tir pori mewn cyflwr gwell ac mae’r rhostir a oedd wedi dirywio bellach yn adfywio.

Curlew, low level from the side in a field with blue sky above
Adfer cynefin y gylfinir | © National Trust Images/Adam Kirkland

Sut mae’r fferm hon yn adfer amgylchedd iach a mwy naturiol?

Mae gwartheg sy’n pori dros yr haf yn adfer cynefin ar gyfer adar sy’n nythu ar y ddaear, fel y gylfinir. Mae rhaglen o flocio ffosydd i ail-wlychu’r Migneint yn gwella iechyd y mawn dwfn ac mae rhaglen bori amrywiol yn helpu i adfer natur ar y fferm.

Fel rhan o grŵp Fferm Ifan, mae’r fferm yn gweithio gyda’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg i blannu mwy o goed a gwrychoedd ffermdir i amddiffyn cynefinoedd glan afon i helpu i leihau erydiad pridd a’r risg o lifogydd ymhellach i lawr yr afon.

Beth nesaf?

Mae rheoli cynefin y gylfinir yn parhau i fod yn flaenoriaeth cadwraeth ar gyfer y fferm. Mae grŵp Fferm Ifan wedi sicrhau cyllid gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru i gyflawni’r cynllun plannu dalgylch-sensitif a threialon pori cynaliadwy ar y fferm a’r Migneint, a helpu i ddatblygu marchnadoedd newydd ar gyfer cynhyrchion rheoli tir cynaliadwy (nad ydynt yn fwyd) – dŵr glân, araf, storfeydd carbon a bioamrywiaeth sy’n ffynnu.

Pa gymorth oedd ei angen i gyflawni hyn?

Mae contract Glastir Uwch yn cefnogi gweithgareddau rheoli cynefin ar y fferm ac yn cadw’r busnes gwartheg yn hyfyw. Mae cyflogaeth oddi ar y fferm hefyd yn ffynhonnell incwm hanfodol i’r busnes. Cyfrannodd cytundeb rheoli gyda Cyfoeth Naturiol Cymru at y rhaglen blocio ffosydd.

Golygfa o bentref Ysbyty Ifan, Gwynedd, ar lan Afon Conwy. Gwelir casgliad o dai Cymreig carreg a phont fwa dros yr afon yn y blaendir.

Darganfyddwch fwy yn Ysbyty Ifan

Dysgwch sut i gyrraedd Ysbyty Ifan, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o bentref Ysbyty Ifan, Gwynedd, ar lan Afon Conwy. Gwelir casgliad o dai Cymreig carreg a phont fwa dros yr afon yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Hanes Ysbyty Ifan 

Dysgwch sut y cafodd Ysbyty Ifan ei enw a’i hanes cyfoethog o farchogion a phererinion a sut y daeth yn yr un ystâd fwyaf y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdani.