Creu dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Cyhoeddwyd:
- 09 Gorffennaf 2025

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bodoli er mwyn gwarchod a hyrwyddo byd natur, harddwch a hanes er budd pawb. Ond mae’r gwaith hwn yn fwyfwy anodd oherwydd pwysau ariannol parhaus sydd y tu hwnt i’n rheolaeth. Maent yn effeithio ar nifer o elusennau, ac maent yn effeithio ar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ym mis Ionawr, gwnaethom gyhoeddi strategaeth 10 mlynedd newydd, a gafodd ei llywio gan bron i 70,000 o bobl yn cynnwys aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'n ein hymrwymo ni i dri phrif nod: adfer byd natur, rhoi diwedd ar fynediad anghyfartal at natur a threftadaeth ddiwylliannol, ac ysbrydoli miliynau yn fwy o bobl i ofalu ac i weithredu i gefnogi ein hachos. Cafodd ei chroesawu gan gefnogwyr, cyfoedion a’r cyhoedd fel ei gilydd.
Er mwyn bodloni’r nodau hyn a chreu dyfodol cynaliadwy i'r Ymddiriedolaeth mewn amgylchedd ariannol anodd, fel man cychwyn rhaid i ni sicrhau bod yr elusen hon yn ariannol gryf ac yn meddu ar adnoddau digonol ar gyfer y dyfodol.
Er bod y galw am ein gwaith yn parhau i dyfu, gyda chynnydd mewn ymwelwyr a rhoddion bob blwyddyn, mae’r costau cynyddol yn fwy na’r twf hwn.
Golyga hyn fod rhaid i ni wneud rhai newidiadau mewnol i'r sefydliad er mwyn ymateb i hyn. Cyflog yw’r elfen fwyaf o’n costau ac rydym yn cynnig lleihau ein bil cyflog. Rydym yn dechrau cyfnod ymgynghori o 45 diwrnod gyda’n staff er mwyn dod o hyd i arbedion gwerth £26 miliwn. Bydd y cynigion yma’n arwain at ostyngiad amcangyfrifedig o 6% yn nifer y swyddi. Wrth gwrs, byddwn yn gweithio i leihau nifer y diswyddiadau gorfodol.
Gwyddom pa mor anodd yw hyn i’n pobl ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu sgiliau a’u hagwedd broffesiynol. Rydym ni’n gweithio’n galed, ynghyd â’r undeb Prospect, er mwyn gwneud y newid hwn mor ddi-boen â phosibl. Daw hyn wedi misoedd o fesurau eraill i arbed costau. Rydym wastad eisiau osgoi colli swyddi.
Yn y newidiadau arfaethedig, rydym yn blaenoriaethu’r pethau mae pobl wedi’i ddweud wrthym sy’n bwysig ar gyfer y strategaeth newydd, gan warchod y pethau mae pobl yn eu gwerthfawrogi fwyaf am yr hyn yr ydym ni’n ei wneud nawr.
Mae hyn yn golygu cyrraedd rhagor o bobl lle maen nhw’n byw gyda’r natur a’r diwylliant sy’n helpu pawb i ffynnu, a pharhau i ddarparu’r profiadau gwych y mae ymwelwyr ac aelodau wrth eu bodd â nhw yn ein lleoedd.
Byddwn yn parhau i ofalu am natur a threftadaeth bob dydd, fel rydym wedi’i wneud ers dros 130 mlynedd. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi para cyhyd oherwydd ei bod yn parhau i addasu ac i gynllunio ar gyfer y tymor hir.
Bydd y newidiadau’n ein galluogi i barhau i ofalu am ac amlygu ein hamgylchedd hanesyddol a naturiol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ymhell i’r dyfodol.