
Amdanom ni
Dysgwch fwy am pwy ydyn ni, beth rydym yn ei warchod a’i hyrwyddo, a pham. (Saesneg yn unig)
Fel tirfeddiannwr, nid yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn caniatáu gweithredu dronau o unrhyw ran o’n tir neu eiddo.
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gwneud defnydd rheolaidd o ddronau ar gyfer arolygu, archwilio, ffilmio a ffotograffiaeth. Mae gwaith o’r fath yn cael ei gomisiynu mewn ymateb i anghenion penodol ac yn cael ei wneud ar ein rhan gan gontractwyr proffesiynol.
Mae’n bosibl y byddwn hefyd, o dan rai amgylchiadau, yn rhoi caniatâd ar gyfer ffilmio drôn masnachol a wneir gan gwmnïau cynhyrchu proffesiynol.
Nid ydym yn rhoi caniatâd ar gyfer hedfan preifat o’n tir ac eiddo am y rhesymau canlynol:
Rydym yn gwneud defnydd o ddronau os oes budd o wneud hynny. Gallai achlysuron o’r fath gynnwys archwiliadau to neu arolygon bywyd gwyllt. Fodd bynnag, mewn achosion o’r fath byddwn yn comisiynu’r gwaith yn benodol gan gontractwyr proffesiynol sydd wedi’u dewis yn ofalus. O dan yr amgylchiadau hyn, gallwn wirio cymhwysedd, cymwysterau ac ardystiadau’r contractwr, mynnu lefelau priodol o yswiriant a gosod amodau a rheolaethau priodol ar waith i sicrhau diogelwch y cyhoedd, preifatrwydd preswylwyr a chyn lleied â phosibl o darfu ar fywyd gwyllt.
Nid ydym yn ymateb i alwadau digroeso gan gontractwyr yn ceisio gwerthu gwasanaethau sy’n gysylltiedig â drôn.
Mae’n bosibl y byddwn yn rhoi caniatâd ar gyfer ffilmio drôn masnachol mewn rhai amgylchiadau. Yn gyffredinol, rhaid i’r cwmni cynhyrchu ddilyn yr un rheolau cymhwysedd ac yswiriant â’r rheini sy’n ofynnol ar gyfer contractwyr. At hynny, rhaid i’r ffilmio fod yn fasnachol ei natur, a rhaid cytuno arno gyda’n swyddfa ffilmio.
Mae’r ceisiadau y gallem eu hystyried yn cynnwys rhai gan gwmnïau cynhyrchu cydnabyddedig sy’n defnyddio delweddau drôn fel rhan o gynhyrchiad ehangach a fydd hefyd yn cynnwys ffilmio ar y ddaear gydag actorion a chyflwynwyr.
Yn gontractiol, dim ond ar gyfer y prosiect a enwir y gall y delweddau gael eu defnyddio, a gwaherddir defnydd pellach, gan gynnwys llyfrgelloedd lluniau.
Ni fyddwn yn rhoi caniatâd hedfan ar gyfer ffilmio amatur neu ffilmio gan fyfyrwyr nac yn cymeradwyo ceisiadau gan unrhyw hedfanwr sy’n ceisio caniatâd yn gyfnewid am fynediad i – neu ddefnydd o’r – delweddau a geir.
I ddysgu mwy am ffilmio yn ein lleoliadau, ewch i’n tudalen ymholiadau ffilmio.
Dysgwch fwy am pwy ydyn ni, beth rydym yn ei warchod a’i hyrwyddo, a pham. (Saesneg yn unig)
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.