Ein casgliadau a chaethwasiaeth
Mae rhai o gasgliadau’r Ymddiriedolaeth yn cynnwys gwrthrychau a wnaed gan gaethweision, neu a oedd yn berchen iddynt. Roedd pren caled trofannol fel mahogani yn cael ei gynaeafu drwy law caethweision, fel y dangosir yn rymus yn y ffilm fer ‘Mahogany’ (cyfarwyddwyd gan Zodwa Nyoni a chynhyrchwyd gan 24 Design yn 2018). Comisiynwyd y ffilm gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nostell, Gorllewin Swydd Efrog i drafod y defnydd o fahogani yng nghasgliad dodrefn Thomas Chippendale.
Mae rhai gwrthrychau yng nghasgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn portreadu pobl dduon mewn ffyrdd ystrydebol neu sy’n gwrthrychu cyrff duon. Mae rhai yn peri sarhad a thrallod.
Mae gwrthrychau fel coler caethwas Caribïaidd posibl Charles Paget Wade yn arwyddion amlwg ac erchyll o’r gorthrwm treisgar a wynebwyd gan gaethweision duon. Mae caethwasiaeth yn bwnc sydd angen ei drin â’r gofal a’r sensitifrwydd eithaf. Ein nod yw gweithio gyda phartneriaid a chymunedau, a dysgu ganddynt, er mwyn i ni allu ailarddangos ac ailddehongli’r eitemau hyn yn iawn, y tu allan i’w cyd-destunau blaenorol o gelf addurniadol neu arddangosfa orchestaidd.
Cysylltiadau â masnach a’r East India Company
Am bum can mlynedd, roedd gwladychiaeth Brydeinig yn hanfodol i fywyd cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwylliannol Prydain. Daeth hyn law yn llaw â chred mewn goruchafiaeth wen, o safbwynt hiliol a diwylliannol. Adlewyrchir hyn ar draws llawer o leoliadau a chasgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Roedd llawer o’r eiddo a’r casgliadau yn berchen i – neu wedi’u prynu gan – swyddogion arweiniol o’r East India Company, y gorfforaeth hynod bwerus a ddominyddodd masnach rhwng Ewrop, Asia a’r Dwyrain Canol rhwng 1600 a 1857. Roedd y cwmni yn allweddol yng nghaethfasnach Dwyrain Affrica a hefyd yn masnachu caethweision o Arfordir Gorllewinol Affrica i’w wladfeydd yn Ne a Dwyrain Affrica, India ac Asia.
Thomas Myddelton (1550-1631), AS ac Arglwydd Faer Llundain, a brynodd Gastell y Waun ym 1593, oedd un o sylfaenwyr yr East India Company, a dderbyniodd siarter gan Elisabeth I ar 31 Rhagfyr 1600.
Y teulu Clive a’r East India Company
Yn y 18fed ganrif, o dan Robert Clive (1725-74), defnyddiodd y cwmni ei gyfoeth a’i fyddinoedd i heidio i isgyfandir yr India a’i orchfygu er mwyn manteisio ar ei gyfoeth o adnoddau naturiol. Yn ogystal â chreu’r Ymerodraeth Brydeinig yn India, gwnaeth hyn Clive yn ŵr eithriadol o gyfoethog, ac ym 1768 gwariodd tua £100,000 yn ailfodelu Ystâd Claremont yn Surrey. Heddiw, mae Gardd Claremont dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Gwnaeth mab Robert, Edward Clive (1754–1839), ac yntau’n Llywodraethwr Madras, drechu a lladd Tipu Sultan (1750–99), llywodraethwr Mysore. Mae etifeddiaeth wladychol Edward Clive i’w gweld heddiw mewn casgliad a elwir yn ‘Amgueddfa Clive’ yng Nghastell Powis.
Gwnaeth mab Edward Clive, a enwyd yn Edward hefyd, etifeddu Powis pan fu farw ei ewythr ar ochr ei fam, Iarll Powis. Mae’r casgliad o wrthrychau Indiaidd yn cynnwys pabell gwladwriaeth ysblennydd Tipu Sultan a phen teigr aur gemog o’i orsedd.