Yn Nyffryn Mymbyr ger Capel Curig, y lle gwlypaf yng Nghymru, rydyn ni wrthi’n plannu 5,000 o goed ar hyd y ceunentydd. Yn ogystal â helpu i leihau llif y dŵr, bydd yn gwella cynefin y ffridd ac yn rhoi llain werthfawr o dir i fywyd gwyllt fydd yn cysylltu coedwigoedd yn Nant Gwynant a Chapel Curig.
Treialu dull newydd
Os gallwn ni ddeall yn well sut mae’r nodweddion naturiol yma’n helpu i leihau’r risg o lifogydd, fe allwn ni gyfrannu at ffordd newydd o feddwl sy’n dod â budd i bobl a bywyd gwyllt. Rydyn ni’n edrych ar y posibilrwydd o dreialu math newydd o gynllun talu i ffermwyr, fydd yn seiliedig ar y costau y gallen nhw ein helpu i’w hosgoi.
Bob blwyddyn mae llifogydd yn costio miliynau o bunnoedd. Os gallwn ni ddefnyddio rhywfaint o’r arian hwnnw tuag at atal llifogydd mewn ffordd naturiol a gwella ansawdd dŵr, gallai’r manteision gynnwys:
- Creu tirwedd iachach, mwy gwydn a hardd i bobl ei fwynhau
- Cefnogi ffermydd i arallgyfeirio a chael clod am helpu i gynnal tirwedd iach
- Bydd ein cymunedau’n gweld llai o achosion o lifogydd eithafol
- Ymhen amser, bydd yr arbedion a wnawn yn sgil atal ac ymateb i lifogydd yn rhyddhau arian cyhoeddus ar gyfer blaenoriaethau eraill.
- Os yw’n costio llai i drin dŵr gallai olygu biliau is i gwsmeriaid.
Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth, neu eisiau bod yn rhan o’r prosiect, cysylltwch.