Skip to content
Prosiect

Prosiect dalgylch Uwch Conwy

Golygfa o’r afon yn Gwm Penmachno, wedi’i amgylchu gan weundir a choed ar ddiwrnod heulog.
Nant mynydd yn byrlymu, Cwm Penmachno | © National Trust Images/Paul Harris

Mae dalgylch Uwch Conwy’n 336km² o faint ac yn gartref i amrywiaeth eang o gynefinoedd – o orgors, rhostir a choetir i ffermydd iseldirol ffrwythlon, dolydd ac aberoedd. Mae afonydd yn cysylltu’r cynefinoedd hyn, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar brosiect i daclo effeithiau newid hinsawdd a lleihau llifogydd yn yr ardal, er budd natur, bywyd gwyllt a phobl.

Beth yw prosiect dalgylch Uwch Conwy?

Nod prosiect dalgylch Uwch Conwy yw mynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd a cholledion natur yn ardal dalgylch Afon Conwy, er bydd pobl a natur.

Yr un maint ag Ynys Wyth, mae’r dalgylch yn gorchuddio 3% o arwynebedd Cymru, sy’n cynnwys 19 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), tair Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac un Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA).

Mae cynnydd mewn llifogydd eithafol, ansawdd dŵr gwaeth a cholledion bywyd gwyllt yn awgrymu nad yw byd natur yn y cyflwr y dylai fod, ac mae angen adfer llawer o gynefinoedd gwerthfawr. Yn sgil hyn, nid yw’r amgylchedd yn gallu addasu mor effeithiol i’r digwyddiadau tywydd eithafol a ddaw gyda newid hinsawdd.

Beth rydym yn ei wneud i helpu

Gan weithio gyda chymunedau, sefydliadau, tirfeddianwyr a thenantiaid lleol, rydym yn creu cynefinoedd gwell, mwy cydlynol, sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt ac sy’n gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd.

Tra bod ffocws ein gwaith yn Uwch Conwy, rydym yn gobeithio gweld effeithiau cadarnhaol ymhellach i lawr yr afon a’r tu hwnt i ddalgylch Afon Conwy. Dysgwch fwy am sut rydym yn cyflawni hyn yn y fideo.

A view across the moorland at Cwm Penmachno with a hill in the distance and low clouds in the sky
Rhostir, Cwm Penmachno | © National Trust Images/Paul Harris

Sut rydym yn adfer mawndir

Mae cors iach yn un ffordd o helpu i gadw dŵr yn agos i’w darddle. Mae cors Migneint yn enghraifft dda o hyn – mae’r dŵr glaw sy’n cyrraedd y Migneint yn cael ei hidlo drwy’r migwyn yn y gors, sy’n gweithio fel sbwng i arafu llif y dŵr.

Mae’r Migneint yn wlypach o lawer heddiw nag yr oedd ddegawd yn ôl, diolch i dros 35,000 o argloddiau newydd a dros 300km o ffosydd draenio wedi’u blocio. Mewn tro, mae hyn wedi helpu i adfer cynefin gwerthfawr, gwella ei allu i storio carbon a lleihau llifogydd ymhellach i lawr yr afon, ac mae cors wlypach hefyd yn helpu i leihau’r perygl o danau gwyllt a chyfnodau o sychder.

Gyda’i gilydd, mae hyn yn gwneud y Migneint yn hafan i’r boda tinwyn, y cwtiad aur a’r gylfinir, sy’n rhywogaethau cynyddol brin.

Plannu mwy o goed

Mae’r gorchudd coed hanesyddol wedi dirywio yn y dalgylch, fel llawer o rannau eraill o’r wlad, ac mae’r prosiect yn mynd i’r afael â hyn drwy blannu mwy o goed. Rydym yn gwneud hyn mewn ffordd sy’n ategu defnydd tir drwy blannu’r goeden gywir yn y lle cywir.

Yn Nyffryn Mymbyr ger Capel Curig, y lle gwlypaf yng Nghymru, rydym wrthi’n plannu miloedd o goed ar y dirwedd eang, ar lannau afonydd a nentydd ac ar wasgar ar draws y llethrau. Yn ogystal â helpu i arafu llif y dŵr, bydd yn gwella cynefin y ffridd ac yn creu coridor bywyd gwyllt gwerthfawr yn cysylltu tirweddau coediog Nant Gwynant a Chapel Curig.

Adfer afon

Un o flaenoriaethau’r prosiect yw adfer yr afonydd o fewn y dalgylch, sy’n cynnwys 12 o gyrff dŵr sydd, gyda’i gilydd, ag arwynebedd o 574 km².

Yn ddiweddar rydym wedi adfer rhan o Afon Machno yn Fferm Carrog i alluogi prosesau naturiol drwy gael gwared ar arglawdd artiffisial. Mae hyn wedi helpu i ailgysylltu’r afon â’i gorlifdir naturiol, gan wneud mwy o le i ddŵr a natur sy’n helpu i leihau llifogydd ymhellach i lawr yr afon.

Rydym nawr yn defnyddio technegau y gwnaethom eu treialu yn Fferm Carrog ar safleoedd eraill yn y dalgylch, gan gynnwys Nant y Gwryd, afon sy’n llifo wrth odre copa uchaf Cymru, Yr Wyddfa.

A sweeping view of green fields in the valley at Cwm Penmachno with some buildings visible in the valley and a sloping hill up the mountainside, with low-hanging clouds and a dark mountain in the background
Cwm Penmachno | © National Trust Images/Paul Harris

Tir Afon: hwb i les a natur

Elfen arall o’r prosiect Uwch Conwy yw Tir Afon, prosiect sydd â’r nod o wella cysylltiadau rhwng cymunedau Dyffryn Conwy a’u tirwedd. Gyda ffocws cryf ar les, bydd y prosiect yn creu cyfleoedd i bobl gysylltu â natur a darganfod byd natur ar garreg eu drws.

Fel rhan o’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, ac mewn partneriaeth â darparwyr gofal iechyd lleol, bydd Tir Afon yn gwella mynediad i ymarfer corff yn yr awyr iach. Bydd beiciau trydan ar gael i wneud beicio’n hygyrch i bawb, tra bydd teithiau tywys yn cael eu cynnig i helpu pobl i grwydro a darganfod.

‘Mae’r Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff wedi cael effaith mor gadarnhaol – rydym mor falch o weld yr egwyddor yn cael ei hymestyn i’r awyr agored. Rydym yn llawn cyffro o gael bod yn rhan o’r prosiect hwn i wella mynediad i weithgarwch corfforol yng Nghonwy wledig – gan ailgysylltu pobl a natur.’

– Y Cynghorydd Louise Emery, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Amserlen y prosiect

24 Ion 2022 

Foel yn dod dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru 

Mae cannoedd o erwau o lethrau yn ardal lechi Eryri bellach dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru gyda’r nod o hybu poblogaethau bywyd gwyllt, mynd i’r afael â newid hinsawdd, a chynyddu diddordeb yn hanes cloddio’r ardal.

Mae’r ardal wedi’i lleoli wrth ben Dalgylch Afon Conwy, lle rydym wedi bod yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ers dros ddegawd i arafu llif y dŵr i leihau’r perygl o lifogydd a chreu cynefinoedd cyfoethog i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae’r safle 1,600-erw anghysbell hwn yn chwarae rôl allweddol wrth barhau â’r gwaith hwn ar lefel tirwedd, er budd pobl a natur. 

Walker taking in the sweeping view of the valley at Cwm Penmachno, with moorland and mountains visible beneath patchy sunlight and low-hanging clouds
Cwm Penmachno | © National Trust Images/Paul Harris

Partneriaid a chyllidwyr

Mae'r gwaith o adfer a gwarchod y dirwedd arbennig hon yn bosibl diolch i grant gan Cyfoeth Naturiol Cymru a rhodd gan y dyngarwyr Roger ac Ania Manser.

The sun rising over Knoll Beach with grasses in the foreground at Studland Bay, Dorset

I bawb, am byth

Rydym yn diogelu a gofalu am lefydd fel y gall pobl a natur ffynnu. Dysgwch amdanom ni a'r hyn rydym yn ei gefnogi.

Ein partneriaid

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal yn gynaliadwy.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Clear evidence how the erosion of the cliffs due to climate change threatens the archeological site of the hillfort at Dinas Dinlle, Gwynedd
Erthygl
Erthygl

Sut rydym yn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd 

Y newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt. Dysgwch am ein haddewidion amgylcheddol a sut rydym yn addasu i batrymau tywydd newidiol, yn lleihau allyriadau carbon ac yn mynd i’r afael â’r difrod sydd wedi’i wneud yn barod. (Saesneg yn unig)

Rangers and HSBC volunteers planting Sphagnum moss at High Peak Estate, Derbyshire
Erthygl
Erthygl

Gweithio tuag at adferiad gwyrdd 

Gyda chefnogaeth Cronfa Her Adferiad Gwyrdd y Llywodraeth, rydym yn chwilio am ffyrdd o ddiogelu ein hamgylchedd a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Dysgwch fwy am y gwaith rydym yn ei wneud. (Saesneg yn unig)

Prosiect
Prosiect

Ein uchelgais i blannu 20 miliwn o goed i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd 

Dysgwch am gynlluniau uchelgeisiol i blannu coed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a fydd yn amsugno carbon ac yn galluogi natur i ffynnu. (Saesneg yn unig)

River Derwent, Borrowdale, north East of Castle Crag, Cumbria
Erthygl
Erthygl

Riverlands: sut rydym yn cadw ein hafonydd i lifo 

Dysgwch fwy am brosiect Riverlands uchelgeisiol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd â’r nod o adfywio afonydd a nentydd y DU. (Saesneg yn unig)