Skip to content
Datganiad i'r wasg

Artist tecstilau enwog yn dewis Castell Powis fel lleoliad ar gyfer ei arddangosfa

Kaffe Fassett gyda chwilt â swigod yn yr ardd yng Nghastell Powis, Cymru
Kaffe Fassett gyda chwilt â swigod yn yr ardd yng Nghastell Powis, Cymru | © Brandon Mably

Mae Kaffe Fassett yn artist ac yn gynllunydd tecstilau byd-enwog ac mae wedi penderfynu dod â’i arddangosfa liwgar i Ganolbarth Cymru yn 2023. Pleser i Gastell a Gardd Powis yw cyhoeddi y bydd ‘Lliw gyda Kaffe: arddangosfa decstilau yng Nghastell Powis’ yn agor ddydd Sadwrn 18 Chwefror.

Bydd yr arddangosfa ar agor tan ddiwedd gwyliau’r haf. Bydd yn cynnwys rhai o ddarnau mwyaf poblogaidd yr artist yn ogystal ag ambell ddarn newydd a ysbrydolwyd gan y castell ei hun.

Medd Shane Logan, Rheolwr Cyffredinol Castell a Gardd Powis: “Rydym wrth ein bodd o gael gweithio gyda Kaffe a’i dîm er mwyn dod â’r arddangosfa liwgar hon i Gastell Powis.

“Mae Kaffe yn artist gwych ac mae’n anrhydedd i ni ei fod wedi ein dewis fel ysbrydoliaeth a chefndir ar gyfer ei gasgliad newydd. Mae croesawu artist fel Kaffe i’r Trallwng yn dipyn o fraint, ac rydym yn rhagweld y bydd dilynwyr o bedwar ban byd yn teithio yma i weld yr arddangosfa. Ein gobaith yw y bydd pobl yr ardal yn manteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd ar garreg eu drws, gan brofi rhywbeth gwahanol a chyffrous eleni.”

Bydd yr arddangosfa’n cael ei lleoli oddi mewn i’r castell, a fydd ar agor yn ddyddiol rhwng 12pm a 4pm o 18 Chwefror. Bydd cwiltiau clytiau, siolau a rygiau gwau, clustogau pwythog, carpedi a dodrefn yn cael eu harddangos yn yr Ystafelloedd Swyddogol, a bydd arddangosfa arbennig gyda saith cwilt newydd o lyfr diweddaraf Kaffe Fassett, ‘Quilts in Wales’, i’w gweld yn yr Ystafell Borth.

Kaffe Fassett yn dod â’i arddangosfa decstilau liwgar i Gastell Powis, Cymru
Kaffe Fassett yn dod â’i arddangosfa decstilau liwgar i Gastell Powis, Cymru | © Kaffe Fassett Studio

Mae gan Kaffe Fassett ddilynwyr di-rif ac mae ei gasgliadau wedi cael eu harddangos mewn nifer o wledydd gwahanol, yn cynnwys Japan, Canada, Unol Daleithiau America ac Awstralia. Ac yntau’n enwog am ei gynlluniau creadigol, ei batrymau lliwgar a’i ddefnyddiau moethus, mae gwaith Kaffe wedi llwyddo i sicrhau ‘sioe un dyn’ iddo yn Amgueddfa V&A, erthygl nodwedd yn Vogue a sedd ar soffa This Morning.

Medd Kaffe Fassett: “Mae Castell Powis yn flwch gemwaith mewn casin tywodfaen. I ddyn sydd wrth ei fodd â phethau dros ben llestri o addurnol, roedd y lle hwn yn berffaith ar gyfer ein casgliad diweddaraf o gwiltiau.”

Gall aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol weld ‘Lliw gyda Kaffe’ yn rhad ac am ddim. Bydd ffioedd mynediad arferol mewn grym; ni chodir tâl ychwanegol am y digwyddiad. Bydd y Castell ar agor yn ddyddiol rhwng 12pm a 4pm (mynediad olaf am 3.30) o 18 Chwefror. I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i wefan Castell Powis.

You might also be interested in

View from the Wilderness of Powis Castle and it's terraces, Wales
Lle
Lle

Castell a Gardd Powis 

Castell canoloesol yn codi'n ddramatig uwchben yr ardd enwog

Welshpool, Powys

Yn hollol agored heddiw
Llun manwl o wyneb bwrdd Pietra Dura (carreg galed) a wnaed tua 1600 sy’n cael ei arddangos yn yr Oriel Hir yng Nghastell Powis yng Nghymru, yn dangos addurniadau carreg o liwiau gwahanol o gwmpas aderyn
Erthygl
Erthygl

Y casgliad yng Nghastell Powis 

Dewch i ymweld i ddysgu rhagor am y casgliadau byd-eang ym Mhowis, gan gynnwys cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia.