Skip to content
Datganiad i'r wasg

Cyfle prin i ymwelwyr gael gweld fasau 2,000 mlwydd oed yng Nghastell Powis, yn ystod y broses o’u glanhau’n drylwyr unwaith bob degawd.

Llun agos o’r manylion paent coch ar fâs 2,000 mlwydd oed yng Nghastell Powis.
Mae cyfle prin i ymwelwyr gael gweld fasau 2,000 mlwydd oed yng Nghastell Powis, yn ystod y broses o’u glanhau’n drylwyr unwaith bob degawd | © National Trust Images/Paul Harris

Bydd chwe fâs Etrwsgaidd[1] yn cael eu glanhau’n drylwyr ar safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghastell a Gardd Powis yr wythnos hon. Gwahoddir ymwelwyr i weld y crochenweithiau gwerthfawr hyn yn bersonol, wrth iddynt gael eu symud o’u lle arferol yn uchel yn y llyfrgell er mwyn cael eu glanhau.

Yn gynharach yn yr wythnos, defnyddiodd y tîm ym Mhowis dyrau sgaffaldiau 5 metr o uchel i ddod â’r fasau i lawr yn ofalus.

Yn ddarnau hynod addurnol, mae’r fasau wedi’u peintio yn dyddio’n ôl i’r flwyddyn 350 CC, ac yn hŷn na’r Ymerodraeth Rufeinig. Mae'r fasau ymhlith yr eitemau hynaf yng nghasgliadau Castell Powis, a deilliant o wareiddiad Etrwsgaidd yr Eidal hynafol, er mai Groegaidd ydynt o ran traddodiad. Cânt eu brwsio’n flynyddol, ond prin iawn y cânt eu symud. Bydd tîm o gadwraethwyr yn gweithio i lanhau’r fasau, a gofalu amdanynt, yn Ystafell Borth y castell tan ddydd Mawrth 10 Hydref.

Dywedodd Alex Turrell, Uwch Swyddog Tŷ a Chasgliadau Castell a Gardd Powis:“Pleser yw gallu cynnig cyfle unwaith mewn degawd i’n hymwelwyr gael golwg fanylach ar y fasau Etrwsgaidd cain a gwylio’r gwaith cadwraeth drwy eu llygaid eu hunain ym Mhowis.

Mae'r gwaith o ddystio a glanhau yn ddiddiwedd wrth i ni ofalu am y casgliadau hyn, ond caiff gwrthrychau bregus, fel y fasau, eu glanhau yn llai aml. Mae’n rhyfeddol bod y fasau hyn wedi’u cadw’n llwyddiannus am ddau fileniwm, ac rydym yn hynod falch o allu rhannu’r achlysur cyffrous hwn gydag ymwelwyr.”

Aelod o’r tîm Tŷ a Chasgliadau yng Nghastell Powis yn glanhau fâs 2,000 mlwydd oed gyda brwsh arbenigol
Alex Turrell, Uwch Swyddog Tŷ a Chasgliadau Castell Powis yn glanhau un o’r fasau gwerthfawr. | © National Trust Images/Paul Harris

Rhwng y gwaith glanhau, bydd y fasau yn cael eu goleuo er mwyn i bobl allu gweld y gwaith peintio ffigyrau coch hyfryd sydd ar y fasau, sy’n arddull bwysig o beintio fasau Groegaidd. Yn darlunio pobl, diwylliant a mytholeg Roegaidd, gellir priodoli rhai o’r darnau cain hyn i'r crefftwr meistrolgar o Athen, Rodin966, ac eraill i waith y peintiwr ‘Eros and Hare’.

Hefyd yn cael eu glanhau mae tair fâs lai o ran maint, o ddyluniad tebyg, o’r Ystafell Dderw yng Nghastell Powis.

Mae'n cymryd oddeutu 5 awr i gadwraethwyr a'r Tîm Casgliadau a Thŷ ym Mhowis asesu a glanhau pob fâs. Defnyddir cyfuniad o gyfarpar i gael gwared ar bob gronyn o lwch, sydd wedyn yn cael ei sugno gan sugnwr y gellir newid ei gryfder, gan helpu i gadw’r fasau gwerthfawr mewn cyflwr da i bawb, am byth.

Yn cynorthwyo’r gwaith cadwraeth yng Nghastell Powis mae Lynne Edge, cadwraethwr cerameg arbenigol. Dywedodd:"Rydym yn defnyddio brwshys â blew wedi'u gwneud o wallt meddal merlod a sabl a 'sbyngau mwg' rwber naturiol, er mwyn sicrhau ein bod yn glanhau'n effeithiol ac yn gofalu am yr addurn bregus.

Braint ac anrhydedd yw trin gwrthrychau hynafol mor brydferth. Yn aml, gallwch weld olion bysedd y gwneuthurwr gwreiddiol, sy’n arwydd o hanes y gwrthrych wrth i mi weithio i sicrhau ei ddyfodol.”

Mae'n debyg y caffaelwyd y chwe darn cerameg yn yr Eidal wrth i Clive o India, ei fab Edward, ail Arglwydd Clive neu George, ail Iarll Powis fynd ar Daith Fawr o Ewrop [2] yn y 1770au neu 1780au.

Mae siâp gwahanol i bob fâs a byddai pob un wedi’i dylunio at ddefnydd pwrpasol gan y bobl Etrwsgaidd. Er enghraifft, byddai'r fâs Krater (y mae dwy ohonynt ym Mhowis) wedi’i defnyddio i gymysgu dŵr â gwin a byddai eraill ar gyfer cadw olew, gwin ac er mwyn yfed ohonynt.

Mae Castell Powis yn gartref i un o gasgliadau gorau’r byd o waith celf a gwrthrychau hanesyddol, gyda thros 13,500 o eitemau yn ei gasgliad. Ymhlith eitemau eraill y gall ymwelwyr eu gweld wrth ymweld â ni yw'r Twelve Ceasars: Y penddelwau Eidalaidd hyn, sy’n dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif, yw’r set hynaf y gwyddys amdanynt ym Mhrydain Fawr a gellir eu gweld yn yr Oriel Hir. Ac ynghyd â'r fasau yn y llyfrgell mae portread bach o Syr Edward Herbert gan yr artist llys Isaac Oliver (oddeutu 1565-1617), a oedd yn arbenigo mewn rhyfeddodau bychain.

I drefnu ymweliad i weld y fasau yn yr Ystafell Borth cyn dydd Mawrth 10 Hydref, ewch i nationaltrust.org.uk/powis-castle-and-garden. O 11 Hydref, byddant yn cael eu cadw yn y llyfrgell yng Nghastell Powis a gellir eu gweld bob dydd rhwng hanner dydd a 4pm (gyda'r mynediad olaf hanner awr cyn cau) pan mae’r castell ar agor.

[1] Etrwsgaidd: Roedd pobl Etrwsgaidd Etrwria yn wareiddiad hynafol a oedd yn bodoli yng nghanolbarth yr Eidal cyn yr Ymerodraeth Rufeinig, rhwng yr 8fed a’r 3edd ganrif cyn y Cyfnod Cyffredin.

[2] Roedd y Daith Fawr yn arfer addysgiadol ymhlith dynion ifanc aristocrataidd yn ystod y 18fed ganrif.