Skip to content
Datganiad i'r wasg

Mae gweithiau gan Rex Whistler a Kyffin Williams ymhlith eitemau heb eu gweld a sicrhawyd ar gyfer y dyfodol ym Mhlas Newydd

National Trust staff member holding Rex Whistler's portrait of Caroline Paget portrait at Plas Newydd
Rex Whistler; Portread Caroline Paget yn Blas Newydd | © ©National Trust Iolo Penri

Wedi trafodaethau preifat gyda theulu Anglesey, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi prynu chwe eitem a fydd yn galluogi Tŷ a Gardd Plas Newydd i rannu mwy o wybodaeth am ei hanes a’i gysylltiadau lleol. Mae’r eitemau hyd wedi’u cadw yng nghasgliad personol teulu Anglesey hyd yn hyn a byddant ar gael i’r cyhoedd eu gweld am y tro cyntaf. Mae pedair eitem arall, a fu dan y morthwyl yn Arwerthiant Sotheby’s ar 11 Ebrill, ac sydd o gryn arwyddocâd i Blas Newydd, wedi’u sicrhau hefyd.

Dros y canrifoedd, mae Plas Newydd wedi croesawu ac wedi ysbrydoli nifer o artistiaid, a’r mwyaf nodedig yn eu plith ydy Rex Whistler y mae ei furlun anhygoel i’w weld yn yr ystafell fwyta. Yn ogystal â bod yn arlunydd ar gomisiwn yn ystod ei amser ym Mhlas Newydd, roedd hefyd yn westai a gâi groeso mawr gan deulu’r 6ed Ardalydd.

Dywedodd Dominic Chennell, Curadur yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:

“Doedd cariad Whistler tuag at Y Fonesig Caroline Paget, merch 6ed Ardalydd Môn ddim yn gyfrinach gan fod llythyrau caru i’r Fonesig Caroline yn cael eu cadw ym Mhlas Newydd ynghyd â chliwiau awgrymog ym murlun 17.5 metr o hyd Whistler, er nad oedd hithau’n teimlo’r un cariad tuag at yntau.”

Roedd hi’n dipyn o ysbrydoliaeth i greadigrwydd Whistler ac fe beintiodd nifer o bortreadau ohoni ym Mhlas Newydd. Mae portreadau darluniadol o’r fath gan Whistler yn llai cyffredin, gyda llawer o’i ddarluniadau wedi’u comisiynu ar gyfer hysbysebion, a’i bortreadau wedi’u peintio. Fodd bynnag, mae darlun portread effemera hyfryd, anffurfiol o’r Fonesig Caroline wedi bod yn rhan o gasgliad preifat teulu Anglesey a heb ei weld gan y cyhoedd tan hyn.”

Diolch i’r pryniant diweddar, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru’n bwriadu arddangos y portread a bydd hynny’n ehangu dealltwriaeth o’r berthynas hon rhwng Whistler a theulu Paget.

Mae Plas Newydd hefyd yn bwriadu rhoi sylw i gysylltiadau â’r arlunydd Cymreig adnabyddus Syr John Kyffin Williams yn sgil prynu tri darlun dyfrlliw gwreiddiol a darlun olew. Mae Kyffin yn cael ei ystyried yn un o artistiaid diffiniol Cymru yn ystod yr 20fed ganrif ac roedd ganddo gysylltiad personol â Phlas Newydd fel un a aned yn Llangefni ac a fu’n byw yn ddiweddarach ar ystâd Plas Newydd.

Roedd yn gyfaill agos i deulu Anglesey – roedd y seithfed Ardalydd ac Ardalyddes yn gefnogwyr brwd i’w waith gan eu bod wedi ei annog i beintio a’i gefnogi fel arlunydd drwy brynu a chasglu llawer o’i weithiau cyn iddo ddod yn enwog. Gwyddom hefyd fod Kyffin wedi annog Alexander Paget, yr Arglwydd Môn presennol, i ddod yn artist ei hun.

Ychwanegodd Dominic:

“Rydym wedi bod yn awyddus i ymchwilio i’r hanes diddorol a phersonol hwn sydd i Kyffin Williams a’i gysylltiadau â Phlas Newydd ac rydym yn hynod falch mai’r rhain fydd ein paentiadau cyntaf gan Kyffin Williams a fydd yn cael eu harddangos i’r cyhoedd yn y casgliad i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.”

Eitem arall a gafwyd ydy paentiad cynfas gan Nicholas Thomas Dall o Beaudesert House, sef ystâd deuluol teulu Anglesey yn Swydd Stafford ble buon nhw’n byw nes iddo fynd yn amhosib i’w gynnal a chael ei ddymchwel yn 1935.

Ychwanegodd Dominic ymhellach:

“Nid oes gennym ddarlun arwyddocaol o Beaudesert House, felly’r paentiad hyfryd hwn o’r 18fed ganrif fydd y tro cyntaf i ni gael darlun difyr o’r tŷ-nad-yw-mwyach.

“Un o’r straeon allweddol ym Mhlas Newydd ydy dirywiad cyfoeth, ynghyd â chwalu’r ystadau a oedd wedi arwain at gael Plas Newydd yn brif breswylfa i deulu Anglesey yn y 1930au. Nid yw ein casgliadau presennol yn arddangos ysblander y tŷ hwn, felly mae’n anodd cyfleu pa mor arwyddocaol oedd y dewis o leoliad yn y pen draw. Gallwn ni ddarlunio’r stori hon bellach ac ychwanegu rhagor o gyd-destun at hanes colledion a’r penderfyniadau a wnaed i ddatblygu Plas Newydd yn brif breswylfa.”

Dywedodd Alex Paget, 8fed Ardalydd Môn:

“Mae’r eitemau hyn yn ffurfio darlun byw o’r cysylltiadau rhwng fy nheulu a Phlas Newydd ar adegau amrywiol yn y gorffennol. Mae’n destun tristwch bod Beaudesert wedi’i ddinistrio cyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddod yn weithredol yn gwarchod treftadaeth, ond mae’r darlun yn ei ddangos yn ystod ei oes aur.

“Mae darlun Rex Whistler o fy Modryb Caroline ar bapur pennawd Plas Newydd yn gofnod hyfryd o fywyd ym Mhlas Newydd yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel.

“Ac mae’r paentiadau gan Kyffin Williams yn parhau â thema’r cysylltiad rhwng teulu Paget ac artistiaid i mewn i ail hanner yr 20fed ganrif. Roedd Kyffin yn byw ar yr ystâd ac roedd yn gyfaill agos i fy rhieni, a hwythau’n edmygu ei waith yn fawr iawn ac yn ei gasglu. Rwy’n falch ofnadwy bod y darluniau hyn wedi’u hychwanegu’n barhaol at gasgliad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhlas Newydd.”

Roedd modd sicrhau’r pryniant hwn drwy Gronfa Monument 85. Mae hon yn gronfa a gefnogir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac a sefydlwyd gan y diweddar Simon Sainsbury.