Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, WWF Cymru ac RSPB Cymru yn gwneud galwad frys dros natur wrth i Syr David Attenborough ddweud bod rhaid gweithredu nawr i Achub ein Hynysoedd Gwyllt
- Cyhoeddwyd:
- 13 Mawrth 2023
Heddiw (13 Mawrth), yn eu hymgyrch fawr gyntaf gyda’i gilydd, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, RSPB Cymru ac WWF Cymru yn annog pawb yn y gymdeithas i ddod ynghyd i atal byd natur y DU rhag cael ei ddinistrio ac i weithredu ar unwaith i Achub ein Hynysoedd Gwyllt.
Roedd miliynau o bobl o bob cefndir wedi darganfod pa mor ryfeddol, ond hefyd pa mor fregus, oedd natur y DU drwy bennod gyntaf y gyfres newydd o Wild Isles, gyda Syr David Attenborough yn ei hadrodd ac a ddarlledwyd neithiwr.
Erbyn hyn, mae tair o elusennau cadwraeth mwyaf y DU, sydd â 324 mlynedd o brofiad rhyngddynt ac 8.5 miliwn o aelodau gyda’i gilydd, yn defnyddio eu llais ar y cyd i alw ar bob sector o gymdeithas ledled y DU i weithredu.
Bydd yr ymgyrch Achubwch ein Hynysoedd Gwyllt yn ennyn diddordeb y cyhoedd yn y DU ac yn eu hysbrydoli i weithredu – gan dynnu sylw at y modd y mae natur yn sail i bopeth sy’n gwneud ein bywydau’n bosibl a hefyd at ba mor ddifrifol yw’r perygl iddo.
Yn ôl yr elusennau, dim ond digon o fyd natur y DU sydd ar ôl, ac os bydd pawb - y cyhoedd, cymunedau, busnesau a’n harweinwyr i gyd yn gweithio gyda’i gilydd ar frys i helpu ei adferiad, gall byd natur ddechrau ffynnu eto yn ystod y degawdau nesaf.
Yn y cefndir mae pryder na welwyd erioed mo’i debyg ynghylch colli byd natur a newid yn yr hinsawdd. Mae’r elusennau’n galw ar y cyhoedd i ddangos eu cariad at fyd natur drwy ymrwymo i “Fynd yn Wyllt Unwaith yr Wythnos”. Gallai hynny olygu gwneud lle i fyd natur yn ein cymdogaethau drwy blannu hadau blodau gwyllt mewn bocs ffenestr neu fan gwyrdd, bwyta llai o gig neu gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol lleol, neu ymaelodi â’r elusennau i annog ein harweinwyr i weithredu nawr dros adferiad byd natur.
Rhaid i arweinwyr a busnesau weithredu nawr i sefydlu ymateb brys i’r argyfwng natur er mwyn adeiladu ar yr addewidion a wnaed ganddynt i atal byd natur rhag cael ei ddinistrio ac i gyflymu’r broses o’i adfer.
Dangosodd arolwg YouGov newydd a gomisiynwyd ar gyfer ymgyrch Achubwch ein Hynysoedd Gwyllt fod 73% o bobl yng Nghymru yn poeni am gyflwr byd natur yn y DU. Mae’r DU yn y 10% isaf o wledydd yn fyd-eang am warchod byd natur, ond dim ond 4% sy’n credu bod y DU yn un o’r gwledydd gwaethaf yn y byd o ran gwarchod byd natur, gyda 57% yn credu’n anghywir fod y DU yn debyg i weddill y byd neu’n gwneud yn well hyd yn oed.
Mae’r DU yn gartref i rai o’r rhywogaethau mwyaf trawiadol ar y Ddaear – o balod i orcas, gwenyn, chwilod, glöynnod byw a choed derw hynafol – ond rydyn ni’n gwthio natur tua'r dibyn. Fis Rhagfyr diwethaf, gwnaed ymrwymiadau byd-eang i dynnu sylw at y ffaith mai dim ond saith mlynedd sydd gennym ar ôl i atal a gwrthdroi colli ein byd natur.
I helpu i gefnogi’r galwadau hyn, un o’r camau cyntaf y bydd yr elusennau’n ei gymryd yw ymgysylltu â channoedd o fusnesau a miloedd o weithwyr ynghylch yr effaith hollbwysig y mae byd busnes yn ei chael ar ffawd byd natur yn y DU, a darparu adnoddau ac arweiniad ar sut i gymryd camau cadarnhaol.
Bydd yr elusennau hefyd yn darparu arweiniad, cyngor ac ysbrydoliaeth ar gyfer sut gall pobl a chymunedau chwarae rhan weithredol yn y gwaith o adfer byd natur yn eu hardaloedd nhw. Hefyd, mae partneriaid yr elusennau a llysgenhadon enwog yn annog pawb i chwarae eu rhan, gyda rhagor o gyhoeddiadau yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod.
Mewn datganiad ar y cyd gan RSPB Cymru, WWF Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, dywedwyd: “Mae’r bywyd gwyllt a’r mannau gwyllt anhygoel sy’n gwneud Cymru mor arbennig yn cael eu dinistrio’n frawychus o gyflym. Mae niferoedd enfawr o anifeiliaid, adar a chynefinoedd wedi cael eu dileu’n llwyr yn ein hoes ni, a rhaid i ni nawr dderbyn bod argyfwng yn wynebu ein heconomi, yr hinsawdd a sefydlogrwydd cenedlaethau’r dyfodol sy’n byw yn ein hynysoedd gwyllt i gyd, os na weithredir ar frys ac ar y cyd.
“Mae natur yn sail i bopeth sy’n gwneud ein bywydau’n bosibl – fel yr aer rydyn ni’n ei anadlu, y dŵr glân rydyn ni’n ei yfed a’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta. Dyma ein system cynnal bywyd, ac mae’n amlwg bod adferiad natur, a’r awydd i wrthdroi’r niwed rydym wedi’i achosi dros y ddwy ganrif ddiwethaf, yn faterion sy’n uno pob un ohonom. Gyda’n gilydd, gallwn achub ein hynysoedd gwyllt.
“Mae’r her yn enfawr, ac mae angen gweithredu’n gyflym, ond mae gobaith. Mae’r wyddoniaeth yn glir ynghylch beth sydd angen i ni ei wneud, ac mae pobl anhygoel eisoes yn trawsnewid ffermydd, busnesau, arfordiroedd, mannau trefol, rhwydweithiau trafnidiaeth, cyflenwadau ynni a chymunedau er mwyn byd natur. Ond mae angen llawer mwy o hynny.”
Yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, mae 38 miliwn o adar wedi diflannu o'r awyr yn y DU [4], mae 97% o’n dolydd blodau gwyllt wedi cael eu colli ers y 1930au, ac mae chwarter ein mamaliaid i gyd, gan gynnwys llygod y dŵr a’r ystlumod clustlydan mwyaf, mewn perygl o ddiflannu’n llwyr. Mae’r argyfwng natur a’r newid yn yr hinsawdd yn ddwy ochr i’r un geiniog, felly mae gwarchod natur yn allweddol er mwyn atal ein planed a’n ffordd o fyw rhag cael eu dinistrio.
Mae’r rhan fwyaf o’r cyhoedd yng Nghymru yn gweld natur fel achubiaeth hanfodol ac yn rhan hollbwysig o fywyd bob dydd. Roedd dros ddwy ran o dair (67%) o’r ymatebwyr yn poeni am yr effaith y byddai colli natur yn ei chael ar eu bywydau – dywedodd 61% y byddai’n effeithio’n negyddol ar eu hiechyd, a dywedodd yr un nifer y byddai’n cael effaith negyddol ar iechyd eu teulu.
Mae gweithio gyda byd natur ac nid yn ei erbyn yn rhoi aer glanach i ni ei anadlu, dŵr gwell i’w yfed a bwyd iachach i’w fwyta. Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn dangos hefyd fod yr amser sy’n cael ei dreulio ym myd natur yn ein gwneud ni’n hapusach ac yn iachach.
Dywedodd Syr David Attenborough, Llysgennad WWF, hefyd: “Y gwir ydy, mae pob un ohonom ni, pwy bynnag ydyn ni, neu ble rydyn ni’n byw, yn gallu ac yn gorfod chwarae rhan yn y gwaith o adfer byd natur. Mae’n hawdd teimlo bod y problemau sy’n wynebu ein planed yn eich llethu neu eich bod yn ddi-rym, ond mae’r atebion gennym ni. Rwy’n obeithiol am y dyfodol, oherwydd er bod natur mewn argyfwng, dyma’r amser i weithredu, a gyda’n gilydd gallwn ei achub.”
Mae’r galw am newid yn glir, gyda’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn dweud bod Llywodraeth Cymru (52%) a Llywodraeth y DU (65%) yn gwneud rhy ychydig i fynd i’r afael â cholli byd natur.
Datgelodd yr arolwg hefyd gefnogaeth aruthrol (79%) i weld pob plaid wleidyddol yn dod at ei gilydd i lunio cynllun gweithredu ar gyfer gwarchod natur, ac roedd 78% o bobl yn cefnogi cosbau llymach i fusnesau sy’n cyfrannu at y dirywiad mewn natur.
Aeth y tair elusen yn eu blaen: “Gall pawb ym mhobman wneud gwahaniaeth i fyd natur yn y wlad hon. Dylai gwarchod ac adfer natur fod yn ganolog ymhob penderfyniad, a byddwn yn gweld newid cyflym os wnawn ni i gyd sefyll gyda’n gilydd a gweithredu gyda’n gilydd.
“Mae iechyd a lles ein planed a chenedlaethau’r dyfodol yn dibynnu ar hyn.”
I gael rhagor o wybodaeth ac i Achub ein Hynysoedd Gwyllt, ewch i www.saveourwildisles.org.uk
You might also be interested in
Cymru
Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.
Nature conservation
Discover how we work to support a rich variety of land, nature and wildlife across England, Wales and Northern Ireland.