Tredegar House to bee-come a sanctuary for fast declining bumblebee species
- Cyhoeddwyd:
- 04 Mehefin 2025

Yn Nhŷ Tredegar yng Nghasnewydd, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn ffurfio partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn i greu noddfa hanfodol ar gyfer rhywogaethau cacwn sy’n dirywio’n gyflym, gan gynnwys un o rywogaethau prinnaf y DU, y Gardwenynen Feinlais (Bombus sylvarum).
Yn gacynen fach gyda sŵn uchel amlwg, mae'r rhywogaeth dan fygythiad yn glynu wrth bum ardal boblogaeth ynysig yn unig yng Nghymru a Lloegr [1], ac un ohonynt yw Gwastadeddau Gwent lle mae Tŷ Tredegar wedi'i leoli.
Trwy'r rhaglen Natur am Byth, menter adfer rhywogaethau fwyaf erioed Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, mae cyfres o brosiectau gwella cynefinoedd wedi'u cynllunio yn y 90 erw o erddi a pharcdir yn Nhredegar i greu dolydd llawn blodau sy'n hanfodol i oroesiad y Gardwenynen Feinlais.
Fel llawer o beillwyr, mae cacwn wedi dioddef yn ystod y degawdau diwethaf oherwydd colli a darnio cynefinoedd, gostyngiad mewn blodau gwyllt a digwyddiadau tywydd eithafol, gyda'r llynedd y gwaethaf erioed ar gyfer niferoedd cacwn, ers dechrau cofnodi [2].
Dywedodd Chris Flynn, Prif Arddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Nhŷ Tredegar: "Rydym yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â'r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn ar y prosiect cadwraeth pwysig hwn. Mae cacwn angen ein help ar frys ac rydym eisiau sicrhau bod rhywogaethau megis y Gardwenynen Feinlais yn parhau i ffynnu yma yn Nhŷ Tredegar.
"Ein nod yw gwella amrywiaeth planhigion yn yr ardd, gan ymestyn cyfnodau blodeuo yn feddylgar drwy gydol y flwyddyn i ddarparu ffynonellau neithdar hanfodol o ddechrau'r gwanwyn hyd at ddiwedd yr hydref. Rydym yn cyflwyno planhigion glaswelltir sy'n llawn neithdar yn ofalus megis briallu Mair, crocws, brithell pen neidr, meillionen goch, eiddew, a meillionen hopysaidd. Gobeithiwn y bydd y newidiadau cynnil, ond arwyddocaol hyn yn parhau i gynorthwyo a denu cacwn a pheillwyr eraill, wrth hefyd gyfoethogi harddwch a bioamrywiaeth ein gerddi i bawb eu mwynhau."
Mae rhywogaethau eraill o gacwn a fydd yn elwa o'r gwelliannau yn cynnwys y Gardwenynen Lwydfrown (Bombus humilis) brin a Gwenynen yr Ardd (Bombus hortorum) fawr, fwy cyffredin, sydd ill dwy hefyd yn ymwelwyr rheolaidd â'r gerddi a'r parcdir o amgylch y plasty.
Er mwyn mesur effaith ymdrechion cadwraeth a monitro'r cacwn ar y safle, mae staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cofrestru i ddod yn Gerddwyr Gwenyn: Cynllun gwyddoniaeth dinasyddion cenedlaethol Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, lle dilynir llwybr penodol bob mis i gofnodi gweld cacwn. Mae'r canlyniadau'n cael eu bwydo i set ddata'r DU gyfan sy'n cofnodi nifer pob rhywogaeth o gacwn a welir rhwng mis Mawrth a mis Hydref.
Ychwanegodd Tom Butcher Flynn, Swyddog Prosiect y Gardwenynen Feinlais, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, Natur am Byth!: "Pleser yw cyhoeddi bod Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn yn dod at ei gilydd yn Nhŷ Tredegar i gyflawni cyfres o waith ymgysylltu a gwella yn y gerddi i ddarparu buddion i gymunedau lleol ac un o gacwn prinnaf Cymru.
Mae'r Gardwenynen Feinlais yn un o'r cacwn sy'n dirywio gyflymaf yng Nghymru a Lloegr ac mae'n hanfodol ein bod yn adfer rhywfaint o'r glaswelltir llawn blodau rydym wedi'i golli yng Nghymru lle mae'n ffynnu. Mae'r prosiect cadwraeth yn cael ei gyflawni fel rhan o raglen Natur am Byth, rhaglen adfer rhywogaethau fwyaf Cymru a wnaed yn bosibl drwy gyllid Llywodraeth Cymru a chronfa dreftadaeth y Loteri."