Skip to content
Datganiad i'r wasg

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru'n chwilio am denant ar gyfer fferm arbennig yn Eryri

Ffermdy Llyndy Isaf yn edrych dros Lyn Dinas, Eryri
Ffermdy Llyndy Isaf yn edrych dros Lyn Dinas, Eryri | © ©National Trust Images Mike Alexander

Mae cyfle unigryw i gymryd tenantiaeth busnes fferm 15 mlynedd wedi codi yn yr hyfryd Llyndy Isaf, yn Nant Gwynant, gyda'r broses o ddewis y tenant yn cael ei ffilmio ar gyfer sioe deledu i ddarlledwr cenedlaethol.

Wedi'i lleoli yng nghanol Eryri, mae Llyndy Isaf, fferm fynyddig 248 hectar (613 acer), wedi bod dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ers i'r elusen brynu'r fferm yn 2012 wedi apêl gyhoeddus lwyddiannus.

Tan 2020, roedd yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru gyda phum ysgolhaig yn rheoli'r fferm. Ers hynny, mae wedi ei rheoli ar y cyd â fferm gyfagos yr Ymddiriedolaeth, Hafod y Llan, a nawr, mae’r ymddiriedolaeth elusennol yn barod i osod y fferm, sy'n cynnwys tŷ fferm ac ystod o adeiladau traddodiadol a chyfoes, i denant newydd sydd â ffermio, byd natur, a'r hawl i gefn gwlad wrth wraidd ei gynllun busnes.

Dywedodd Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Eryri, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru;

"Mae'n anrhydedd cael fferm yng Nghymru sydd wedi ei dewis ar gyfer y rhaglen hon. Mae Llyndy yn dirwedd anhygoel, o lannau Llyn Dinas i grib Mynydd Llyndy, sydd wedi’i orchuddio â grug, ac mae'n fan arbennig i fyd natur, pobl a hanes.

"Mae ffermio wedi chwarae rhan amlwg yma ers cenedlaethau, a thros y 12 mlynedd ddiwethaf, mae ysgolheigion a ffermwyr wedi ei rheoli fel fferm waith fynyddig gynaliadwy. Mae yno ystod o gynefinoedd cyfoethog yn cynnwys rhostir, porfa wlyb, glaswelltir a choetir, gyda'i rhostir yn un o'n henghreifftiau gorau o rostir llawn rhywogaethau yng Nghymru a'r coetiroedd yn ffurfio rhan o goedwigoedd derw Meirionnydd ac Ardal Gadwraeth Arbennig i ystlumod.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn chwilio am denant gydag angerdd at ffermio cynaliadwy i barhau â'r gwaddol.

Ychwanegodd Trystan: "Ein tenant delfrydol fyddai rhywun sy’n gwybod sut i redeg busnes llwyddiannus, dichonadwy a phroffidiol ond wrth wneud hynny’n gallu cyflawni ar gyfer yr amgylchedd drwy gyfuno egwyddorion rheoli tir a chadwraeth sensitif gydag amaethyddiaeth.

"Bydd y tenant llwyddiannus yn gweithredu dull ffermio cyfeillgar i natur wrth bori'r tir, cynhyrchu bwyd o ansawdd da yn ogystal â chynefinoedd bywyd gwyllt da. Byddant yn cynyddu bioamrywiaeth ar draws y fferm drwy ymestyn porfeydd coediog drwy brosesau naturiol, cynnal cynefinoedd allweddol presennol, gwella brithwaith y rhostiroedd, a rheoli rhywogaethau ymledol.

"Mae hwn yn gyfle cyffrous, yn enwedig gan mai hon yw'r denantiaeth busnes fferm gyntaf rydym wedi ei chynnig ers cael y fferm, felly rydym yn edrych am rywun sy'n wirioneddol fodlon gweithio mewn partneriaeth â ni a chefnogi ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol Llyndy Isaf."

Bydd y rhaglen yn dilyn darpar denantiaid wrth iddynt arddangos eu hymagweddau at amaethyddiaeth, dysgu sgiliau newydd a chwblhau cyfres o dasgau a phrofiadau ymarferol yn Llyndy Isaf. Ar ddiwedd y broses, bydd un person neu bartneriaeth yn cael ei ddewis fel y tenant llwyddiannus.

Ychwanegodd Trystan "Mae ffermio yng Nghymru'n mynd drwy gyfnod o newid sylweddol, ac rydym eisiau rhoi ffenestr i ffermio i'r cyhoedd yn ogystal ag ymgysylltu â rheolwyr tir y dyfodol ynghylch sut mae bwyd, y tir lle mae'n cael ei dyfu a'r ffyrdd y gellir ei gynhyrchu gyda byd natur mewn golwg yn cynorthwyo ein heconomi wledig ehangach ar yr un pryd â chynyddu ein gwytnwch i effeithiau newid hinsawdd.

"Mae hefyd yn cynnig cyfle gwych i arddangos diwylliant unigryw Cymru a pha mor annatod yw ffermio i gymunedau gwledig yng Nghymru.

Bydd angen i darpar denantiaid fynd drwy broses ymgeisio, ymweld â'r fferm, cyflwyno cynllun busnes a dangos eu bod yn barod ac yn meddu’r sgiliau i allu ymgymryd â’r denantiaeth hon yn yr un modd ag unrhyw gyfle Tenantiaeth Busnes Fferm arall gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn ogystal, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd sy’n cyrraedd y rhestr fer gymryd rhan mewn proses ddethol dair wythnos a fydd yn cael ei ffilmio'r hydref hwn ar gyfer rhaglen deledu.

Dywedodd George Dunn, Prif Weithredwr Cymdeithas Ffermwyr Tenantiaid (TFA);

“Mae Llyndy Isaf yn gyfle gwych i ffermwr blaengar neu newydd. Gyda’r holl dir wedi’i neilltuo a chyda chyfleoedd ar gyfer incwm amrywiol, byddai hyn yn ddelfrydol ar gyfer ffermwr tenant entrepreneuraidd sydd am gyfuno cyflawni busnes llwyddiannus â chadwraeth natur yn ganolog iddo. Fodd bynnag, o ystyried maint yr uned a'r cyfalaf fydd ei angen, bydd yn rhaid i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol edrych ar lacio'r darpariaethau cymal terfynu i sicrhau bod gan y tenant sy'n dod i mewn ddigon o sicrwydd yn y tymor hir i ariannu buddsoddiad angenrheidiol yn y daliad. Roeddwn hefyd yn falch iawn o weld yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn symud tuag at yr awgrym a wnaed gan y TFA y dylai osod lefel y rhent ar gyfer y gosodiadau hyn yn ei fanylion yn hytrach na’i adael fel cwestiwn agored. Mae rhoi arweiniad ynghylch isafswm lefel y rhent yn gam enfawr i'r cyfeiriad cywir.”

I gael yr holl wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: www.farmapplication.co.uk

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sul 21, Ebrill 2024.