Gwnewch wahaniaeth, gwnewch rodd
Mae eich cefnogaeth yn hanfodol i'n helpu i ofalu am natur, harddwch a hanes. Gwnewch rodd heddiw, a gyda'n gilydd gallwn ddiogelu llefydd gwerthfawr i bawb, am byth. (Saesneg yn unig)
Gallwch nawr decstio i wneud rhodd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chefnogi ein gwaith cadwraeth pwysig. Darllenwch y telerau ac amodau isod.
1. Gallwch wneud rhodd o £5 neu £10 i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn dibynnu ar eich gair allweddol, drwy decstio’r gair allweddol perthnasol i 70525.
2. Bydd pob ceiniog o’ch rhodd yn mynd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (elusen gofrestredig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon 205846) i gefnogi natur, harddwch a hanes i bawb, am byth. Am bob neges destun a anfonir, codir £5 neu £10 arnoch (yn dibynnu ar eich gair allweddol), ynghyd â chost neges safonol eich rhwydwaith (yn seiliedig ar gyfraddau eich darparwr gwasanaeth). Rhestrir rhoddion o £5 ar eich bil ffôn fel Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu 70525. Rhestrir rhoddion o £10 ar eich bil ffôn fel Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu 70526.
3. Dylech dderbyn cadarnhad ar ffurf neges destun ar unwaith (os oes gennych signal). Os na chewch un, efallai nad oes gennych ddigon o gredyd ar eich ffôn i wneud rhodd, neu efallai eich bod wedi cyrraedd y terfyn gwariant ar eich contract. Os byddwch yn ychwanegu credyd neu os bydd y terfyn gwariant yn cael ei godi o fewn 3 diwrnod, bydd swm eich rhodd yn cael ei dynnu’n awtomatig. Byddwch yn derbyn cadarnhad ar ffurf neges destun os yw eich rhodd yn llwyddiannus. Os nad oes gennych ddigon o gredyd neu os yw’r terfyn gwariant yn dal mewn lle ar ôl 3 diwrnod, ni chaiff y rhodd ei phrosesu.
4. Ni fydd TAW yn cael ei chodi ar eich rhodd.
5. Rhaid i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn i decstio rhodd.
6. Dim ond gan ddefnyddio’r gwasanaeth SMS ar ffôn symudol sydd wedi’i gofrestru yn y DU y gallwch wneud rhodd. Ni allwch wneud rhodd gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ar ffôn sydd wedi’i gofrestru yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu’r tu allan i’r DU.
7. Os gwnewch rodd gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn o ffôn symudol sydd wedi’i gofrestru yn y DU pan fyddwch y tu allan i Gymru, yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, gellid codi taliadau rhwydwaith ychwanegol arnoch, a gedwir gan weithredwr eich rhwydwaith.
8. Rhaid i chi gael caniatâd y sawl sy’n talu’r bil cyn anfon neges destun.
9. Mae yna derfyn dyddiol (rhwng hanner nos a hanner nos) o £40 ar roddion neges destun i bob cod byr o’r un rhif ffôn symudol, a therfyn uchaf o £240 y mis ar draws pob gwasanaeth y telir amdano drwy ffôn. Ni fydd rhagor o roddion yn cael eu derbyn os byddwch chi’n mynd dros y terfyn dyddiol neu fisol hwn (felly ni fyddwch yn rhoi’r symiau ychwanegol hyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol), ond gellid codi tâl neges safonol eich rhwydwaith arnoch o hyd. Os hoffech roi mwy i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gallwch wneud rhodd ar-lein gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. (Saesneg yn unig)
10. Os nodwch y gair allweddol yn anghywir, mae’n bosibl na fydd eich rhodd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn llwyddiannus. O dan yr amgylchiadau hyn byddwch yn derbyn naill ai (a) neges gwall, ac felly ni fyddwch yn gwneud rhodd, ond gellid codi tâl neges safonol eich rhwydwaith arnoch o hyd, neu (b) neges o gadarnhad fod eich rhodd wedi bod yn llwyddiannus, ac felly codir y swm rhodd perthnasol arnoch ynghyd â thâl neges safonol eich rhwydwaith, fel y nodir uchod.
11. Os anfonwch eich neges destun at god byr anghywir, neu os byddwch fel arall yn methu â dilyn y cyfarwyddiadau yn y telerau ac amodau hyn yn gywir, ni fyddwch yn gwneud rhodd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ond gellid codi tâl neges safonol eich rhwydwaith arnoch o hyd.
12. Ni all yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Fonix na’u hisgontractwyr, is-gwmnïau a/neu asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw fethiant technegol, camweithrediad, tagfa, problem capasiti neu unrhyw broblem arall gydag unrhyw ffôn, rhwydwaith neu lein ffôn, system, gweinydd, darparwr neu rywbeth arall a allai arwain at unrhyw neges destun yn cael ei cholli, ei hoedi neu’n methu â chael ei derbyn a’i chofnodi’n gywir.
13. Efallai na fydd y gwasanaeth SMS hwn yn cael ei gefnogi gan bob Gweithredwr Rhwydwaith Rhithwir Symudol (MVNO). Os nad yw MVNO penodol yn cefnogi’r gwasanaeth yna, ar ôl ymgais i wneud rhodd drwy neges destun, ni chaiff y rhodd ei gwneud, ac ni fyddwch yn derbyn neges gwall.
14. Mae’r gwasanaeth SMS hwn yn cael ei ddarparu i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan Fonix Mobile PLC, Heddon Street, Llundain, W1B 4BQ.
15. Dim ond ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol at y diben o wneud eich rhodd y caiff eich rhif ffôn symudol ei brosesu gan Fonix. Ni chaiff ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall. Darllenwch ein polisi preifatrwydd llawn yma. (Saesneg yn unig)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich rhodd nad yw’r telerau ac amodau yn eu hateb, neu os ydych am wneud cwyn, rhowch wybod i ni drwy e-bostio giving@nationaltrust.org.uk neu drwy gysylltu â ni ar 01793 818569.
Mae eich cefnogaeth yn hanfodol i'n helpu i ofalu am natur, harddwch a hanes. Gwnewch rodd heddiw, a gyda'n gilydd gallwn ddiogelu llefydd gwerthfawr i bawb, am byth. (Saesneg yn unig)
Bob tro y byddwch yn rhoi rhodd Rhyfeddodau Bach i berson arbennig yn eich bywyd, byddwch yn helpu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ddiogelu bywyd gwyllt a’r amgylchedd yn y llefydd sy’n annwyl i chi. (Saesneg yn unig)
Dewch o hyd i lyfr newydd (neu newydd i chi, o leiaf!) i’w gadw neu rannu mewn siop lyfrau ail-law a’n helpu i godi arian ar gyfer prosiectau cadwraeth hanfodol yn y llefydd sydd yn ein gofal. (Saesneg yn unig)
Eisiau rhoi her i’ch hun a chodi arian i gnefnogi’r llefydd rydych chi’n eu caru? Dysgwch fwy am sut y gallwch godi arian i ni a helpu i ddiogelu tiroedd, natur, adeiladau a mwy. (Saesneg yn unig)