Skip to content

Ymweld ag Aberdulais gyda'ch ci

Cymerwch gam yn ôl mewn amser ac archwilio rhyfeddodau Aberdulais gyda'ch ffrind pedair coes. Mae croeso i gŵn trwy gydol y flwyddyn ac mae digon o leoedd i'w harchwilio. Helpwch i gadw Aberdulais yn bleserus i bawb drwy gadw eich ci ar dennyn byr, glanhau ar eu hôl a chael gwared ar unrhyw sbwriel yn gyfrifol.

Ein System Pawen

Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ei gwneud hi’n haws i chi ddarganfod pa mor gyfeillgar i gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a’ch ffrind pedair coes gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system raddio newydd ac wedi rhoi sgôr i'r holl leoedd yn ein gofal. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llawlyfr aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Lle â chyfradd un pawen yw Aberdulais.

Mae croeso i gŵn yma, ond mae'r cyfleusterau'n gyfyngedig. Fe fyddan nhw'n gallu ymestyn eu coesau yn y maes parcio a cherdded yn y mannau agored cyfagos, yn dibynnu ar y tymor. Darllenwch ymlaen i ddarganfod yn union ble gallwch fynd â'ch ci.

Ble gall fy nghi fynd yn Aberdulais?

Mae croeso i gŵn ar dir Aberdulais, yn ogystal â thu mewn i siop lyfrau'r Hen Ysgol.

Pa gyfleusterau sydd ar gael i gŵn??

Mae bowlenni dwr wedi'u lleoli ger y tai bach. Does dim biniau yn Aberdulais felly gofynnwn yn garedig ichi fynd a'ch baw ci adref gyda chi.

Beth arall sydd angen i mi fod yn ymwybodol ohono?

Peidiwch gadael eich ci yn y car am gyfnodau hir, gan nad oes lawer o gysgod yn ystod cyfnodau cynnes.

Cod Cŵn

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cadwch eich ci dan reolaeth 

Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:

  • Y gallu i alw eich ci atoch mewn unrhyw sefyllfa, ar yr alwad gyntaf.
  • Gallu gweld eich ci yn glir bob amser (nid yw gwybod ei fod wedi diflannu i mewn i’r llystyfiant neu dros y bryn yn ddigon). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei gadw ar lwybr cerdded os yw’r llystyfiant o’ch cwmpas yn rhy drwchus i allu gweld eich ci.
  • Peidio â gadael iddo fynd at ymwelwyr eraill heb eu caniatâd.
  • Cael tennyn i’w ddefnyddio os byddwch yn dod ar draws da byw, bywyd gwyllt neu os gofynnir i chi ddefnyddio un.
Olwyn ddŵr a bastiwn, Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais, De Cymru

Discover more at Aberdulais

Find out when Aberdulais is open, how to get here, the things to see and do and more.

Ein partneriaid

Forthglade

We've partnered with natural pet food maker Forthglade so that you and your dog can get even more out of the special places we care for.

Ymweld â'r wefan