Skip to content

Ymwelwch â’r olwyn ddŵr yn Aberdulais

Olwyn ddŵr a bastiwn, Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais, De Cymru
Olwyn ddŵr a bastiwn yng Ngwaith Tun Aberdulais | © National Trust / Suzanne Patton

Er yn llonydd ar hyn o bryd wrth aros am asesiad arbenigol, pan yn weithredol, mae’r olwyn ddŵr yn Aberdulais yn fersiwn fodern o dechnoleg sydd wedi goroesi dros 400 mlynedd. Dewch i ryfeddu at rym trawiadol byd natur a phrofi fersiwn fodern o ynni gwyrdd yr oes a fu.

Olwyn fwyaf yn Ewrop sy’n cynhyrchu trydan

Wedi’i hadeiladu gan fyfyrwyr a phrentisiaid British Steel ym Mhort Talbot, dyma’r olwyn fwyaf yn Ewrop sy’n cynhyrchu trydan, gyda diamedr o bron 27 troedfedd (8.2m). Mae ganddi 72 bwced ac mae’n cylchdroi 5 gwaith y funud.

Mae ein holwyn ddŵr yn eistedd yn y pydew gwreiddiol, a byddai chwylolwyn wedi trawsyrru’r pŵer tro i felinau rholio’r gwaith tunplat Fictoraidd, lle roedd dwy olwyn yn gweithredu ochr yn ochr.

Grŵp o bum oedolyn yn sefyll a gwenu wrth edrych i fyny at olwyn ddŵr fawr, sydd wedi’i gorchuddio ag algâu, yng Ngwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais, Cymru.
Y rhaeadrau yng Ngwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais | © National Trust Images/Chris Lacey

Y stwff technegol

Mae gerflwch tri-cham yn cynyddu’r cyflymder i alluogi’r generadur, sydd ar siafft, i gynhyrchu hyd at 20kw o drydan. Ar y diwrnod cyfartalog, mae tua 100-120kw o drydan yn cael ei gynhyrchu.

Cafodd ei gosod ym 1991, pan roedd cynlluniau trydan dŵr o’r fath yn gymharol brin. Mae’r traddodiad o arloesi yn Aberdulais yn parhau hyd heddiw.

Ymwelwyr wrth yr olwyn ddŵr ac ar safle’r hen waith tun yn Aberdulais , De Cymru
Ymwelwyr wrth yr olwyn ddŵr ac ar safle’r hen waith tun yn Aberdulais | © National Trust Images / John Millar

Tyrbin cynhyrchu ynni

Nid yr olwyn ddŵr yw diwedd ein stori ynni ni chwaith. Mae gennym ni ein tyrbin ein hunain hefyd, sydd â chapasiti cynhyrchu o 200kw. Mae hwn yn cyflenwi pŵer i’r Grid Cenedlaethol – digon i ddarparu trydan i’r rhan fwyaf o’n cymdogaeth.

Olwyn ddŵr a bastiwn, Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais, De Cymru

Darganfyddwch fwy yn Aberdulais

Dysgwch pryd mae Aberdulais ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golwg o'r Rhaeadr yng Ngweithdy Tun Aberdulais, De Cymru
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â’r rhaeadr yn Aberdulais 

Mae’r rhaeadr yn Aberdulais yn brawf o rym rhyfeddol natur. Ond p’un a yw’n rhuo neu’n llifo’n dawel, mae bob amser yn brydferth. Dysgwch fwy am ei hanes a beth i’w weld yn ystod eich ymweliad.

Yr olwyn ddŵr a safle’r hen waith tun yn Rhaeadr Aberdulais, Castell-nedd Port Talbot, Cymru
Erthygl
Erthygl

Hanes Aberdulais 

Dysgwch sut mae Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais wedi bod wrth galon diwydiant Cymru byth ers i beiriannydd o’r Almaen ddewis y safle fel lleoliad cyfrinachol ar gyfer smeltio copr.