Skip to content

Darganfyddwch y Morlyn Glas yn Abereiddi

Yr olygfa o ben clogwyn yn edrych i lawr tua childraeth creigiog sydd bron yn amgylchynu’r Morlyn Glas yn Abereiddi, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel tu draw.
Y Morlyn Glas yn Abereiddi, ar Lwybr Arfordir Sir Benfro | © NTPL/David Sellman

Mae Morlyn Glas Abereiddi wedi’i amgylchynu â chreigiau geirwon, ac mae ambell i adfail yn atsain o orffennol diwydiannol yr ardal. Mae Abereiddi yn boblogaidd ar gyfer arfordira a chaiacio ym misoedd yr haf, ond gall cerddwyr fwynhau’r arfordir garw a’r golygfeydd godidog o ben y clogwyni hefyd. Darganfyddwch harddwch y rhan hon o Sir Benfro a’n gwaith i addasu i rymoedd natur.

Y Lagŵn Glas at gau rhwng 16 Medi a 4 Tachwedd 2023

Mae'r Lagŵn Glas bellach ar gau oherwydd bod morloi bach wedi cyrraedd. Os bydd popeth yn iawn bydd yn ailagor ar 4 Tachwedd. Bydd ymwelwyr yn dal i allu gwylio’r creaduriaid gwyllt hyn yn eu cynefin o Lwybr Arfordir Cymru. Er mwyn osgoi amharu ar forloi yn ystod yr adeg bwysig hon o'r flwyddyn, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn argymell bod pobl yn dilyn Cod Morol Sir Benfro: Byddwch yn ddistaw, cadwch eich pellter ac arhoswch o leiaf 50m oddi wrth y morloi, a pheidiwch â byth ddod rhwng morlo a'i lo, neu forlo a'r môr, a pheidiwch â mynd â chŵn yn agos at ardal fridio.

Gorffennol diwydiannol yn Abereiddi

Y Morlyn, dafliad carreg i’r gogledd o’r traeth, oedd prif chwarel lechi’r St Brides Slate Company ‘slawer dydd, ac roedd yn weithredol hyd at 1910. Mae’r llechfaen yn rhoi lliw glas gwych i’r dŵr. Mae’n llecyn poblogaidd ar gyfer arfordira a dringo ar hyd y clogwyni ar lefel y môr.

Cyn-chwarel lechi

Chwaraeodd Sir Benfro ran bwysig yn y diwydiant llechi, gyda thua 100 o chwareli yn y sir ar ddiwedd y 18fed ganrif. Roedd llechi a gloddiwyd o Abereiddi yn cael eu cludo ar dramffordd i Harbwr Porthgain gerllaw, i’w rhoi ar longau. Ffurfiwyd y Morlyn Glas pan ffrwydrwyd y sianel i gysylltu’r chwarel â’r môr, gan alluogi’r dyfroedd i lifo i mewn.

Mae adfeilion adeiladau’r chwarel yn dal i eistedd ar ben y clogwyn, gyda gweddillion bythynnod y gweithwyr i’w gweld ger y maes parcio, ar hyd Y Rhes neu Y Stryd, fel yr oedd yn cael ei galw ers talwm. Fe welwch hefyd dŷ’r fforman a’r storfa bowdwr yma.

Newid arfordirol yn Abereiddi

Mae newid arfordirol yn anochel, ac mae grymoedd natur yn rhan o harddwch ac apêl ein harfordir. Yma yn Abereiddi, Sir Benfro, rydym yn gweithio gydag eraill i addasu i’r prosesau naturiol.

Prin yw’r lleoliadau yn Sir Benfro sy’n teimlo nerth y môr gymaint ag Abereiddi. Ers i’r morglawdd, a oedd mewn cyflwr gwael, gael ei ddymchwel yn 2012, mae’r newidiadau wedi cyflymu’n ddramatig. Yn ystod stormydd gaeaf 2014, collwyd mwy na phum metr o dir dros nos.

Erydiad arfordirol ac adfeilion hanesyddol

Mae’r traeth yn ail-alinio ei hun gyflymaf wrth y pen gogleddol, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Modelwyd hyn drwy astudiaeth yr helpodd yr Ymddiriedolaeth i’w chomisiynu gyda Chyngor Sir Penfro.

Mae erydiad hefyd yn golygu bod rhannau o fythynnod y gweithwyr wedi cael eu colli. Gan nad yw amddiffynfeydd môr caled yn gynaliadwy yn y lleoliad hwn, gwnaethom arolygu’r safle cyn i’r adfeilion mwyaf hanesyddol gael eu taro gan stormydd. Yn dilyn y gwaith arolygu, gwnaethom ddatgymalu’r rhannau o’r bythynnod sy’n wynebu’r môr, gan roi’r deunydd ar gael i brosiectau cadwraeth lleol.

Adfeilion Abereiddi

Yn dilyn arolwg electronig gan archeolegydd, gwnaethom ddatgymalu’r adeiladau a ddifrodwyd gan stormydd gyda chymorth gwirfoddolwyr lleol o Ymddiriedolaeth y Tywysog. Cafodd y garreg ei storio i’w defnyddio ar waith trwsio lleol.

Yr olygfa o ben clogwyn yn edrych i lawr tua childraeth creigiog sydd bron yn amgylchynu’r Morlyn Glas yn Abereiddi, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel tu draw.

Darganfyddwch fwy o Abereiddi i Abermawr

Dysgwch sut i gyrraedd Abereiddi i Abermawr, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Blodau gwyllt yn blodeuo ar arfordir Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Our work at Treseisyllt 

We’re working in partnership with the licensees at Treseisyllt, on the coast between St David’s Head and Strumble Head to manage the land through conservation grazing.