Abereiddi i Abermawr
CymruMorlyn glas, traethau, creigiau ac adfeilion; ar hyd yr arfordir gwyllt hwn mae diwydiant ac antur yn cwrdd. Plymiwch yn ddwfn i’r gorffennol i weld sut mae chwareli wedi paratoi’r ffordd ar gyfer rhai sy’n hoff o gyffro.
Abereiddi: SA62 6DT, Abermawr: SA62 5UX
Cynllunio eich ymweliad
Ymweld â chefn gwlad Sir Benfro gyda'ch ci
Mae ein lleoedd gwledig ac arfordirol yn Sir Benfro wedi'u graddio ag un bawen. Dysgwch fwy am ddod â'ch ci i Sir Benfro. Dewch i ddianc i ymyl gorllewinol Cymru ac archwiliwch dirwedd arfordirol ddramatig gyda'ch cyfaill pedair coes wrth eich ochr.

Gwylio morloi mewn modd cyfrifol yng Ngorllewin Cymru
Dilynwch y canllawiau a’r cynghorion hyn ar gyfer gwylio morloi mewn modd cyfrifol er mwyn helpu i gadw morloi’n ddiogel pan fyddwch chi allan ger yr arfordir.







