Skip to content

Cerdded a dringo ar Dryfan

Dau o bobl allan yn cerdded yn yr eira gyda chi yn croesi camfa rhwng Tryfan a’r Glyder Fach gyda Nant Ffrancon yn y cefndir yn y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd.
Dringwyr yn croesi camfa rhwng Tryfan a’r Glyder Fach | © National Trust Images/Chris Lacey

Yn fynydd ‘go iawn’ yn Nyffryn Ogwen yng Ngogledd Eryri, mae Tryfan yn fynydd i’w edmygu a’i barchu gan ei fod yn nodi’r ffin rhwng cerdded a mynydda ac yn un o’r copaon hawsaf ei adnabod ym Mhrydain.

Dringo Tryfan

Saif y copa ar 917.51 metr, yn ôl offer GPS modern, sy’n cadarnhau ei fod ymhlith 14 copa uchaf Cymru sydd dros 3,000 troedfedd.

Cerddwyr mynydd profiadol

Pa bynnag lwybr y byddwch yn ei ddewis, bydd raid i chi ddefnyddio eich dwylo i gyrraedd y copa, felly dim ond cerddwyr profiadol, gyda’r offer cywir ac yn chwilio am her ddylai fentro yma.

Anaddas i ddechreuwyr

Mae hyd yn oed y llwybr hawsaf o Fwlch Tryfan yn cael ei alw yn sgrambl gradd 1, a dim ond mynd yn anos y mae’r llwybrau eraill, gan sicrhau bod dringwyr a mynyddwyr wrth eu bodd.

Geifr gwyllt y mynydd

Nid yw’r geifr gwyllt sydd wedi ymgartrefu ar y mynydd yn cael unrhyw anhawster wrth neidio o graig i graig ac maent yn dueddol o ddod i lawr i’r tir is i gysgodi pan fydd cymylau’r glaw yn ‘sgubo at y mynydd.

Mwthyn Ogwen

Os byddwch chi’n mentro i fyny’r llethrau caregog cofiwch ddilyn esiampl yr anifeiliaid yma ac anelwch am gysgod ein caffi ym Mwthyn Ogwen os bydd y tywydd yn edrych yn ddrwg.

Tîm Achub Mynydd

Mae’r Tîm Achub Mynydd gerllaw yn cael eu galw’n aml at bobl sydd ar goll neu’n methu dod o un o geunentydd niferus Tryfan. Gofalwch eich bod yn cadw’n saff a pharatowch bob amser cyn cychwyn i’r mynyddoedd.

Mae dwy graig dal, Siôn a Siân, i’w gweld yn erbyn yr awyr las ar gopa Tryfan, Eryri, gyda chwrlid o gymylau yn gorchuddio’r dirwedd tu hwnt.
Siôn a Siân, dwy graig ar gopa Tryfan | © National Trust Images/Graham Eaton

Rhyddfraint Tryfan

O’r pellter mae Tryfan yn edrych fel asgell driphlyg o graig lwyd wrth ochr Llyn Ogwen a dyna sut y cafodd ei enw, o’r tri maen.

Siôn a Siân

Wrth edrych yn fwy gofalus gallwch weld y ddau biler ar y copa o’r enw Siôn a Siân yn Gymraeg (Adam and Eve yn Saesneg), sy’n cynnig yr her i’r rhai mentrus geisio neidio o un i’r llall er mwyn cael ‘rhyddfraint Tryfan’ - camp beryglus na ddylech fentro arni ond yn ofalus ac ar eich risg eich hun, ni ddylech anwybyddu pa mor serth yw’r dibyn ar un ochr.

Cysylltiad ag Everest

Mae’r mynydd hwn wedi ei barchu ers amser maith ymhlith dringwyr a mynyddwyr ac yn 1907, dringodd George Mallory, y dringwr enwog o Brydain, ei ddwy ddringfa ar greigiau gyntaf ym Mhrydain ar Tryfan. Ceisiodd Mallory ddringo Everest ym 1924, ond gwaetha’r modd bu farw ddim ond 245m islaw’r copa ynghyd â’i gydymaith, ‘Sandy’ Irvine.

Syr Edmund Hillary

Cryfhawyd y cysylltiad ag Everest pan ddefnyddiwyd Tryfan fel man hyfforddi i Syr Edmund Hillary a’i dîm a wnaeth brofi eu peiriannau ocsigen ac ymarfer eu trefniadau achub a diogelwch ar y mynydd, cyn i Syr Edmund a Sherpa Tenzing fod y bobl gyntaf i ddringo Everest yn llwyddiannus ar 29 Mai, 1953.

Dau o bobl allan yn cerdded yn yr eira gyda chi yn croesi camfa rhwng Tryfan a’r Glyder Fach gyda Nant Ffrancon yn y cefndir yn y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd.

Darganfyddwch fwy am Garneddau a Glyderau

Dysgwch sut i gyrraedd Carneddau a Glyderau, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Pedwar cerddwr yn dringo bryn creigiog ger Pen yr Ole Wen, y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd. Mae llawer o gerrig anferth ar y bryn ac mae copa i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Hanes a chwedlau Cwm Idwal 

Dysgwch am orffennol Cwm Idwal, y ffordd y darganfu Darwin sut y crëwyd Cwm Idwal a chwedl tywysog o’r 12fed ganrif a’i fab oedd yn dal y tir