
Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Profwch dirlun anial Eryri.
National Trust, Bwthyn Ogwen, Nant Ffrancon, Bethesda, Gwynedd, LL57 3LZ

| Asset | Opening time |
|---|---|
| Cefn gwlad | Dawn - Dusk |
Ciosg a chanolfan wardeiniaid sydd yn cael ei redeg gan Parc Cenedlaethol Eryri. Mynediad i Gwm Idwal yma, oddi ar yr A5.
Caniateir cŵn ar dennyn. Byddwch yn ystyriol o da byw.
Parcio yn Llyn Ogwen oddi ar yr A5 - nid Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cyfleusterau toiledau yn Llyn Ogwen - nid yn cael ei redeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Lleoliadau mynyddig gyda thirwedd serth, greigiog, gorsiog ac anwastad mewn mannau. Gallai fod ambell i gamfa hefyd.
Tir garw, llwybrau anwastad, serth a chul mewn mannau, llwybrau â cherrig, amodau wedi'u dylanwadu gan y tywydd.
Parcio hygyrch ym maes parcio Llyn Ogwen. Nid yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhedeg y maes parcio yma.
Toiledau hygyrch ym maes parcio Llyn Ogwen. Nid yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhedeg y maes parcio yma.
National Trust, Bwthyn Ogwen, Nant Ffrancon, Bethesda, Gwynedd, LL57 3LZ
Dilynwch yn ôl troed chwedlau o amgylch Eryri. P'un a ydych am dro hamddenol neu daith gerdded fynyddig, isod mae detholiad o llefydd i flino'r pedwar cymal (a'ch rai chi!).

Mae’r 21,000 erw, a drosglwyddwyd ym 1951 o ystâd Penrhyn, yn cynnwys Gwarchodfa Natur Cwm Idwal a naw copa dros 3,000 troedfedd.
Gwarchodfa Natur Genedlaethol gyntaf Cymru, llyn rhewlifol wedi’i amgylchynu gan fynyddoedd dramatig y Glyderau a Thryfan.
Beth sy’n gwneud Tryfan mor arbennig? Dysgwch am hanes y copa garw a’r heriau y mae’n eu rhoi i ddringwyr a mynyddwyr sy’n ceisio ei goncro.

Dilynwch daith Cwm Idwal trwy rai o’r golygfeydd mwyaf dramatig yn y Deyrnas Unedig. Taith 3 milltir gyda llyn chwedlonol ym mynyddoedd y Glyderau yng Ngogledd Eryri.

Ar y daith gymedrol hon o gwmpas Llyn Ogwen cewch osgoi’r tyrfaoedd o Gwm Idwal a mwynhau golygfeydd trawiadol. Yn ôl y chwedl dyma le mae Caledfwlch y Brenin Arthur yn gorwedd.


A cosy stone built cottage in the heart of Eryri (Snowdonia), in the shadow of Tryfan, perfect for adventurers and walkers.

This cosy stone-built farmhouse in the heart of the Eryri (Snowdonia) National Park is the perfect spot for a peaceful retreat.

Close to Beddgelert and sitting in secluded woodland, this is the perfect base for exploring Eryri (Snowdonia).

Characterful stone-built cottage on the Hafod Y Llan estate, great for exploring Eryri (Snowdonia).

Perfect for walkers, this cosy and simple first-floor escape is in the stunning setting of the Eryri (Snowdonia) mountain range.

A rustic but restored cottage with walks from the front door.

This restored Victorian farmhouse has mountain views all around.
Mae'n ddrwg gennym, nid oes unrhyw ddigwyddiadau i ddod yn y lle hwn
Mae man mynyddig 21,000 erw, a brynwyd ym 1951 o stad y Penrhyn, yn cynnwys Gwarchodfa Natur Cwm Idwal sy’n enwog am ei phlanhigion Arctig alpaidd. Mae wyth fferm ucheldir tenantiaid ar y tir hwn, naw copa uwch na 3,000 troedfedd a mynydd enwog Tryfan lle bu Edmund Hilary yn hyfforddi i ddringo Everest. Mae’r ardal yn gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt fel dyfrgwn, llygod y dŵr, merlod gwyllt ac adar prin fel y dotr a’r hebog tramor a lili’r Wyddfa, sy’n brin iawn. Mae’r 100km o lwybrau troed yn boblogaidd gyda 500,000 o gerddwyr bob blwyddyn, ac mae’r tirweddau llwm, ffotogenig wedi bod yn boblogaidd gydag artistiaid a pheintwyr. Fe welwch chi dros 1,000 o safleoedd archeolegol yma gan gynnwys saith heneb gofrestredig.
Dysgwch am orffennol Cwm Idwal, y ffordd y darganfu Darwin sut y crëwyd Cwm Idwal a chwedl tywysog o’r 12fed ganrif a’i fab oedd yn dal y tir

Yn nhirweddau garw Eryri roedd crawiau llechi ar un adeg yn olygfa fwy cyffredin yn yr ardal. Helpwyd y strwythurau nodedig hyn, a wnaed o wastraff llechi, i lunio cymeriad y wlad gyfagos am genedlaethau.

Mae wardeiniaid yn Eryri’n gweithio’n galed i greu ac adfer glaswelltir llawn blodau yma fydd yn dod â budd i amrywiaeth o fywyd gwyllt o loÿnnod byw i adar prin.

Darllenwch ragor am brosiect sy’n annog wardeiniaid a gwirfoddolwyr yng Nghymru i feddwl fel defaid wrth blannu coed yn Nyffryn Mymbyr, Carneddau a Glyderau, Eryri.
Rydym yn hysbysebu cyfle masnachol cyffroes, gyda Gweithdy Pentre ar osod yn Nant Ffrancon, Eryri.

Bydd synwyryddion tymheredd newydd sy’n cael eu gosod yng Nghwm Idwal yn helpu i warchod planhigion prin y Warchodfa Natur Genedlaethol rhag cael eu niweidio yn ystod misoedd y gaeaf.

Tri phâr o ddieithriaid sydd â chysylltiad arbennig â Chwm Idwal yn dod ynghyd i fynegi eu gobeithion a’u hofnau am yr ardal mewn hinsawdd sy’n newid. Mae’r themâu o'u sgyrsiau wedi ysbrydoli mainc wedi'i cherfio'n arbennig i ymwelwyr ei mwynhau, wedi'i lleoli ar hyd y llwybr i'r llyn.


Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Trwy rannu eich cyfeiriad e-bost rydych chi’n cytuno i dderbyn e-byst marchnata gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cadarnhau eich bod yn 18 oed neu hŷn. Gweler ein am fwy o wybdaeth am sut rydyn ni’n gofalu am eich data personol.