Skip to content
Newyddion

Gweithdy Pentre - cyfle masnachol ar osod yn Nant Ffrancon, Eryri

Adeilad carreg gyda tho llechi Gweithdy Pentre, gyda mynydd Tryfan yn y pellter.
Gweithdy Pentre | © National Trust Images

Mae Gweithdy Pentre yn swatio rhwng mynyddoedd y Carneddau a’r Glyderau, yng nghwm hardd Nant Ffrancon.

Mae’r gweithdy wedi’i leoli ar hyd llwybr beicio Lôn Las Ogwen (yr hen Lôn Rufeinig sy’n cyd-redeg â chefnffordd yr A5), rhwng Bwthyn Ogwen (y prif bwynt dechrau ar gyfer cerdded i Warchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal) a thref Bethesda.

Mae’r gweithdy’n cynnwys dau adeilad, wedi’u gwresogi gan bwmp gwres ffynhonnell aer newydd, ac iard gaeedig gyda digon o leoedd parcio. Mae’r safle'n cynnwys toiledau a chegin syml, a bydd cysylltiad rhyngrwyd ffibr diwifr. Mae ganddo’r potensial i gael ei ddefnyddio fel gweithdy, swyddfa, neu storfa, ac rydym hefyd yn agored i drafod defnyddiau posibl eraill.

Mae’r lleoliad yn cynnwys golygfeydd hyfryd, a dim ond yn daith fer ar y beic neu yn y car o dref Bethesda gerllaw. Mae’r eiddo masnachol ar osod yn cynnig lleoliad unigryw a chyffrous i fenter busnes o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.

Darllenwch restriad eiddo masnachol ar osod Gweithdy Pentre i weld y manylion llawn.

Cynhelir ymweliadau ar: Ddydd Mercher 14 Mehefin 2023

I fynnu eich slot ar y dyddiad ymweld, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: ni.