Skip to content

Dysgwch am chwedl y ddwy ddraig

Golygfa o Ddinas Emrys, Beddgelert, Gogledd Cymru, yn edrych tuag at gopa dan gwmwl gyda choeden yn y blaendir.
Yr olygfa o Ddinas Emrys, Beddgelert | © National Trust Images/Gwenno Parry

Darllenwch hanes y ddwy ddraig oedd yn cysgu a’u ffau dan fynydd yng Ngogledd Cymru. Dysgwch sut y gwnaeth Myrddin ifanc chwarae ei ran yn y stori chwedlonol hon.

Adeiladu castell yn Dinas Emrys, Craflwyn

Yn y bumed ganrif dewisodd y Brenin Celtaidd Gwrtheyrn Ddinas Emrys fel safle i’w gastell. Roedd yn gobeithio ffoi yma rhag y Sacsoniaid ond nid oedd ei gynlluniau am gaer yn mynd yn dda.

Bob nos byddai’r seiri meini brenhinol yn gadael eu hoffer ond erbyn y bore wedyn fe fyddent wedi diflannu i gyd. Dros nos roedd y waliau yr oedden nhw wedi eu llunio mor gelfydd wedi chwalu hefyd.

Plentyn dewinol

Digwyddodd hyn dro ar ôl tro nes gorfodwyd Gwrtheyrn i gael help dewiniaid a swynwyr. Eu cyngor oedd y dylid ysgeintio gwaed plentyn mam ddynol a thad ‘o’r byd arall’ hyd y ddaear.

Myrddin a ffau’r dreigiau

Aed ati i chwilio ac yn y diwedd cafwyd hyd i’r plentyn yng Nghaer Myrddin ac aed ati i baratoi i’w aberthu. Ond nid plentyn arferol oedd Myrddin Emrys. Y Dewin Myrddin oedd hwn mewn gwirionedd.

Darbwyllodd Myrddin Gwrtheyrn bod dwy ddraig yn cysgu mewn llyn yn y mynydd. Dywedodd mai nhw oedd yn dinistrio sylfeini ei gaer.

Golygfa o Nant Gwynant o Ddinas Emrys, Beddgelert, Gogledd Cymru
Golygfa o Nant Gwynant o Ddinas Emrys, Beddgelert | © National Trust Images / Gwenno Parry

Llyn tanddaearol

Credodd Gwrtheyrn y bachgen. Gorchmynnodd i’w weithwyr gloddio’n ddwfn i’r mynydd. Pan dyllodd y dynion i lawr fe wnaethant ddarganfod llyn tanddaearol, yn union fel yr oedd Myrddin wedi rhagweld.

Dreigiau yng nghwsg

Gwagwyd y llyn gan ddatgelu dwy ddraig, un goch ac un wen, yn cysgu. Doedden nhw ddim yn hoffi cael eu deffro ac fe wnaethon nhw ddechrau ymladd. Yn y diwedd hedfanodd y ddraig wen i ffwrdd a dychwelodd y ddraig goch yn dawel i’w ffau.

Dau o bobl yn cerdded i lawr llechwedd glaswelltog anwastad wrth ochr rhaeadr bach ger Dinas Emrys, Beddgelert, Eryri, Gogledd Cymru.
Rhaeadr ar y ffordd at Ddinas Emrys, Beddgelert | © National Trust Images/Gwenno Parry

Dinas Emrys

Llwyddwyd i adeiladu castell Gwrtheyrn yn y diwedd a rhoddwyd yr enw Dinas Emrys arno i anrhydeddu Myrddin Emrys, ac mae’r ddraig goch wedi ei pharchu beth ers hynny.

Darganfyddiadau diweddar

Yn 1945 aeth archeolegwyr ati i gloddio’r safle a darganfuwyd llyn ac adfeilion caer yn dyddio o gyfnod Gwrtheyrn. Roedd y waliau i gyd yn dangos eu bod wedi eu hail-adeiladu sawl gwaith. Ai dyma safle’r chwedl?

Ymwelwyr yn eistedd ger afon Glaslyn mewn coed, Craflwyn a Beddgelert, Cymru.

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Tri ymwelydd yn sefyll dan goeden gyda’r haul yn tywynnu trwy’r canghennau ar lwybr yn Craflwyn a Beddgelert, Cymru.
Erthygl
Erthygl

Dysgwch am hanes Gelert 

Dysgwch am hanes trist Gelert, y ci ffyddlon a roddodd ei enw i bentref Beddgelert. Cerddwch at y bedd coffa ar gyrion y pentref.

The exterior of Hen Dy, Gwynedd, Gwynedd
Erthygl
Erthygl

Bythynnod gwyliau yn Eryri 

Gyda’i fynyddoedd anferth, ceunentydd dwfn a llynnoedd hardd, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gyrchfan wyliau delfrydol i’r rhai sy’n mwynhau’r awyr agored a’r rhai sy’n caru natur. Arhoswch yn un o'n bythynnod gwyliau yn Eryri ac archwiliwch ardal arbennig hon o Gymru.