Darganfyddwch fwy am Craflwyn a Beddgelert
Dysgwch sut i gyrraedd Craflwyn a Beddgelert, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Darllenwch stori drist Gelert, y ci ffyddlon, a roddodd ei enw i bentref. Dewch i weld y gofeb a gweld harddwch garw’r ardal.
Roedd y tywysog Llywelyn Fawr yn un o drigolion cynnar yr hyn fyddai, rhyw ddiwrnod, yn dod yn bentref Beddgelert. Roedd Llywelyn yn hoff iawn o hela ac roedd ganddo lu o fytheiaid i’w helpu yn ystod helfa. Gelert oedd enw ei hoff gi a roddwyd iddo gan y Brenin John o Loegr.
Un diwrnod roedd y tywysog a’i dywysoges yn cychwyn i hela gyda’i gilydd, gan adael eu babi yng ngofal Gelert. Ar ôl dychwelyd adref cawsant eu dychryn o weld bod y babi wedi diflannu a safn Gelert yn waed i gyd.
Tynnodd Llywelyn ei gleddyf o’i wain ar unwaith a lladd ei hoff fytheiad. Wrth i Gelert syrthio’n farw clywyd babi’n crio o gornel dywyll yn yr ystafell.
Gwelodd Llywelyn bod ei etifedd yno’n ddiogel. Ond, wrth ochr y babi roedd blaidd nerthol, a laddwyd gan Gelert. Roedd y ci gwarchodol wedi lladd y blaidd i amddiffyn y babi ond yna fe’i lladdwyd gan gleddyf ei feistr.
Yn llawn galar ac edifeirwch rhoddodd Llywelyn angladd seremonïol i’w gi ger yr afon. Yn y pen draw anfarwolwyd enw Gelert yn enw’r pentref a elwir heddiw yn Feddgelert.
Dysgwch sut i gyrraedd Craflwyn a Beddgelert, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae Cymru’n gartref i lu o chwedlau. Mae un stori am ddraig goch a draig wen Dinas Emrys ger Craflwyn a Beddgelert. Mae’r copa uchel hwn yn lleoliad i stori am ddreigiau a hud.
Dysgwch am hanes cyfoethog fferm Hafod y Llan yn Eryri, Cymru, gan ddechrau yn y 12fed ganrif.
Darganfyddwch bethau i’w gwneud yn fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru ar lethrau’r Wyddfa, gan gynnwys llwybrau cerdded a’r bywyd gwyllt y gallwch ei weld.
Gyda’i fynyddoedd anferth, ceunentydd dwfn a llynnoedd hardd, mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gyrchfan wyliau delfrydol i’r rhai sy’n mwynhau’r awyr agored a’r rhai sy’n caru natur. Arhoswch yn un o'n bythynnod gwyliau yn Eryri ac archwiliwch ardal arbennig hon o Gymru.