Profiad Iard Mwynglawdd Dolaucothi
![Gold Panning Area](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/dolaucothi/library/built-heritage-history-and-collections/panning01rs.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Dewch i brofi gweithgareddau newydd i'r teulu cyfan
Os yw’n well gennych chi aros ar lefel y tir a pheidio â mentro i’r mwynglawdd, mae yna ddigon i’w wneud o hyd. Dewch o hyd i beiriannau hanesyddol o’r 1930au, profiad panio aur newydd a llwyth o wybodaeth am yr unig fwynglawdd aur Rhufeinig hysbys yn y DU.
![Beiriannau hanesyddol o’r 1930au](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/dolaucothi/library/machinery.jpg?auto=webp&width=676&crop=16:9&dpr=2 2x)
Mae iard y mwynglawdd yn Nolaucothi wedi’i adnewyddu’n ofalus ar gyfer 2023, ac mae bellach yn cynnwys profiad panio aur newydd y gall pawb ei fwynhau.
Gafaelwch mewn padell ac ewch i chwilio am aur, pwy a ŵyr beth fyddwch yn dod ar ei draws. Mae’r gofer dŵr newydd yn llifo o waelod nant y mynydd i’r olwyn aur, ac mae’n hygyrch i bawb gymryd rhan.
Mae’r olwyn aur wedi’i hysbrydoli gan ddarn o emwaith aur Rhufeinig Dolaucothi, a ddarganfuwyd ar y safle ym 1799 ac sydd bellach yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa Brydeinig.
![Gafaelwch mewn padell ac ewch i chwilio am aur](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/dolaucothi/library/panning-on-mine-yard.jpg?auto=webp&width=676&crop=16:9&dpr=2 2x)
Mae croeso i deuluoedd ddod â phicnic i eistedd ac ymlacio yn iard y mwynglawdd ond cofiwch ymweld yn gyfrifol a mynd â’ch sbwriel adref gyda chi ar ddiwedd y dydd.
Dysgwch ragor am hanes Dolaucothi yn y Ganolfan Maes, lle cewch hyd i ystod o archifau, mapiau, llyfrau cyfair ac arddangosfeydd.
Gellir prynu tocynnau ar gyfer mynediad safle yn unig (ac eithrio teithiau tywysedig o dan y ddaear) wrth gyrraedd. Os yw’n well gennych chi daith dywysedig, yna archebwch ymlaen llaw ar-lein drwy ein gwefan cyn i chi ymweld. Mae mynediad am ddim wrth gwrs i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Am y prisiau diweddaraf ewch i’n tudalen hafan.