
Darganfyddwch fwy yn Dolaucothi
Dysgwch pryd mae Dolaucothi ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Ewch i wisgo eich bŵts a darganfod unig Fwynglawdd Aur Rhufeinig hysbys y DU.
Pumsaint, Llanwrda, Sir Gaerfyrddin, SA19 8US
Asset | Opening time |
---|---|
Iard y Gloddfa | Ar gau |
Ystad | Open all day |
Maes parcio | Ar gau |
Safle carafanau | Ar gau |
Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
---|---|---|
Oedolyn (18+) | £13.00 | |
Plentyn (5-17) dan 5 am ddim | £6.50 | |
Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 phlentyn) | £32.50 | |
Grŵp (Oedolyn 18+) | £12.35 | |
Grŵp (Plentyn 5-17) | £5.70 | |
Teulu 1 oedolyn | £19.50 |
Ticket type | Gyda Chymorth Rhodd | Heb Gymorth Rhodd |
---|---|---|
Oedolyn (18+) | £6.00 | |
Plentyn (5-17) dan 5 am ddim | £3.00 | |
Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 phlentyn) | £15.00 | |
Grŵp (Oedolyn 18+) | £5.70 | |
Grŵp (Plentyn 5-17) | £2.85 | |
Teulu 1 oedolyn | £9.00 |
Croesewir cŵn ar dennyn yn Nolaucothi.
Dim ond pan fydd y mwynglawdd aur ar agor y bydd maes parcio’r mwynglawdd ar agor. Mae maes parcio’r coetir (gyferbyn â’r prif glwydi) ar agor 24/7 drwy gydol y flwyddyn.
A wnewch chi neilltuo lle ymlaen llaw ar gyfer Teithiau Tywysedig Tanddaearol o’r unig Fwynglawdd Aur Rhufeinig ym Mhrydain.
Ceir toiledau yn iard y mwynglawdd, yn cynnwys cyfleusterau i’r anabl (ni fydd cyfleusterau i’w cael yn ystod daith).
Man gollwng, tai bach i bobl anabl, canllawiau Braille a sain. Llawer o risiau serth (teithiau). Iard cloddfa raeanog sy’n fflat ar y cyfan. Mae’r rhan fwyaf o siediau’n hygyrch.
Bydd y Teithiau Tywysedig yn para oddeutu awr a chwarter. Mae’r llwybr yn 1km o hyd a cheir grisiau allanol serth i fyny ac i lawr o’r mwynglawdd a bydd yn rhaid cerdded rhywfaint ar lwybrau sy’n dringo.
Mae llawer o’n siediau peiriannau yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chymhorthion cerdded
Ceir mynediad â ramp at rai o’n hadeiladau a’n rhodfeydd dan do. Sylwer: ceir llethr o’r maes parcio i fyny at Iard y Mwynglawdd.
Er bod ein Teithiau Tywysedig yn cynnwys grisiau serth a cherdded i fyny llethrau, mae Iard y Mwynglawdd yn wastad. Ceir rhywfaint o lethr o’r maes parcio i fyny at Iard y Mwynglawdd
Mynediad gwastad at doiled i’r anabl lle ceir canllaw, cordyn argyfwng a chyfleusterau newid babanod.
O Lanymddyfri / Llandeilo (A40). Trowch oddi ar yr A40 a theithio ar hyd yr A482 yn LLANWRDA. Ewch yn eich blaen ar yr A482 am oddeutu 7 milltir. Chwiliwch am droad i’r dde oddi ar yr A482, gydag arwydd ‘Mwyngloddiau Aur Dolaucothi Goldmines’, yn union cyn cyrraedd pentref PUMSAINT (lleolir yr arwydd uwchben arwydd mawr ar gyfer Canolfan Farchogaeth Five Saints). Dilynwch y ffordd un trac am ryw ddau funud. Mae Dolaucothi ar yr ochr dde (arwydd ‘Mwyngloddiau Aur Dolaucothi Goldmines’). O Lanbedr Pont Steffan, ewch i’r de-ddwyrain ar yr A482. Ar ôl oddeutu 8 milltir byddwch yn mynd trwy bentref PUMSAINT. Yn syth ar ôl gadael y pentref, dewiswch un o blith dau droad i’r chwith gydag arwydd ‘Mwyngloddiau Aur Dolaucothi Goldmines’. Dilynwch y ffordd un trac am ryw ddau funud. Mae Dolaucothi ar yr ochr dde (arwydd ‘Mwyngloddiau Aur Dolaucothi Goldmines’).
Parcio: Am ddim. Lleolir maes parcio’r Mwyngloddiau Aur y tu mewn i’r brif fynedfa. Dim ond pan fydd y mwyngloddiau ar agor y bydd y maes parcio hwn ar agor, a chaiff ei gloi am 5pm. Mae maes parcio’r Coetir, ar gyfer teithiau trwy’r ystad, ar agor 24/7 drwy gydol y flwyddyn;
O Lanbedr Pont Steffan (chwiliwch Bws Bach Y Wlad i ddod o hyd i lwybr)
Gyda dros 2,500 erw o ystâd, coetir, ffermydd a pharcdir i’w darganfod, mae cymaint mwy i Ddolaucothi yn Sir Gâr na’r mwyngloddiau Rhufeinig.
Mae gan Ddolaucothi sgôr o un bawen. Mae croeso cynnes i gŵn ym mhob rhan o Ddolaucothi, o’r teithiau o’r gloddfa aur Rufeinig i’r milltiroedd o lwybrau cerdded sy’n cris-croesi’r ystâd ehangach.
Man Panio Aur newydd hwylus ar waelod nant fechan sy'n llifo o’r mynydd, gyda Chornant Ddŵr newydd a chynlluniau ar gyfer Heulddisg Aur.
Iard cloddfa o’r 1930au gydag amrywiaeth o siediau metal yn cynnwys peiriannau, offer a chyfarpar cloddio, gyda byrddau gwybodaeth esboniadol.
Lle hamddenol i ymlacio, darganfod arddangosfeydd a chael gwybodaeth, archwilio adnoddau’r archif a mwynhau lluniaeth ysgafn.
Ystâd osod 2,500 erw o faint o statws SoDdGA gyda 25km o lwybrau cerdded yn amrywio o lwybrau glan afon, dolydd a choetir i dirweddau ucheldirol.
Gyda dros 2,500 erw o ystâd, coetir, ffermydd a pharcdir i’w darganfod, mae cymaint mwy i Ddolaucothi yn Sir Gâr na’r mwyngloddiau Rhufeinig.
Mae digonedd o bethau i’w gwneud yn Nolaucothi, hyd yn oed os nad ydych yn mynd o dan y ddaear
Mae yna ddigonedd o hwyl i’r holl deulu yn Nolaucothi. Dewch a'r teulu draw am antur.
Crwydrwch y parcdir o gwmpas Dolaucothi ar y daith gerdded rwydd hon, gan fwynhau tiroedd y plasty a llwybrau glan afon, gyda chlychau’r gog yn y gwanwyn a ffyngau yn yr hydref.
Profwch hanes ar y llwybr cymedrol hwn yn Nolaucothi, lle byddwch yn cerdded yn ôl traed cloddwyr aur drwy’r oesoedd.
Cerddwch drwy goetiroedd hyfryd, gan ddilyn llwybrau a ddefnyddiwyd ‘slawer dydd gan geffylau’n llusgo pren. Darganfyddwch hanes Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, pentref Pumsaint a’r hen blas wrth fynd.
Dilynwch ôl traed hynafol y Rhufeiniaid ar hyd glannau Afon Cothi a dringwch i bwynt uchaf Ystâd Dolaucothi am olygfeydd trawiadol dros Bumsaint a’r dyffryn ehangach.
In a quiet, wooded valley by Dolaucothi Gold Mine with history going back to the Romans.
A traditional farmhouse with wooden floors, and a log burner on the beautiful Dinefwr Park.
Nestled on the edge of the Dinefwr Park Estate with a gorgeous garden overlooking the valley, Penparc is a fabulous base for exploring the Welsh countryside
Sitting within Dinefwr Park estate, Cariad Cottage is cosy and packed with charm and character.
This spring, treat the whole family to a world of adventure at Dolaucothi on an Easter trail.
Ynghudd yn y bryniau coediog hyn ceir tystiolaeth o waith cloddio am aur a wnaed gan y Rhufeiniaid fwy na 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Parhawyd i fwyngloddio ar y safle hwn yn ystod yr ugeinfed ganrif, hyd at 1938. Bydd ein teithiau’n dechrau yn iard y mwynglawdd sy’n deillio o’r 1930au, lle cewch weld adeiladau a pheiriannau mwyngloddio o’r cyfnod hwnnw. Beth am ymestyn eich diwrnod ac archwilio Dyffryn Cothi, gan droedio llwybrau glan yr afon, mynd am dro trwy goetiroedd a mwynhau golygfeydd eang ar draws y Dyffryn.
Dechreuodd gwaith cloddio aur yn Nolaucothi o leiaf 2,000 o flynyddoedd yn ôl, a daeth i ben ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd. Dysgwch fwy am unig gloddfa aur Rufeinig y DU.
Taith Danddauarol | Y tu mewn i Fwnglawdd Aur Rhufeinig
Dysgwch pryd mae Dolaucothi ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Trwy rannu eich cyfeiriad e-bost rydych chi’n cytuno i dderbyn e-byst marchnata gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cadarnhau eich bod yn 18 oed neu hŷn. Gweler ein am fwy o wybdaeth am sut rydyn ni’n gofalu am eich data personol.