Skip to content

Teithiau Cerdded Dywysedig Dan Ddaear 2024

Porth bwaog isel â grât metel wedi’i gerfio i mewn i wal garreg arw ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gâr.
Y fynedfa Mitchell i’r pwll ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi | © National Trust Images/Andrew Butler

Gallwch bellach archebu Teithiau Tanddaearol dan Arweiniad Pyllau Aur Dolaucothi 2024. Lleolir Dolaucothi yn Sir Gaerfyrddin a dyma’r unig fwynglawdd Rhufeinig y gwyddys amdano ym Mhrydain. Archwiliwch dan y ddaear – gallwch ddewis o blith tair o deithiau tywysedig gwahanol. Bydd y teithiau hyn ar gael ar bob diwrnod y byddwn ar agor o 20 Mawrth. A wnewch chi neilltuo lle ymlaen llaw.

Gweler manylion y teithiau isod a dewiswch y daith sydd fwyaf addas i chi wrth gadw lle.

Mwyngloddio drwy Hanes

Mae ein taith Mwyngloddio drwy Hanes yn archwilio ein hanes o gyfnodau hynafol i gau Dolaucothi am y tro olaf fel mwynglawdd aur ar waith yn 1938.

Fe gewch het galed a lamp yn barod am ran danddaearol y daith.

Mae angen esgidiau cadarn sy’n gorchuddio’r traed, a chewch eich gwobrwyo am fod yn anturus!


Ymwelwyr dan y ddaear mewn mwynglawdd tywyll
Ymwelwyr dan y ddaear mewn mwynglawdd tywyll | © National Trust Images/Chris Lacey

DISGRIFIAD
Taith Dywys Dan Ddaear o Fwynglawdd Drifft Tywyll

AMSEROEDD Y DAITH
12:00
Cyrraedd 11.45 – 12.00
Taith 12.00 – 13.00
14:30
Cyrraedd 14.15 – 14.30
Taith 14.30 – 15.30

HYD
Awr
LLWYBR
Iard y mwynglawdd i Fwynglawdd Mitchell ac yn ôl. Tua 0.6 KM.
TIR
Grisiau serth i fyny (dim rheilen) ac i lawr. Llwybr carregog.
LLE AR GYFER
15
CYFYNGIADAU
Dim cŵn, dim plant dan 1M o daldra (fel arfer tua 5 oed)

Taith Rufeinig

Fel yr unig fwynglawdd aur Rhufeinig y gwyddom amdano yn y DU, mae Dolaucothi’n cynnig mewnwelediad unigryw i fwyngloddio aur Rhufeinig. Byddwn yn archwilio archaeoleg yr arwyneb ac yn mynd dan ddaear drwy fynedfa ac oriel o’r Oes Rufeinig.

Bydd y fynedfa Rufeinig Uchaf wedi’i goleuo, felly dim ond het galed fydd ei hangen arnoch (byddwn ni’n ei rhoi i chi). Mae esgidiau cadarn sy’n gorchuddio’r traed yn ofynnol, a byddai meddwl chwilfrydig o fantais! Croesewir cŵn ar y daith hon.


Looking into the entrance of Upper Roman Adit and Gallery
Mwyngloddiau Aur Dolaucothi | © Dolaucothi

DISGRIFIAD
Taith Dywys Dan Ddaear o Fwynglawdd Drifft wedi’i Oleuo
Croeso i gŵn.

AMSEROEDD Y DAITH
10.30
Cyrraedd 10.15 – 10.30 am
Taith 10.30 am – 11.45 am
13:00
Cyrraedd 12.45 – 13.00
Taith 13.00 – 14.15

HYD
1 awr 15 munud
LLWYBR
Iard y mwynglawdd i’r Fynedfa Rufeinig Uchaf ac yn ôl. Tua 1 KM.
TIR
Grisiau serth i fyny ac i lawr (gyda rheilen). Llwybr coetir, cerdded ar ucheldir.
LLE AR GYFER
15
CYFYNGIADAU
Dim plant dan 1M o daldra (fel arfer tua 5 oed)

Y Daith Wastad

DISGRIFIAD
Taith Dywys Dan Ddaear o Fwynglawdd Drifft wedi’i Oleuo
Croeso i gŵn.

Gyda mynediad gwastad i fwynglawdd, yn syth oddi ar iard y mwynglawdd a dim grisiau i’w dringo. Mae’r daith hon yn addas ar gyfer pobl gyda rhai problemau symudedd, a rhai mathau o gadeiriau olwyn a chymorthion cerdded.

Profiad mewn mwynglawdd tywyll yw hwn, bydd angen het galed a lamp (byddwn ni’n eu rhoi i chi), ac esgidiau cadarn sy’n gorchuddio’r traed.

Cadwch lygad am rai nodweddion mwyngloddio unigryw, megis ein Cnocwyr a’r Cricers, a rhai rhannau o Aur Ffyliaid!

Y Daith Wastad
Y Daith Wastad | © National Trust Images/Chris Lacey

DISGRIFIAD
Taith Dywys Dan Ddaear o Fwynglawdd Tywyll

AMSEROEDD Y DAITH
15.30
Cyrraedd 15.15 – 15.30
Taith – 15.30 - 16.00

HYD
30 munud
LLWYBR
Iard y Mwynglawdd i fwynglawdd llawr gwastad ac yn ôl.
TIR
Mynediad rhwydd a gwastad i’r mwynglawdd, dim grisiau
LLE AR GYFER
6
CYFYNGIADAU
Dim cŵn. Dim plant dan 1M (fel arfer tua 5 oed)

Porth bwaog isel â grât metel wedi’i gerfio i mewn i wal garreg arw ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gâr.

Trefnwch eich ymweliad

Cofiwch fod angen i chi archebu tocynnau ar gyfer Teithiau Cerdded Dan Ddaear Dolaucothi. Gallwch archebu ar y diwrnod, hyd at 1 awr cyn yr amser rydych chi wedi’i ddewis (gan ddibynnu beth sydd ar gael). Bydd tocynnau ar gael bob dydd Iau am y 4 wythnos nesaf.