
Darganfyddwch fwy yng Ngerddi Dyffryn
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Darganfyddwch ryfeddodau gaeafol y gerddi ar y daith hon drwy’r Ardd Goed a’r gardd-ystafelloedd. Fe welwch goed enfawr yn dechrau blaguro, blodau’r gaeaf yn dod â fflach o liw, golygfeydd godidog o’r gerddi, nodweddion pensaernïol y gardd-ystafelloedd, a gardd yn paratoi at y gwanwyn.
Ar ôl prysurdeb arferol diwedd y flwyddyn a chyda dechrau blwyddyn newydd sbon, mae wâc aeafol yn ffordd wych o ofalu am eich corff a’ch meddwl yn ystod misoedd hir y gaeaf.
Codwch eich taflen ‘Ar Grwydr Gaeafol’ o’r Ganolfan Groeso wrth gyrraedd. Mae’n cynnwys map llawn o’r gerddi ac mae holl ddarnau diddorol yr ardd yn ystod y gaeaf wedi’u nodi er mwyn i chi allu dod o hyd iddyn nhw’n hawdd. Mae’n cynnwys pethau fel lilis bach gwynion, crocysau cynnar, Bocyslwyn y Nadolig a glaswellt addurniadol. Mae’r map hefyd yn nodi lle gwelwch chi ein Tŷ Gwydr, lle cewch fwynhau awyrgylch trofannol hyd yn oed yn nyfnderau’r gaeaf.
Ar gefn y daflen gallwch ddysgu ychydig mwy am waith ein garddwyr dros y gaeaf a beth sydd angen ei wneud i baratoi’r gerddi ar gyfer y gwanwyn.
Pa wâc aeafol fyddai’n gyflawn heb ddiod boeth ar y diwedd? Galwch draw i Gaffi’r Ardd am rywbeth i’ch twymo – mae gennym amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer, bwyd a snacs. Mae gennym ddewis gwych o gacennau hefyd!
Fel arall, dewch â chwpan gyda chi a mwynhewch diod boeth wrth fynd.
Mae gennym siop hyfryd yma, gyda llawer o nwyddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ogystal â nwyddau gan gyflenwyr lleol Cymreig. Rydym yn stocio llyfrau, eitemau ffasiwn, nwyddau’r gegin, offer garddio defnyddiol, jamiau, cyffeithiau a marmalêd, trîts siocled a bisgedi, a mwy. Mae gennym adran blanhigion boblogaidd iawn hefyd, felly casglwch rywbeth gaeafol i’w blannu yn eich gardd eich hun.
Mae sêl mis Ionawr ‘mlaen hefyd, felly gallech gael bargen!
Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.