Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Gardd Edwardaidd sy’n cael ei hadfer, gyda thirwedd dymhorol sy’n newid yn barhaus.
Gerddi Dyffryn, Sain Nicholas, Bro Morgannwg, CF5 6FZ
Asset | Opening time |
---|---|
Gardens | Gerddi | 10:00 - 16:00 |
Shop | Siop | 10:30 - 15:45 |
The Gardens Café | Caffi’r Gerddi | 10:00 - 15:30 |
Second-hand bookshop | Siop llyfrau ail law | 10:00 - 15:30 |
The Gallery Café | Caffi'r Oriel | Ar gau |
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
Adult | £13.20 | £12.00 |
Child | £6.60 | £6.00 |
Family | £33.00 | £30.00 |
Additional family = 1 parent and up to 3 children | £19.80 | £18.00 |
Group Adult | £11.40 | |
Group Child | £5.70 |
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer yn ogystal â chinio ysgafn, snacs a chacennau.
Mae ein siop ar agor bob dydd, rydym yn gwerthu amrywiaeth o gynhyrchion.
Rydym yn lle poblogaidd ar gyfer cerdded cŵn. Gofynnwn iddynt gael eu cadw ar dennyn byr bob amser. Rydym hefyd yn gwerthu trîts i gŵn yn ein siop a’n caffi, gan gynnwys hufen iâ cŵn.
Mae casgliad helaeth o blanhigion ar werth yma, yn ogystal â photiau, planwyr ac addurniadau eraill i’r ardd.
Mae ein maes parcio am ddim i bob ymwelydd. Mae yna lefydd parcio hygyrch ar gyfer deiliaid bathodyn glas a phwynt gwefru cerbydau trydan.
Mae ein siop lyfrau yn yr Oriel ac mae ar agor o 10am-4pm.
Mae gennym un pwynt gwefru ar gyfer ceir trydan.
Mae pedwar tŷ bach yn ein gerddi. Mae tri o’r rhain yn hygyrch ac wedi’u marcio’n glir ar ein map.
Parcio Bathodyn Glas, tai bach hygyrch, llwybr heb risiau o amgylch yr ardd. Sgwter symudedd a chadair olwyn ar gael i’w llogi ymlaen llaw.
Mae cadeiriau olwyn a sgwter symudedd ar gael i’w llogi (am ddim). Rydym yn argymell ffonio ymlaen llaw i archebu eich cadair olwyn.
Mae cadeiriau olwyn a sgwter symudedd ar gael i’w llogi (am ddim). Rydym yn argymell ffonio ymlaen llaw i archebu eich cerbyd symudedd.
Gall ein tîm croeso ddangos yr holl lwybrau hygyrch o gwmpas y gerddi i chi ar ein map.
Mae gennym dai bach hygyrch yn ein gerddi, ar bellter addas oddi wrth ei gilydd.
Gadewch yr M4 wrth gyffordd 33, i’r A4232 (i’r Barri). Cymerwch yr ail ffordd ymadael ac, wrth y gylchfan, cymerwch y bedwaredd allanfa, yr A48 (i’r Bont-faen). Ym mhentref Sain Nicolas, dilynwch yr arwyddion ar gyfer Gerddi Dyffryn.
Parcio: Cewch barcio am ddim ar y safle, ac mae llefydd hygyrch a phwynt trydan.
Sat Nav: Os yn defnyddio system GPS, nodwch Gerddi Dyffryn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu defnyddiwch y cod post CF5 6FZ.
Ein gorsaf drenau agosaf yw Caerdydd Canolog – tua 7 milltir (11.3km) i ffwrdd.
Cymerwch y gwasanaeth bws X2 i Sain Nicolas, ac yna cerdded tua milltir (1.6km). (Mae hon yn daith ar hyd ffordd wledig, heb balmant).
I ddod o hyd i'r maes parcio - what3words: ///deisebu.ymddwyn.gwerthwr
Ymwelwch â Gerddi Dyffryn fel grŵp a mwynhau gostyngiadau ar ffioedd mynediad, teithiau o’r gerddi Edwardaidd a bwyd blasus yn y caffis.
Mae gan Erddi Dyffryn sgôr o ddwy bawen. Dysgwch fwy am ymweld gyda’ch ci a sut rydym yn gwneud Dyffryn yn well fyth i gŵn.
Darganfyddwch pam fod Gerddi Dyffryn yn lle gwych am ddiwrnod allan i’r teulu gyda’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynllunio eich ymweliad.
Darganfyddwch erddi 55 erw Dyffryn, gan gynnwys yr ardd goed, planhigion trofannol y tŷ gwydr, Gerddi’r Gegin a’r ardal chwarae wyllt.
Amrywiaeth o erddi thema llai, sy’n adlewyrchu gwahanol wledydd ac arddulliau. Mae rhai ardaloedd yn cael eu hadfer ond mae’r rhan fwyaf ar agor i ymwelwyr.
Gardd gegin gynhyrchiol, a ddefnyddir i dyfu pob math o ffrwythau, llysiau a blodau addurniadol.
22 erw o goetir, gyda choed o bob cwr o’r byd. Mae rhai ardaloedd ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd, ond mae llawer o lwybrau ar agor.
Cartref i gasgliad mawr o gacti, planhigion suddlon, gwinwydd a phlanhigion trofannol – mae rhywbeth egsotig bob amser yn blodeuo yma.
Mae ardaloedd chwarae y Pentwr Pren yn feysydd chwarae sydd dan eu sang â phren, un o flaen ein Canolfan Groeso ac un fwy yn yr Ardd Goed.
Caffi sy’n cynnig diodydd poeth ac oer, cacennau, snacs, brechdanau a rhai bwydydd poeth fel pasteiod.
Siop ger y brif fynedfa sy’n gwerthu rhoddion unigryw, planhigion a bwyd. Mae yna siop lyfrau ail-law hefyd yn yr Oriel.
Lawnt ffurfiol fawr gyda nodweddion dŵr ac arddangosfeydd plannu tymhorol mawr.
Cofleidiwch dro’r tymhorau yr hydref hwn gyda chyfres o ddigwyddiadau a gosodiadau sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i brofi natur mewn ffyrdd newydd ac o safbwyntiau newydd. Dysgwch fwy yma.
Gwnewch atgofion teuluol llawen y Nadolig hwn yng Ngerddi Dyffryn, gyda golygfeydd hudolus, gemau, crefftau’r Nadolig a mwy.
Darganfyddwch erddi 55 erw Dyffryn, gan gynnwys yr ardd goed, planhigion trofannol y tŷ gwydr, Gerddi’r Gegin a’r ardal chwarae wyllt.
Darganfyddwch pam fod Gerddi Dyffryn yn lle gwych am ddiwrnod allan i’r teulu gyda’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynllunio eich ymweliad.
Mwynhewch brydau i dwymo’r galon neu snac ysgafn yn y caffi, gyda danteithion blasus yn goron ar eich ymweliad. A chofiwch alw i mewn i’r siop i brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad.
Join Rhian Rees from Wild and Fabulous Flowers for a festive workshop in the Gallery. Guided by Rhian, learn how to create beautiful, natural wreaths from greenery harvested by our Gardens Team and take a little piece of Dyffryn home with you.
From 7 December - 5 January enjoy Christmas crafts and get all the cosy festive family feels at Dyffryn Gardens.
Join us for Christmas crafting every Saturday and Sunday from 7-29 December.
After the hectic energy which often accompanies the end of one year and the start of another, a quiet winter walk is a great way to look after your body and mind during the ongoing winter months.
A little trail for a little month! Find some of the smaller things at Dyffryn Gardens, will you tick them all off your bingo sheet?
Yn hafan heddychlon ar gyrion Caerdydd, cewch ddarganfod rhywbeth newydd ar bob ymweliad â Dyffryn, o ardd-ystafelloedd cain thematig i lawntiau ffurfiol eang, gerddi cegin cynhyrchiol a gardd goed fawr. Mae’r gerddi’n gartref i nifer o wahanol arddulliau wedi’u hysbrydoli gan wledydd o bedwar ban byd, o ddylanwad Eidalaidd amlwg yr Ardd Bompeiaidd i blanhigion trofannol yr Ardd Egsotig. Gyda chaffi, siop a siop lyfrau ail-law, mae llawer i'w weld a’i wneud ar ymweliad â Gerddi Dyffryn. Datblygodd y gerddi rhestredig Gradd I hyn yn sgil partneriaeth rhwng y cynllunydd gerddi enwog, Thomas Mawson, a’r garddwriaethwr brwd a’r perchennog, Reginald Cory. Drwy ein dull o adfer y gerddi heddiw, rydym yn adeiladu ar ysbryd Mawson a Cory o draddodiad ac arbrofi. Nid ail-gread hanesyddol unfath yw’r nod – yn hytrach, rydym yn ceisio rhoi’r gwreiddiau Edwardaidd hanesyddol wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud a defnyddio ffyrdd newydd ac arloesol o wneud i’r lleoliad weithio ar gyfer y dyfodol, fel garddio gyda bioamrywiaeth a newid hinsawdd mewn golwg.
Adeiladodd John Cory y tŷ a’r gerddi yn Nyffryn gyda’r cyfoeth a enillodd drwy ei orchestion yn y diwydiant glo.
Dysgwch sut y gallwch gyfrannu yng Ngerddi Dyffryn a chael golwg ar y gwahanol gyfleoedd sydd ar gael.
Dysgwch sut rydyn ni’n gofalu am Erddi Dyffryn, o'r tasgau garddio bob dydd i sut rydyn ni’n adfer y gerddi nawr, a beth rydyn ni wedi'i wneud hyd yn hyn. Darganfyddwch yr holl ddulliau rydyn ni’n eu defnyddio i ofalu am y gerddi hyn i bawb eu mwynhau.
Dysgwch sut rydym yn gofalu am Dŷ Dyffryn i sicrhau y bydd yn sefyll yn falch wrth galon y gerddi i bawb, am byth.
Ffasâd wedi'i adfer yn cael ei ddatgelu ac arddangosfa Tŷ Darganfod newydd yn agor wrth i sgaffaldiau gael eu tynnu oddi ar dŷ hanesyddol yng Ngerddi Dyffryn.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.