Skip to content

Ein gwaith yn y tŷ yng Ngerddi Dyffryn

Golygfa o furiau’r tŷ, yn dilyn gwaith adnewyddu, o Bwll y Ffynnon yng Ngerddi Dyffryn
Golygfa o furiau’r tŷ, yn dilyn gwaith adnewyddu, o Bwll y Ffynnon yng Ngerddi Dyffryn | © FfotoNant

Mae’r tŷ fel y gwelwn ef heddiw yn tua 125 oed, ac mae wedi byw bywydau gwahanol iawn. Dysgwch sut rydym yn gofalu am y tŷ i sicrhau y bydd yn sefyll yn falch wrth galon y gerddi am 125 mlynedd arall i ddod.

Ffawd a ffortiwn Tŷ Dyffryn

Ailfodelodd John Cory y tŷ presennol yn y 1890au a bu aelod o’r teulu Cory yn byw yna tan farwolaeth Florence Cory ym 1936. Ers bod yn gartref teuluol mae wedi cael ei ddefnyddio fel Pencadlys wrth gefn a Sefydliad Hyfforddiant yr Heddlu, canolfan addysg breswyl, canolfan gynadledda, a mwy.

Yn y 1990au cafodd gwaith ei wneud i droi’r tŷ yn westy, ond ni chafodd y prosiect byth ei gwblhau. Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae gwaith trwsio wedi’i wneud, yn enwedig ar y llawr gwaelod, ac mae’r Prosiect Gwaith Cerrig wedi gwneud y tŷ’n wrth-ddŵr.

Bwrdd a chadeiriau’r ganolfan gynadledda yn yr Ystafell Dderw â’i phaneli pren yn y tŷ yng Ngerddi Dyffryn
Ystafell gyfarfod y ganolfan gynadledda yn y tŷ yng Ngerddi Dyffryn | © National Trust Images

Adfer y tu allan i’r tŷ

Yn hydref 2023 gwnaethom gwblhau ein gwaith adfer ar furiau allanol y tŷ. Roedd y tywydd wedi gwneud difrod i’r tŷ gan achosi i’r ffasâd calchfaen addurniadol ddadfeilio a gadael dŵr i mewn. I wneud y tŷ yn wrth-ddŵr, gwnaethom drwsio’r cerrig allanol, ailosod darnau plwm y to, trwsio’r gwaith coed ar y ffenestri allanol a chwblhau gwaith addurno allanol. Bydd y gwaith cadwraeth hanfodol hwn yn diogelu’r tŷ rhag difrod pellach ac yn adfer y ffasâd, gan ei alluogi i sefyll yn falch wrth galon yr ardd.

Pediment carreg wedi’i lanhau a’i adfer ar y tŷ yng Ngerddi Dyffryn
Pediment carreg wedi’i lanhau a’i adfer ar y tŷ yng Ngerddi Dyffryn | © National Trust Images / Milly Kelly

Pediment carreg cyn y gwaith adfer

Pediment carreg wedi’i orchuddio â mwsogl oren ac wedi’i ddifrodi gan y tywydd

1 of 3

Sut rydym hyn gofalu am y tŷ heddiw

Rydym yn parhau gyda gwaith cydymffurfiaeth a chadwraeth hanfodol ar ystafelloedd y tŷ i’w diogelu er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu eu mwynhau.

Gydag arolygon eang wedi’u cwblhau’n gynharach yn 2023 a mwy i ddod, rydym yn gwella ein dealltwriaeth o fywyd cyfan yr adeilad rhestredig Gradd II* hwn. Mae’r arolygon hyn yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o’r tŷ, gan ein helpu i gynllunio cam nesaf y gwaith.

Rydym yn cychwyn rhaglen o waith adfer ar yr ardaloedd lle mae dŵr wedi gwneud difrod i’r adeilad, cyn i’r tŷ gael ei wneud yn wrth-ddŵr. Mae hyn yn cynnwys trwsio’r paneli yn yr Ystafell Dderw, llawr yr Ystafell Filiards, a nenfwd y porte-cochère (‘porth’ allanol Wyneb Gogleddol y tŷ).

Byddwn yn parhau i roi diweddariadau i’n cefnogwyr wrth i ni weithio i warchod y tŷ hanesyddol hwn am flynyddoedd i ddod.

Arddangosfa Tŷ i’w Ddarganfod

Dysgwch fwy am y gwaith rydym yn ei wneud i ofalu am y tŷ a straeon ei wahanol fywydau yn ein harddangosfa newydd, ‘Tŷ i’w Ddarganfod’. Ar agor Dydd Iau, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, 11am i 3pm.

Golygfa o’r tŷ wedi’i adfer yn y pellter o’r gerddi gyda blodau yn y blaendir yng Ngerddi Dyffryn
Golygfa o’r muriau allanol o’r gerddi yn dilyn gwaith adfer yng Ngerddi Dyffryn | © FfotoNant

Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau y bydd y tŷ’n sefyll yn falch wrth galon yr ardd am 125 mlynedd arall i ddod.

Bob tro rydych chi’n ymweld, rydych chi’n cefnogi ein gwaith cadwraeth sy’n gwneud hyn yn bosibl. Mae pob paned rydych chi’n ei mwynhau, pob llyfr ail-law rydych chi’n ei ddarganfod, a phob planhigyn neu rodd rydych chi’n eu prynu yn ein helpu i ofalu am y lle arbennig hwn. Diolch.

Ffynnon Bowlen y Ddraig yn Nhŷ a Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg, Cymru

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.