Skip to content

Y tymor hwn yng Ngerddi Dyffryn

Ysgrifenwyd gan
Milly Kelly
Llun drôn o Erddi Dyffryn yn ystod y gaeaf
Gerddi Dyffryn yn y gaeaf | © James Dobson

Mae rhywbeth i’w fwynhau ym mhob tymor yng Ngerddi Dyffryn. Dyma gip cyflym i chi ar yr holl uchafbwyntiau a digwyddiadau tymhorol sydd ar ddod yn y gerddi.

Ar grwydr gaeafol

Ar ôl prysurdeb arferol diwedd y flwyddyn a chyda dechrau blwyddyn newydd sbon, mae wâc aeafol yn ffordd wych o ofalu am eich corff a’ch meddwl yn ystod misoedd hir y gaeaf.

Codwch eich taflen ‘Ar Grwydr Gaeafol’ o’r Ganolfan Groeso wrth gyrraedd. Mae’n cynnwys map llawn o’r gerddi ac mae holl ddarnau diddorol yr ardd yn ystod y gaeaf wedi’u nodi er mwyn i chi allu dod o hyd iddyn nhw’n hawdd. Mae’n cynnwys pethau fel lilis bach gwynion, crocysau cynnar, Bocyslwyn y Nadolig a glaswellt addurniadol. Mae’r map hefyd yn nodi lle gwelwch chi ein Tŷ Gwydr, lle cewch fwynhau awyrgylch trofannol hyd yn oed yn nyfnderau’r gaeaf.

Ar gefn y daflen gallwch ddysgu ychydig mwy am waith ein garddwyr dros y gaeaf a beth sydd angen ei wneud i baratoi’r gerddi ar gyfer y gwanwyn.

The Exotics Garden at Dyffryn Gardens in the Vale of Glamorgan during winter
The Exotics Garden at Dyffryn Gardens in the Vale of Glamorgan during winter | © James Dobson

Bwyd a diod

Pa wâc aeafol fyddai’n gyflawn heb ddiod boeth ar y diwedd? Galwch draw i Gaffi’r Ardd am rywbeth i’ch twymo – mae gennym amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer, bwyd a snacs. Mae gennym ddewis gwych o gacennau hefyd!

Fel arall, dewch â chwpan gyda chi a mwynhewch diod boeth wrth fynd.

Caffi’r Ardd, Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg
Caffi’r Ardd, Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg | © Milly Kelly

Digwyddiadau’r Gaeaf

Big Garden Birdwatch yr RSPB

Dydd Gwener 27 – Dydd Sadwrn 29 Ionawr 2023

Rydym yn eich gwahodd i wneud Big Garden Birdwatch yr RSPB yn ein gardd fawr ni eleni. Mae’r digwyddiad gwylio adar blynyddol yn ôl am flwyddyn arall, felly casglwch eich taflenni gwylio adar o’n Canolfan Groeso a gwnewch eich gwylio yng Ngerddi Dyffryn.

Mae’r gweithgaredd hwn yn wych i’r teulu cyfan ac yn rhywbeth y gall sawl cenhedlaeth ei wneud gyda’i gilydd. Mae gennym daflenni gwylio adar Cymraeg a Saesneg, mae’r holl gyfarwyddiadau ar beth i’w wneud ar y daflen, a bydd gennym fyrddau gwybodaeth o gwmpas yr ardd gyda chyngor defnyddiol ar wylio adar a’r llefydd gorau i wylio adar yng Ngerddi Dyffryn.

Os hoffech anfon eich canlyniadau at yr RSPB, mae gwybodaeth am sut i wneud hyn ar y taflenni – yn anffodus ni allwn anfon eich taflenni ar eich rhan eleni.

Helpwch i adeiladu clawdd marw

Dydd Sadwrn 11 – Dydd Sul 12 Chwefror 2023

Helpwch ni i adeiladu’r clawdd marw o gwmpas ardal chwarae’r Pentwr Pren. Mae’n helpu i ddangos ffiniau’r ardal a bydd yn dod yn gartref pwysig iawn i lawer o greaduriaid bach. Galwch draw am 20 munud neu gwpl o oriau (faint bynnag a fynnoch chi!) a gwau’r canghennau a’r brigau drwy ffrâm y clawdd i’w adeiladu o’r ddaear i fyny, gan ychwanegu eich ymdrechion eich hun at wella’r rhan boblogaidd hon o Erddi Dyffryn.

Bydd ein Tyfwr Coed, Rory, wrth law i’ch helpu i adeiladu’r clawdd. Mae’r canghennau bach a’r pren fyddwn ni’n eu defnyddio yn berffaith i ddwylo bach! I gadw pawb yn ddiogel byddwn yn sicrhau nad oes drain na mieri, a thra bod y clawdd yn cael ei adeiladu bydd yr ardal chwarae ar gau. Fel bob amser, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo’n addas ar gyfer y tywydd, a gwisgwch sgidiau synhwyrol.

Y Mis Bach

Dydd Sadwrn 18 – Dydd Sul 26 Chwefror 2023

Llwybr bach ar gyfer mis bach! Cadwch olwg am deils pren o gwmpas yr ardd – byddant yn eich helpu i ddod o hyd i’r holl bethau bach wrth i chi grwydro Gerddi Dyffryn.

Does dim cost ychwanegol (rhaid talu’r ffi fynediad arferol) - casglwch daflen y llwybr a phensil o’n Canolfan Groeso wrth gyrraedd a dysgwch bopeth am y pethau bach hyfryd sy’n digwydd yn y gerddi yn ystod y gaeaf.

Uchafbwyntiau’r gaeaf

Ydy, mae hi’n aeaf, ond mae Gerddi Dyffryn yn odidog o hyd. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae strwythur y gerddi’n dod i’r amlwg, ac mae arogleuon y llwyni persawrus, gan gynnwys pren bocs y Nadolig, y gaeaflys pêr a gwyddfid y gaeaf, yn llenwi’r aer glaear. Dilynwch eich trwyn i ddarganfod mwy o arogleuon cynnil o’r sarcococca, chimonanthus a’r hamamelis.

Planhigion sy’n blodeuo yn y gaeaf

Cadwch olwg am lilis bach gwynion cynnar. Fe’u gwelwch yn aml yn swatio o dan goed ochr yn ochr â chlystyrau o grafangau’r arth yma ac acw o gwmpas y gerddi. Ymysg y planhigion eraill sy’n blodeuo dros y gaeaf mae camelias a syclamen.

Yn y tŷ gwydr, fe welwch degeirianau, bromeliadau a phlanhigion alwys yn blodeuo mewn môr o liw a chynhesrwydd, mewn cyferbyniad â’r oerni tu allan.

The Exotics Garden at Dyffryn Gardens in the Vale of Glamorgan during winter
The Exotics Garden at Dyffryn Gardens in the Vale of Glamorgan during winter | © James Dobson

Strwythurau syfrdanol

Mae ffurfiau’r coed collddail a gweadau amrywiol eu rhisgl yn dod i’r amlwg yn ystod y gaeaf. Mae meindwr gwych cochwydden y wawr yn yr Ardd Egsotig yn ffefryn go iawn. A chadwch olwg am risgl llachar y coed bedw ifanc ar Fanc y Cynel a sinamon brith y boncyffion stewartia yn yr Ardd Goed.

Ar grwydr gaeafol

1 Ionawr 2024

Ar ôl prysurdeb arferol diwedd y flwyddyn a chyda dechrau blwyddyn newydd sbon, mae wâc aeafol yn ffordd wych o ofalu am eich corff a’ch meddwl yn ystod misoedd hir y gaeaf.

Codwch eich taflen ‘Ar Grwydr Gaeafol’ o’r Ganolfan Groeso wrth gyrraedd. Mae’n cynnwys map llawn o’r gerddi ac mae holl ddarnau diddorol yr ardd yn ystod y gaeaf wedi’u nodi er mwyn i chi allu dod o hyd iddyn nhw’n hawdd. Mae’n cynnwys pethau fel lilis bach gwynion, crocysau cynnar, Bocyslwyn y Nadolig a glaswellt addurniadol. Mae’r map hefyd yn nodi lle gwelwch chi ein Tŷ Gwydr, lle cewch fwynhau awyrgylch trofannol hyd yn oed yn nyfnderau’r gaeaf.

Ar gefn y daflen gallwch ddysgu ychydig mwy am waith ein garddwyr dros y gaeaf a beth sydd angen ei wneud i baratoi’r gerddi ar gyfer y gwanwyn.

Visitors walking in the wintry Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan
Visitors walking in the wintry Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan | © National Trust Images/James Dobson

Beth am gadw’r tab hwn yn eich ffefrynnau? Byddwn yn ei ddiweddaru’n rheolaidd gyda holl ddigwyddiadau’r tymor, felly galwch ‘nôl yma mewn ychydig wythnosau i weld pa ddigwyddiadau cyffrous sydd i ddod ym mis Mawrth a mis Ebrill.

Herbaceous Border in summer, Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan

Darganfyddwch fwy yng Ngerddi Dyffryn

Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.