Gallai Cofrestr Genedlaethol ddwyn ffrwyth i ddyfodol afalau o Gymru
- Cyhoeddwyd:
- 05 Mai 2025

Heddiw, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn creu Cofrestr Genedlaethol o Isrywogaethau Coed Afal o Gymru sy’n dynodi 29 o wahanol fathau o afalau o Gymru er mwyn helpu i ddiogelu treftadaeth afalau gyfoethog Cymru.
Mae’r gofrestr yn ganlyniad tair blynedd o weithio ar y cyd a gweithdai, gan ddwyn ynghyd pobl sy’n frwd dros afalau a pherllannau, gan gynnwys yr awdur a’r arbenigwr mewn adnabod afalau, Carwyn Graves, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a’r Marcher Apple Network [2].
Mae’r cyhoeddiad yn cyd-fynd gydag ymgyrch flynyddol #GwleddYGwanwyn #BlossomWatch sy’n annog pobl i fwynhau un o olygfeydd ysblennydd byd natur - blodau’r gwanwyn, wrth i goed afalau ar hyd a lled Cymru ffrwydro gyda blodau gwyn a phinc.
Mae afalau wedi bod yn cael eu tyfu yng Nghymru am dros fil o flynyddoedd. Mae cyfeiriadau at y perllannau a’r ffrwyth yn ymddangos yn eang mewn mythau, barddoniaeth, cerddoriaeth werin ac enwau lleoedd, gan gynnwys yng nghyfres chwedlau enwog y Mabinogi, rhai o’r cyfeiriadau cyntaf at ‘Myrddin’ mewn llenyddiaeth, a’r traddodiad eiconig o gerfio llwyau caru o goed afalau.
Yn ôl gwaith ymchwil a ymgymerwyd gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn 2022, mae Cymru a Lloegr wedi colli dros hanner eu perllannau ers 1900 [3] oherwydd newidiadau mewn defnydd tir, gyda chyfraddau o golli perllannau yn debygol o fod yn llawer uwch na hyn yng Nghymru dros yr hanner canrif ddiwethaf. Canlyniad hyn yw colli coed afalau, ffrwyth lleol a chynefinoedd ar gyfer byd natur, sy’n golygu y gall llai o bobl fwynhau harddwch y coed yn eu blodau.
Er mwyn mynd i’r afael â’r dirywiad yma sy’n cael ei gydnabod yn eang, mae aelodau o’r rhwydwaith Marcher Apple Network wedi bod yn chwilio am isrywogaethau coll a threftadaeth mewn perllannau a gerddi led-led Cymru a siroedd gororau Lloegr am dros 40 mlynedd. O’u casgliadau a chasgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Casgliad Ffrwythau Cenedlaethol yn Brogdale mae yna nawr graidd i Gasgliad Cenedlaethol Cymru.
Nod Cofrestr Genedlaethol Isrywogaethau Afalau Cymru yw helpu i wrthsefyll y golled yma drwy gofnodi a rhannu rhan sylweddol o dreftadaeth naturiol ddiwylliannol Cymru ac annog parhau i gynaeafu’r ffrwythau cyffredin yma, gan ddod ag afalau Cymru a’u blodau cysylltiedig yn ôl i Gymru.
Meddai Carwyn Graves, arbenigwr adnabod Afalau ac awdur Afalau Cymru ac Apples of Wales,
“Roedd treftadaeth afalau unigryw Cymru bron â mynd yn angof rhyw ddegawd neu ddau yn ôl, ond mae ganddi werth diwylliannol sylweddol - sy’n cael ei adlewyrchu ym mhopeth, o ganeuon gwerin poblogaidd yn seiliedig ar afalau a pherllannau i draddodiad seidr ffermdy eithriadol o ddiddorol sy’n ymestyn yn ôl i’r Canol Oesoedd!”
“Rydym yn adeiladu ar y gwaith mae nifer o unigolion a sefydliadau wedi’i wneud dros y degawdau diwethaf yma i ddiogelu’r dreftadaeth enetig unigryw yma. Yn gyffrous iawn, cyn belled ag y gwyddom ni, dyma’r Gofrestr Genedlaethol cyntaf o’i bath sy’n dosbarthu isrywogaethau - felly mae’n cynnwys mathau sydd wedi ymddangos yn rhywle arall neu o fewn ardal hanesyddol y Mers ond sydd wedi datblygu cysylltiadau diwylliannol cryf gyda chymunedau yng Nghymru.”
Mae gan Gofrestr Genedlaethol Isrywogaethau Afalau o Gymru dri chategori o fathau wedi’u diffinio: ‘Hanesyddol’ sy’n dyddio o cyn y 1950au, ‘modern’ sy’n cael eu hadnabod fel wedi’r 1950au a ‘chysylltiedig’, sy’n afalau nad ydynt wedi cael eu bridio yng Nghymru, ond sydd/wedi bod yn arwyddocaol yn ddiwylliannol.
Dechreuodd y gwaith i lunio rhestr o fathau gwahanol o afalau o Gymru ym mis Mawrth 2022 yn seiliedig ar restr ragarweiniol o dros 120 o bosibiliadau a ddarparwyd gan y Marcher Apple Network. Mae pob un sy’n cael eu henwi ar y Gofrestr yn eu blodau nawr, mewn gerddi a pherllannau sy’n cael eu gofalu amdanynt gan The Marcher Apple Network, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Erddig ger Wrecsam, a Chastell Penrhyn a’r Ardd ger Bangor, Llanerchaeron yng Ngheredigion, ac yn ddiweddar yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru sydd â Chasgliad Cenedlaethol Afalau Treftadaeth Cymru Treftadaeth Planhigion.
Ychwanegodd Alex Summers, Prif Arddwr Llanerchaeron, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru sy’n rhan o’r grŵp sydd wedi dwyn ynghyd Cofrestr Genedlaethol Isrywogaethau Afalau o Gymru:
“Yn Llanerchaeron rydym yn ddigon ffodus i fod â 6 o’r 29 o wahanol fathau o afalau [4] ar y Gofrestr Genedlaethol, diolch yn rhannol i reoli’r ardd mewn ffordd ystyrlon am bron i ddwy ganrif.
Gellir dod o hyd i’r isrywogaethau, gan gynnwys Baker’s Delicious, Enlli, Gwell Na Mil, a Llanerchaeron Peach yn tyfu yn yr Ardd Furiog. Mae rhai yn hen goed, ac mae eraill wedi’u plannu’n fwy diweddar, ond mae’r cyfan yn cyfrannu at greu perllan dreftadaeth.
“Drwy ddewis mathau sy’n cael eu rhestru ar y Gofrestr wrth blannu coed afalau, nid yn unig fydd gan bobl goeden sy’n addas i hinsawdd newidiol Cymru ac sy’n gallu gwrthsefyll yr afiechydon sy’n fwyaf amlwg yn rhan orllewinol Prydain, ond byddant hefyd yn helpu i ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol Cymru fel rydym ni’n ei wneud yma yn Llanerchaeron.”[4]
Mae 35 math arall yn parhau i gael eu hystyried gan y grŵp ar gyfer y Gofrestr Genedlaethol ac mae yna fathau coll o goed afalau o Gymru sydd i’w canfod o hyd, megis Forman’s Crew, Bassaleg Pippin a Pêr Gwenyn.
Mae cais am i unrhyw un yng Nghymru sydd â hen goeden afalau sy’n gysylltiedig gyda hen berllan neu fferm i gysylltu â ni, gan ddarparu’r lleoliad (what three words, cyfeirnod grid neu gyfesurynnau), ffotograffau o’r goeden a’r afalau, a disgrifiad byr o’r goeden a’r ffrwyth, drwy: WelshAppleTrees@marcherapple.net a carwyn@ceginybobl.co.uk