Ymweld â'r ardd yn Llanerchaeron
Lluniwyd ystad Llanerchaeron yn niwedd y ddeunawfed ganrif gan John Nash. Mae’r ystad yn cynnwys Gardd Furiog a Gerddi Hamdden a chawsant eu mwynhau gan genedlaethau o’r teulu Lewis.
O’r Fila gallwch fwynhau taith gerdded dawel dan ganopi’r ffawydd a’r pinwydd, sy’n swatio ymhlith y rhododendronau, at y llyn lle ceir golygfeydd bugeiliol ar draws yr ystad ehangach.
Ers talwm, roedd yr Ardd Furiog yn fwrlwm o ddiwydiant yn y cyfnod Sioraidd; ond heddiw, mae naws fwy rhamantaidd a breuddwydiol yn perthyn iddi. Hyd y dydd heddiw, caiff amrywiaeth eang o gynnyrch ei dyfu yno – a gallwch brynu rhywfaint ohono i fynd ag ef adref gyda chi.
Yr Ardd Furiog
O fewn y waliau fe welwch ardd gegin gynhyrchiol, coed ffrwythau hynafol, gweddillion technoleg arddwriaethol sy’n cwmpasu oes yr ardd, borderi blodau a gardd berlysiau fendigedig.
Yr Haf yn yr Ardd Furiog
Gyda’r tymor ar ei anterth, mae gwelyau llysiau Llanerchaeron yn gyforiog o gnydau sy’n aeddfedu. Mae’r gwaith cynaeafu eisoes wedi dechrau a bydd yn parhau drwy’r haf. Yn aml, gallwch brynu rhywfaint o’r cynnyrch tymhorol blasus hwn yn Adeilad yr Ymwelwyr.
Ochr yn ochr â’r llysiau mae’r hen berllan a’r coed ffrwythau’n gyforiog o afalau, gellyg, eirin a mwy. Nid yn unig y mae cynnyrch yr Ardd Furiog yn fwytadwy, ond mae hefyd yn cynnwys blodau o bob lliw a llun – dahlias, blodau’r haul a phys pêr i enwi dim ond rhai.
Mae llawer o’r blodau a dyfir yma’n parhau i gael eu defnyddio i greu trefniadau blodau ar gyfer Fila Llanerchaeron a Dinefwr gerllaw. Ochr yn ochr â’r gwelyau blodau hyn, mae’r Parterre Rhosynnau yn llawn arogleuon hyfryd rhosynnau Ffrengig persawrus fel Cardinal de Richelieu, Mme Isaac Pereire a Mme Plantier.
Gwelyau gwres i ffrwythau
Ers talwm, byddai’r waliau deheuol yn cael eu gwresogi gan bydewau tân – gellir gweld olion y rhain o hyd, yn ogystal â dau wely a gâi eu gwresogi gan hypocawstiau (aer poeth a gâi ei gylchredeg mewn gwagle dan y llawr) ac a ddefnyddid i gynhyrchu ffrwythau. Yn yr iard fframiau, fe welwch bydew tân tebyg a ddefnyddid i wresogi’r fframiau oer i dyfu planhigion ifanc ar gyfer yr ardd.
Y tŷ gwydr Fictoraidd
Ar hyd y wal ddeheuol ceir tŷ gwydr Fictoraidd a gâi ei wresogi gan bibellau dŵr poeth – mae’r pibellau hyn yno o hyd, ond nid ydynt yn gweithio erbyn hyn. Hefyd, ceir tŷ gwydr concrit o’r 1950au sy’n araf ddadfeilio – un o blith dim ond pedwar tŷ gwydr o’r fath sy’n dal i fodoli! Mae gweddillion y tai gwydr hyn yn cofnodi bron i 200 mlynedd o ddatblygiadau garddwriaethol a gynorthwyodd gardd gegin Llanerchaeron i gynhyrchu’r cynnyrch cynharaf a phrinnaf.
Mwy na hanner cant o wahanol fathau o afalau
Mae coed afalau hynafol, a dyfwyd yn wreiddiol ar ffurf gwyntyllau, wedi creu eu siapiau unigryw eu hunain. Yn wir, maen nhw fel pe baent wedi gweld pob tymor a aeth heibio ers i’r gerddi muriog gael eu hadeiladu. Yn y blynyddoedd diwethaf, plannwyd ychwaneg o goed afalau yn yr ardd furiog a bellach ceir mwy na hanner cant o wahanol fathau o afalau.
Yr ardd berlysiau
Lleolir yr ardd berlysiau dan wal ddeheuol yr Ardd Furiog Ddwyreiniol. Mae 25 o welyau petryal, sydd wedi’u trefnu ar ffurf ‘cynllun nodau piano’, yn llawn o berlysiau coginio a meddygol.
Cynnyrch ffres o’r ardd i’ch plât
Mae cynnyrch ar werth yn nerbynfa’r ymwelwyr ac mae’r arlwy’n amrywio yn ôl y tymor. Caiff popeth yn yr ardd gegin ei dyfu’n araf ac yn ffres, ac o’r herwydd mae’r cynnyrch yn llawn sudd a blas. Mae tîm o staff a gwirfoddolwyr yn trin y planhigion, yn casglu’r ffrwythau a’r llysiau ac yn eu paratoi i’w gwerthu.
Rydym hefyd yn gwerthu amrywiaeth o blanhigion a pherlysiau lluosflwydd a luosogwyd ar yr ystad. Trwy brynu cynnyrch Llanerchaeron, byddwch yn ein helpu i ofalu am yr ardd hon a pharhau i’w hadfer. Diolch.
Y Gerddi Hamdden
Y tu hwnt i’r Ardd Furiog lleolir y llyn a’r Gerddi Hamdden. Dyma lecyn tawel a chysgodol i fwynhau tro heddychlon o amgylch y llyn, gwylio’r bywyd gwyllt a chael golwg ar yr ystad ehangach.
Ym misoedd yr haf, mae’r Gerddi Hamdden yn cynnig cysgod braf wrth ymyl blodau bendigedig y rhododendronau a’r lilïau dŵr ar y llyn.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Crwydrwch yr ystâd yn Llanerchaeron
Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.
Hanes Llanerchaeron
Am dros dair canrif bu Llanerchaeron yng Ngheredigion yn gartref i ddeg cenhedlaeth o’r teulu Lewis/Lewes. Dysgwch sut y cyfrannodd pob cenhedlaeth at yr ystâd fel y gwelwch chi hi heddiw.
Ymweld â fila John Nash yn Llanerchaeron
Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.
Bwyta a siopa yn Llanerchaeron
Ar eich ymweliad â Llanerchaeron beth am sbwylio eich hun i hufen iâ enwog Conti’s Café, prynu cynnyrch ffres a dyfwyd yn yr ardd neu bori’r siop lyfrau ail-law.